Pêl-droed yng Nghymru 2010-11

Tymor 2010-11 oedd y 126ed tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 19eg tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 124fed tymor o Gwpan Cymru.

Timau Cenedlaethol Cymru golygu

Dynion golygu

Dechreuodd Cymru, o dan reolaeth John Toshack, eu hymgyrch i gyrraedd Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012 yn Wcrain a Gwlad Pwyl. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp G[1] gyda Lloegr, Y Swistir, Bwlgaria a Montenegro hefyd yn y grŵp.

Ymddiswyddodd Toshack ar 9 Medi 2010 ar ôl i Gymru golli yn erbyn Montenegro yng ngêm agoriadol y grŵp gyda Brian Flynn, oedd yn reolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru ar y pryd, yn cymryd yr awennau fel rheolwr dros dro ar gyfer y gemau yn erbyn Bwlgaria a'r Swistir[2].

Ar 14 Rhagfyr 2010 cafodd Gary Speed ei bendoi'n reolwr newydd Cymru.

Capiau Cyntaf golygu

Casglodd Steve Morison[3], Darcy Blake[4], Shaun MacDonald[4] ac Adam Matthews[5] gap cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.

Canlyniadau golygu


Gêm gyfeillgar
11 Awst 2010
Cymru   5 – 1   Lwcsembwrg
Cotterill   38'
Ledley   48' (c.o.s.)
King   55'
A. Williams   78'
Bellamy   82'
(Saesneg) Manylion Kiteng   44'
Parc y Scarlets, Llanelli
Torf: 10,000
Dyfarnwr: Mattias Gestranius  

Cyfeiriadau golygu

  1. "Euro 2012 qualifying draw in full". uefa.com. 2010-02-08.
  2. "Brian Flynn accepts Wales caretaker job". 2010-09-13. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Wales 5-1 Luxembourg". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 "Switzerland 4-1 Wales". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Wales 1-3 Scotland". Unknown parameter |published= ignored (help)