Moel Arthur

un o fryngaerau Bryniau Clwyd

Bryn a bryngaer ym Mryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel Arthur (cyfeirnod OS: 145 660). Fe'i lleolir rhwng Llandyrnog (ger Dinbych) i'r gorllewin a Nannerch i'r dwyrain; cyfeiriad grid SJ145660. I'r dwyrain, fel pe'n ei wylio islaw saif yr uchaf o gopaon Bryniau Clwyd: Moel Famau. Yn wahanol i'r 5 bryngaer arall nid yw'n gwarchod bwlch, ac nid yw mewn lleoliad strategol filwrol o bwys; mae hyn (a darganfyddiadau diweddar) yn arwain yr archaeolegydd i gredu fod arwyddocâd defodol i'r gaer.[1]

Moel Arthur
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1845°N 3.2806°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ145660, SJ1453266040 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwFL010 Edit this on Wikidata

Bryngaer golygu

Ar ben y bryn ceir bryngaer gron sylweddol o tua 2 hectar gyda mynediad iddi ar yr ochr ddwyreiniol. Mae'r muriau amddiffynnol yn troi i mewn ar eu hunain yn y fynedfa a cheir olion sy'n awgrymu dwy siambr warchod. Mae'r gwaith amddiffynnol yn drawiadol, gyda chyfres o gloddiau syrth a ffosydd oddi amgylch pen y bryn. Y tu mewn i'r cyfan, yn arbennig ar yr ochr ddwyreiniol, ger y fynedfa, ceir sawl platfform lle ceid tai crwn o waith pren ar un adeg, yn ôl pob tebyg.

Ymddengys fod Moel Arthur yn fryngaer gymharol gynnar, o ddechrau Oes yr Haearn. Mae'n gorwedd yn nhiriogaeth llwyth y Deceangli. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL010.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Mae Moel Arthur yn un o sawl heneb a thirffurf yng Nghymru a gwledydd Prydain a enwir ar ôl Arthur, ond yn yr achos hwn does dim chwedl na thraddodiad i'w gysylltu â'r safle.

Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn y lôn fynydd sy'n dringo o Landyrnog trwy bentref bach Llangwyfan i gyfeiriad Nannerch. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg yn agos i'r safle hefyd.

Dosbarthiad y mynydd golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 456 metr (1496 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; tud 52-55
  2. Cofrestr Cadw.
  3. “Database of British and Irish hills”

Dolenni allanol golygu