Osian Rhys Jones
Mae'r Prifardd Osian Rhys Jones yn fardd Cymraeg sy'n arbenigo yn y canu caeth.
Cafodd ei fagu ger Y Ffôr, Pwllheli a bu'n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Coleg Meirion-Dwyfor a Phrifysgol Aberystwyth. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd[1].
Yn Hydref 2012 roedd yn un o bedwar bardd a dderbyniodd her Llenyddiaeth Cymru i sgwennu 100 o gerddi mewn 24 awr.[2] Mae'n clera Cymru benbaladr yn darllen ei waith.[3] Yn 2012 cydweithiodd gyda'r cyfansoddwr Endaf Emlyn i sgwenu cân am dref Pwllheli.[4].
Enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 am ei gerdd ar y testun Yr Arwr/Arwres[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Osian Rhys Jones yn ennill Cadair y Brifwyl ym Môn
- ↑ [1] 100 o gerddi
- ↑ Bragdy'r Beirdd adalwyd 07/11/2012
- ↑ Gwefan Osian Rhys Jones dot com; adalwyd 07/11/2012
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Maniffesto Osian Rhys Jones Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback