Parc Cinmel

tŷ rhestredig Gradd I yn Abergele

Plasty yr Arglwydd Dinorben ym Mae Cinmel, Sir Ddinbych oedd Parc Cinmel (Saesneg: Kinmel Park) a llosgwyd ef i'r llawr ar 27 Medi 1841. Mae'r porth allanol agosaf at Abergele, ger yr hen ffordd fawr, yn un hynod o grand, gyda phen gafr bob ochor i'r fynedfa. Roedd Gwersyll Cinmel yma am rai blynyddoedd ac yna safle Ysgol Glan Clwyd a pharc manwerthu ar hyn o bryd (2009).

Parc Cinmel
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolystad Kinmel Edit this on Wikidata
LleoliadAbergele Edit this on Wikidata
SirAbergele Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr87 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2615°N 3.52909°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Parc Cinmel

Tarddiad yr enw

golygu

Tywysog ydy ystyr 'mael' ond ni wyddom at ba dywysog mae'r enw'n cyfeirio. Cilmel oedd yr enw gwreiddiol, gyda 'cil' yn golygu 'nook' yn Saesneg, ac mae'r enw yn cael ei gofnodi yn gyntaf yn 1311 fel "Kilmayl".

Neuadd Cinmel

golygu
Ni dylid cymysgu'r plasty hwn gyda neuadd Castell Gwrych, gerllaw.

Dywed traddodiad fod Oliver Cromwell wedi ymweld â'i gyfaill Colonel Carter (a'i wraig Ms Holland a etifeddodd y plasty). Codwyd y plasty gwreiddiol gan y Llwydiaid, mae'n debyg. Cyn tynnu'r hen le i lawr roedd un stafell a elwid yn 'Stafell Gromwell'. Disgrifiwyd y plasty yn 1856 fel well studded with majestic timber, and herds of deer... the principal external feature of the house is a magnificant Ionic portico. The enterance hall and staircase are enriched with marble columns, and the elegantly proportioned and superb dining room, all in perfect style of keeping... [1]

 
Neuadd Cinmel

Mae'r plasty presennol wedi ei godi ar gyfer teulu W. T. Hughes, perchennog Mynydd Parys yn yr 1860au gan y pensaer William Eden Nesfield. Dywedodd Nikolaus Pevsner fod y plasty yn garreg filltir yn hanes pensaerniaeth. Roedd yn y plasty ystafell arbennig i smwddio papur newydd. Yn yr 20ed ganrif, symudodd teulu'r Hughesiaid i Hendregyda (Maenor Cinmel) ac yna i Goed Bedw (Plas Cinmel). Roedd 52 ystafell wely ynddo a lle i 60 o weision a morynion.

Heddiw, Dickon Fetherstonhaugh yw'r perchennog ac mae 5,000 o erwau i'r stad a thros 1,000 o geirw.[2]

Yn 2015, roedd y neuadd ar restr o'r 10 adeilad Fictoraidd yng ngwledydd Prydain sydd mewn y mwyaf o berygl, yn ôl y Gymdeithas Fictoraidd.[3]

Gwersyll milwrol Cinmel

golygu

Codwyd y gwersyll cyntaf yma yn 1914 i hyfforddi'r milwyr Cymreig (milwyr Kitchener). Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cadwyd 17,000 o filwyr o Ganada yn gwersyll (Kinmel Camp) - ar eu ffordd o Ffrainc i ddal cwch adref o Lerpwl. Cafwyd gwrthryfel ganddynt yn erbyn eu meistri a saethwyd 12 ohonynt. Claddwyd y milwyr ym mynwent Yr Eglwys Farmor, Bodelwyddan. Doedd dim digon o wlâu, roedd y lle'n fudur a disgrifiwyd y bwyd 'yn debyg iawn i gibau moch'.

Ar y 4ydd o Fawrth, aeth un o'r 21 gwersyll yno, sef 'Camp Montreal' ar streic. Ar y 9ed o Fawrth cyhoeddodd yr awdurdodau mai 5 oedd wedi marw. Mae cymaint o gamarwain wedi bod ynghylch yr holl wrthryfel fel nad ydym bellach yn sicr o'r hyn a ddigwyddodd, ond cred rhai iddynt gael eu saethu.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hand-book for the Vale of Clwyd gan William Davies, argraffwyd 1856 gan Isaac Clarke
  2. Gwefan y stâd: http://www.kinmel-estate.co.uk/html/history.html Archifwyd 2008-04-08 yn y Peiriant Wayback
  3. (Saesneg) Clark, Nick (16 Medi 2015). Kinmel Hall: The 'Welsh Versailles' lies derelict and unloved – who will come to its rescue?. The Independent. Adalwyd ar 17 Medi 2015.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-27. Cyrchwyd 2009-03-21.

Dolenni allanol

golygu