Osbert Fynes-Clinton

athro Ffrangeg yng ngholeg y Gogledd, Bangor

Un o dafodieithegwyr cynnar y Gymraeg oedd Osbert Henry Fynes-Clinton (9 Tachwedd 18699 Awst 1941). Hanodd Fynes-Clinton o Fanceinion, yn fab i reithor Barlow Moor ger Didsbury. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, lle astudiodd ieithoedd modern. Bu'n athro Ffrangeg yn King Edward's School, Aston, Birmingham tan 1904, pryd penodwyd yn athro Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Arhosodd yn ardal Bangor hyd ei farwolaeth yn 1941, ac roedd ei ddiddordeb yn nhafodiaith yr ardal yn dyddio o'r adeg honno.

Osbert Fynes-Clinton
Ganwyd9 Tachwedd 1869 Edit this on Wikidata
Barlow Moor Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata
TadOsbert Fynes-Clinton Edit this on Wikidata
MamLouisa Lloyd Edit this on Wikidata
PriodGwladys Mabel Hughes Edit this on Wikidata
PlantDavid Osbert Fynes-Clinton Edit this on Wikidata

Ei brif waith yw geiriadur tafodiaith Bangor a'r cylch The Welsh vocabulary of the Bangor district a gyhoeddwyd yn 1913. Roedd wedi'i seilio ar waith maes ar y dafodiaith honno, sy'n perthyn i'r Wyndodeg, a gyflawnwyd rhwng 1904 a 1912. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y dafodiaith leol a anwyd rhwng 1835 a 1859 o Fangor, Pentir, Aber a Llanfairfechan. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg tafodieitheg y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.

Llyfryddiaeth golygu

Clasur Fynes-Clinton:

  • The Welsh vocabulary of the Bangor district (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1913; adargraffwyd Llanerch, 1995)