Oporto
Cadwyn o fwytai bwyd cyflym yn Awstralia yw Oporto sy'n gwerthu byrgyrs a chyw iâr wedi'i grilio yn null Portiwgalaidd. Fe'i sefydlwyd gan António Cerqueira yng Ngogledd Bondi, Sydney, yn 1986. Mae'n debyg i gadwyn bwytai Nando's o Dde Affrica, sydd hefyd yn gweini cyw iâr Portiwgalaidd ac yn gweithredu yn Awstralia.
Enghraifft o'r canlynol | busnes, cadwyn o dai bwydydd parod |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1986 |
Pencadlys | St Leonards |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Gwefan | https://www.oporto.com.au/ |
Yn rhyngwladol
golyguMae dros 100 o fwytai Oporto yn Awstralia a Seland Newydd. Ar hyn o bryd mae Oporto yn gweithredu mewn pum talaith a thiriogaeth yn Awstralia; De Cymru Newydd, Victoria, Queensland, Gorllewin Awstralia, De Awstralia a Thiriogaeth Prifddinas Awstralia, yn ogystal ag ar Ynys y Gogledd o Seland Newydd. Yn y gorffennol mae wedi gweithredu yn Fietnam, Tsieina, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a Sri Lanca. Yn ddiweddar, agorodd Oporto ei leoliad cyntaf yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, a leolir yn Dubai.