Pabell Llywarch Hen
Cylch cerrig yng nghymuned Llanfor, Gwynedd, oedd Pabell Llywarch Hen. Fe'i gysylltir â Llywarch Hen, aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o englynion a luniwyd ym Mhowys a alwyd gan Syr Ifor Williams yn "Canu Llywarch Hen". Mae'r cylch cerrig wedi diflannu erbyn hyn.[1]
Cofnodion cynnar
golygu"Pabell Llywarch Hen" oedd yr enw traddodiadol ar gylch cerrig cynhanesyddol ger eglwys Llanfor, tua milltir i'r dwyrain o dref y Bala. Mae'r cyfeiriad cynharach ato sydd ar glawr heddiw yn dyddio o'r 17g. Yn ail gyfrol ei lawysgrif Parochialia, cofnoda'r hynafiaethydd Edward Lhuyd:
- "Mae mann ym mhentre Llanvor a elwir Pabell Llywarch [;] shiarel o gerrig gwedy i dodi ar i penneu ag yn awr yn Gadles."[1]
Yn ei lyfr Tours in Wales (1778-81), cofnoda Thomas Pennant y traddodiad bod Llywarch Hen wedi codi "pabell" ger eglwys Llanfor y noson ar ôl brwydr rhwng llu Llywarch a'r Saeson ar lethrau Rhiwaedog lle lladdwyd ei fab hynaf ac olaf. Dywed Pennant mai yno y cyfansoddodd Llywarch ei englynion marwnad iddo.[1]
Archaeoleg
golyguNid oes sicrwydd am union leoliad y cylch cerrig erbyn hyn. Mewn llythyr o 1745/6 mae'r ysgwier lleol William Price o Riwlas yn cyfeirio at gylch o gerrig mawr ger yr eglwys gyda mynedfa i gyfeiriad y dwyrain. Mae'n bosibl bod rhai o'r cerrig wedi cael eu defnyddio fel pyst giatau gan ffermwyr lleol.[1]
Fel rhan o'i ymchwil am ei gyfrol Canu Llywarch Hen (1935), aeth Ifor Williams i Lanfor i holi pobl lleol am y cylch cerrig a hefyd am safle mwnt 'Castell Llywarch', ond methodd a chael gafael ar neb a wyddai ble'r oeddynt.[2]