Owen Griffith (Giraldus)
Geinidog gyda'r Bedyddwyr Cymraeg yng Nghymru a'r Unol Daleithiau oedd Owen Griffith (Giraldus) (1 Chwefror[1][2] 1832 - 14 Mai 1896). Roedd yn awdur ac yn olygydd Y Wawr, papur Cymraeg y Bedyddwyr yn yr Unol Daleithiau.
Owen Griffith | |
---|---|
Ffugenw | Giraldus |
Ganwyd | 1 Chwefror 1832 Garndolbenmaen |
Bu farw | 14 Mai 1896 o diabetes Utica |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, golygydd, llenor, saer llongau |
Cefndir
golyguGanwyd Owen Griffith yn Tynybraich, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yn fab i Griffith Jones, gwas ffarm ac Elinor ei wraig (mae Owen a'i brodyr a chwiorydd yn defnyddio enw cyntaf eu tad fel cyfenw, yn y traddodiad enwau tadol Cymreig).[3]. Roedd yn frawd i'r bardd Evan Griffith (Ieuan Dwyfach). Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol Garndolbenmaen. Cafodd ei fedyddio yn aelod o enwad y Bedyddwyr pan oedd yn 13 mlwydd oed.
Gyrfa
golyguTua 14 mlwydd oed aeth yn brentis saer llongau ym Mhorthmadog, gan weithio fel saer llong nes oedd tua 30 mlwydd oed, pryd yr aeth i Athrofa Hwlffordd i baratoi am weinidogaeth y Bedyddwyr.[4]
Wedi ymadael a'r athrofa dderbyniodd alwad i weinidogaethu ym Moriah, Rhisga, Sir Fynwy, cyn symud maes ei wasanaeth i Abergele.[5]
Ym 1866 ymfudodd i Unol Daleithiau America gan ddyfod yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr ym Minersville, Pennsylvania ym mis Chwefror 1867, fel olynydd Spinther. Arhosodd ym Minersville am ddwy flynedd pan aeth i Athrofa Ddiwinyddol Crozer yn Upland, Pennsylvania (bu Martin Luther King yn efrydydd yn yr un athrofa blynyddoedd wedyn). Wedi blwyddyn yn Crozer derbyniodd alwad i wasanaethu'r Bedyddwyr Cymraeg yn Utica, Talaith Efrog Newydd ym 1872, lle arhosodd hyd ddiwedd ei fywyd.
Gwaith llenyddol
golyguCyn gadael Cymru roedd Giraldus wedi cyhoeddi ambell i ddarn barddonol yn Y Greal, cylchgrawn crefyddol misol, oedd yn gwasanaethu enwad y Bedyddwyr.[6]
Ym 1872 cyhoeddodd ei lyfr gyntaf Above and Around: Containing Religious Discourses and Germs. Together with Observations on Men and Things in Wales and America, llyfr o bregethau, brasluniau am bynciau crefyddol, ambell atgof am ei fywyd yng Nghymru yn ogystal â'i argraffiadau cyntaf o fywyd yn America.[7]
Ym 1876; cychwynnodd cyhoeddi a golygu Y Wawr, cylchgrawn misol y Bedyddwyr Cymreig yn America. Parhaodd yn olygydd y cylchgrawn hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd fersiwn Saesneg o'r Cylchgrawn am gyfnod byr The Daylight. Bu farw'r ddau gylchgrawn o fewn ychydig fisoedd o'i farwolaeth ef a fu Beyddwyr America heb gylchgrawn wedi hynny.[8]
Ym 1883, cyhoeddodd llyfr o'r enw "Oriel o Weinidogion Bedyddiedig Cymreig America"
Ym mis Awst 1885 dychwelodd i Gymru ar daith estynedig gan bregethu mewn llawer o leoedd yn y Gogledd a'r Deheudir. Ym 1887, cyhoeddodd lyfr am hanes ei daith "Naw Mis yng Nghymru" .
Ym 1891 cyhoedodd "Y Ddwy Ordinhad Gristionogol yn eu Gwraidd a'u Dadblygiad" [9] llyfr sydd bennaf yn cyfiawnhau barn y Bedyddwyr bod bedydd fel ymrwymiad i Gristionogaeth gan oedolyn yn well na bedydd plentyn.
Teulu
golyguPriododd Hannah Jones, o Remsen, Efrog Newydd cawsant ddwy ferch.[10]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty St. Elizabeth, Utica yn 64 mlwydd oed o broblemau cysylltiedig â diabetes.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae ei gofiant yn Y Drych yn ddweud ei fod wedi marw yn 63 mlwydd, 3 mis a 13 diwrnod oed sy'n rhoi'r dyddiad geni 1 Chwefror 1832 yn ôl wefan Date Calculator
- ↑ "Y DIWEDDAR GIRALDUS - Y Drych". Mather Jones. 1896-05-21. Cyrchwyd 2020-02-15.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol cyf HO107/1391 Cyfrifiad 1841 Tynybraich, Penmorfa Sir Gaernarfon (ardal cofrestru Ffestiniog Sir Feirionnydd)
- ↑ Y Wawr: Cylchgrawn misol y Bedyddwyr Cymreig yn America, Cyf. XXI rhif. 6 (Mehefin 1896), "MARWOLAETH Y PARCH. OWEN GRIFFITH, GOLYGYDD Y 'WAWR.'"
- ↑ Owen, Bob ; Croesor (1953). GRIFFITH, OWEN (‘Giraldus’; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ Cylchgronau Cymru – Y Greal (Llangollen) adalwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ copi digidol o Above and Around ar Google Books adalwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ Griffith, John Thomas (1845-1917), Brief biographical sketches of deceased Welsh Baptist ministers who have laboured in northeastern Pennsylvania from 1832 to 1904 (Edwardsville PA: J.T. Griffith, 1904)
- ↑ "Y DDWY ORDINHAD GRISTIONOGOL YN EU GWRAIDDAU DADBLYGIAD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1892-07-01. Cyrchwyd 2020-02-15.
- ↑ "Newddion Cymreig - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1896-06-11. Cyrchwyd 2020-02-15.