Owen Jones Ellis Nanney

milwr a gwleidydd cymreig

Roedd yr Uwchgapten Owen Jones Ellis Nanney Plas Gwynfryn (1790 - 27 Hydref 1870) yn filwr, yn dirfeddiannwr ac yn ffug Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon am gyfnod ym 1833

Owen Jones Ellis Nanney
Ganwyd1790 Edit this on Wikidata
Bryncir Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1870 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Man preswylPlas Gwynfryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmilwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn ap John Jones Edit this on Wikidata
MamElis ferch Richard Ellis Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Owen Jones ym Mryncir yn fab i John Jones ac Elizabeth Ellis, ei wraig. Roedd Elizabeth yn chwaer i David Ellis twrnai cyffredinol gogledd Cymru. Ym 1812 etifeddodd David Ellis ystadau Bachwen ac Elernion ar yr amod ei fod yn ategu'r cyfenw Nanney i'w un ef. Pan fu farw David Ellis Nanney ym 1819 daeth Owen Jones yn etifedd iddo ar yr amod ei fod yn defnyddio'r cyfenw Ellis Nanney.[1]

Ym 1843 priododd Mary ferch hynaf a chyd etifedd Hugh Jones, Hengwrt Uchaf a Phlas Hen Dolgellau. Eu hunig fab oedd Hugh Ellis Nanney a safodd dau etholiad yn aflwyddiannus yn erbyn David Lloyd George ym 1890 a 1895.[2]. Bu farw Mrs Ellis Nanney ym 1849[3].

Gwasanaethodd Nanney gyda 10fed Catrawd Traed filwyr Madrass fel is gapten yn amddiffyn buddianau Anrhydeddus Gwmni Gorllewin India; bu'n Uwchgapten ar filisia Sir Gaernarfon.

Gwasanaethodd fel Dirprwy Raglaw Sir Gaernarfon ym 1840 ac fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1843[4].

Etholiadau

golygu

Yn etholiad cyffredinol 1832 safodd Nanney ar ran y Ceidwadwyr yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Y canlyniad a gyhoeddwyd oedd

Etholiad cyffredinol 1832: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles Paget 410 53
Ceidwadwyr Owen Jones Ellis Nanney 363 47
Mwyafrif 47 6
Y nifer a bleidleisiodd 855

Honnodd cefnogwyr Nanney bod hyn yn ffug, gan fod nifer o'r rai a fwriodd pleidlais ar gyfer Paget heb hawl gyfreithiol i wneud hynny a bod nifer o etholwyr dilys oedd am bleidleisio iddo ef wedi eu gwrthod; ac mae'r gwir bleidlais oedd Nanney 336 a Paget 337 a chodwyd Deiseb Seneddol i herio'r canlyniad[5]. Ar 5 Mawrth 1833 cytunodd pwyllgor seneddol bod y canlyniad yn annilys a bod Nanney wedi ei iawn ethol[6]. Apeliodd Paget yn erbyn y penderfyniad ar y sail nad oedd y pwyllgor gwreiddiol wedi rhoi sylw dilys i'w ddadleuon yntau ac ar 16 Mai 1833 penderfynodd pwyllgor newydd mae Paget oedd yr aelod ddilys [7][8]

Yn etholiad cyffredinol 1835 safodd Nanney ar ran y Ceidwadwyr a Love Parry Jones-Parry ar ran y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon gyda'r canlyniad isod

Etholiad cyffredinol 1835: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Love Parry Jones-Parry 378 51.9
Ceidwadwyr Owen Jones Ellis Nanney 350 48.1
Mwyafrif 28
Y nifer a bleidleisiodd 79.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Heriodd Nanney y canlyniad trwy ddeiseb ar y sail bod yna 1,835 o etholwyr cofrestredig yn nhref Caernarfon ac nad oedd digon o swyddogion wrth law i gasglu'r holl bleidleisiau yn yr amser penodedig. (Er bod hyn i'w weld yn ddadl bitw o dan y drefn bresennol o bleidleisio, roedd sail i gŵyn Nanney o dan drefn y cyfnod, lle bu raid i bob pleidleisiwr tyngu llw nad oedd o wedi ei lwgrwobrwyo ac yna dweud wrth y sawl oedd yn cyfri'r bleidlais pwy oedd am gefnogi a bod rhaid i'r cyfan cael ei gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer yr etholwyr uniaith Gymraeg). Methodd deiseb Nanney a chadarnhawyd Love Parry Jones-Parry fel yr Aelod dilys.[9]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Nanney yn Llanystumdwy yn 1870 yn 80 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwy.

Cyfeiriadau

golygu
  1. A genealogical and heraldic dictionary of the landed gentry of Great Britain By Sir Bernard Burke adalwyd 5 Mehefin 2016
  2. Y Bywgraffiadur NANNEY , DAVID ELLIS (1759 - 1819) adalwyd 5 Mehefin 2016
  3. "FamilyNotices - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1849-07-10. Cyrchwyd 2016-06-05.
  4. "SHERIFFS APPOINTED FOR 1843 - The Cambrian". T. Jenkins. 1843-02-11. Cyrchwyd 2016-06-05.
  5. "TERMINATION OF THE ELECTION - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1832-12-18. Cyrchwyd 2016-06-05.
  6. "Notitle - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1833-03-12. Cyrchwyd 2016-06-05.
  7. "HOUSE OF COMMONS - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1833-05-25. Cyrchwyd 2016-06-05.
  8. Cases of Controverted Elections determined in the Eleventh Parliament of the United, gan Sir Alexander James Edmund Cockburn, Sir William Carpenter Rowe Tŷ’r Cyffredin 1833 tud 127-138 a 550-560
  9. Journals of the House of Commons, Volume 90 adalwyd 5 Mehefin 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Paget
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon
18331833
Olynydd:
Charles Paget