Paul Carey Jones
Canwr opera bariton yw Paul Carey Jones (ganwyd Caerdydd, Cymru, 1974).
Paul Carey Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1974 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | bariton |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Jones yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd (ysgol gynradd, oed 4–11) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (ysgol uwchradd, oed 11–18). Yna fe astudiodd Ffiseg yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, lle derbyniodd wobr Styring Exhibition yn 1993, ond daeth yn fwy ymwybodol fod gweddill ei fywyd am wahanu o Ffiseg. Wedi cwblhau cwrs hyfforddiant athrawon yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, fe ddychwelodd i Ysgol Glantaf i ddysgu Ffiseg am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo yn 1998 er mwyn astudio canu yn Royal Academy of Music ac yna y National Opera Studio yn Llundain, wedi ei gefnogi gan Opera Cenedlaethol Cymru.
Gyrfa operatig
golyguMae Jones wedi ymddangos fel prif artist gwadd nifer o weithiau ar gyfer Scottish Opera a Northern Ireland Opera, yn ogystal ac Opera Cenedlaethol Cymru, yn y Wexford Festival, Buxton Festival, ar gyfer Opera East, Bampton Classical Opera, Diva Opera, a Lyric Opera Dulyn.
Cydweithio gyda Oliver Mears
golyguMae Jones wedi gweithio yn rheolaidd gyda'r cyfarwyddwr Oliver Mears - mae eu cydweithrediadau yn cynnwys Scarpia (Tosca), Macbeth gan Verdi, Father (Hansel and Gretel) a Noye (Noye's Fludde) ar gyfer Northern Ireland Opera, Llefarydd (Y Ffliwt Hud) i Nevill Holt Opera, a Sam (Trouble in Tahiti) a Monsieur Juste (The Three Wishes) i Second Movement.
Gwaith mewn Cerddoriaeth Gyfoes
golyguMae Jones wedi rhoi perfformiadau cyntaf yn fyd-eang o weithiau gan y cyfansoddwyr Stephen McNeff (oratorio Cities of Dreams i destunau Walt Whitman, William Blake a Rudyard Kipling yn Neuadd Brangwyn yn 2007); John Metcalf (rhannau Dancing Williams, Sinbad Sailors, Willy Nilly, Mr Pugh, Mr Pritchard a Mr Floyd in Under Milk Wood: An Opera, addasiad Metcalf o gerdd Dylan Thomas i leisiau); Peter Wiegold (ei opera fer wedi seilio ar y ffilm Brief Encounter yn 2004); Jonathan Owen Clark (ei opera Hidden States yn Newcastle yn 2004); Richard Elfyn Jones (ei oratorio In David's Land yn St David's Cathedral yn 2006, a'i gasgliad o ganeuon Four Poems of Gerard Manley Hopkins yn 2008 - gweler isod); Jonathan Dove (ei opera i deledu, Man on the Moon, yn 2006); Keith Burstein (yn chwarae rhan Mohammed yn yr opera Manifest Destiny yn Nghwyl Ffrinj Caeredin 2005 ); David Power (ei osodiad Forever and Other Songs); Emily Hall (pedwar gosodiad o eiriau gan Toby Litt yn Ngŵyl Grimsby St Hugh's 2010); Sadie Harrison (Heartoutbursts); a Timothy Raymond (From Dark to Dark). Ar gyfer Northern Ireland Opera yn 2012 fe greodd rannau y Plismon yn Jackie's Taxi, gan Ed Bennett, y Tad yn The Girl Who Knew She Could Fly gan Christopher Norb a'r Tad yn May Contain Flash Photography gan Brian Irvine.
Mae ei waith yn opera gyfoes yn cynnwys y rhan o Blazes yng The Lighthouse gan Peter Maxwell Davies yn Cantiere Internazionale d'Arte di Montepulciano, Sam yn Trouble in Tahiti gan Leonard Bernstein ar gyfer Second Movement, a Andy Warhol ym mherfformiad cyntaf yn yr Eidal o Jackie O gan Michael Daugherty yn Teatro Rossini, Lugo a Teatro Comunale di Bologna. Mae wedi dirprwyo ar gyfer rhannau Richard Nixon yn Nixon in China gan John Adams a Jaufre Rudel ynL'Amour de Loin gan Kaija Saariaho ar gyfer English National Opera.
Cydweithio gyda Llŷr Williams
golyguFel aelod o gynllun Yehudi Menuhin, Live Music Now! fe berfformiodd mewn dros 200 cyngerdd, yn bennaf mewn partneriaeth a'r pianydd Llŷr Williams, ac mae'n parhau i gydweithio gyda fe; fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf o ganeuon clasurol Enaid - Songs of the Soul, yn Nhachwedd 2007 ar label Sain.
Yn Nhachwedd 2008 fe berfformiwyd casgliad o ganeuon am y tro cyntaf, Four Poems of Gerard Manley Hopkins, wedi ei ysgrifennu yn arbennig iddyn nhw gan y cyfansoddwr Richard Elfyn Jones, mewn datganiad ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn Awst 2011 fe wnaeth y ddau ymddangos mewn datganiad yng Ngŵyl Machynlleth, gan roi eu perfformiad cyntaf o Winterreise gan Schubert.
Recordiau
golyguCafodd trac o Enaid - Songs of the Soul ei gynnwys ar albwm casgliad Sain yn 2009 The Welsh Gold Collection. Mae Jones yn canu rhannu Squire Allworthy a Dobbin ar recordiad Naxos o gyfansoddiad Edward German Tom Jones, ryddhawyd yn Awst 2009.
Roedd ei ail albwm unigol Songs Now, yn cynnwys caneuon gan gyfansoddwyr cyfoes Prydeinig, a fe'i rhyddhawyd yn Awst 2012 gan Meridian Records, gyda'r pianydd Ian Ryan.
Ar DVD, mae Jones yn ymddangos fel Andy Warhol ar recordiad Dynamic yn 2009 o Jackie O, gan Michael Daugherty ac mewn rhannau amrywiol yn ffilm y BBC o 2005 The Little Prince gan Rachel Portman.
Defnyddiwyd recordiad Jones o aria Puccini Questo Amor ar drac sain y ffilm arobryn o 2010 Bodhisattva gan San Banarje.
Cyfeiriadau
golygu- The Queen's College Newsletter, Hydref/Gaeaf 2004
- The Western Mail, 7 Ionawr 2006
- Opera News, Chwefror 2007
- Scottish Opera Brio magazine, Issue 13
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2016-02-10 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Sain Archifwyd 2007-11-28 yn y Peiriant Wayback