Paul Cézanne
Arlunydd o Ffrainc oedd Paul Cézanne (19 Ionawr 1839 – 22 Hydref 1906). Ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19g fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yr 20g. Defnyddiodd ddarnau o liwiau a strociau brwsh bach i adeiladu astudiaethau cymhleth. Mae'r paentiadau’n cyfleu ei ystyriaeth ddwys o’r ffigwr neu’r tirwedd dan sylw.
Paul Cézanne | |
---|---|
Cézanne tua 1861 | |
Ganwyd | 19 Ionawr 1839 Aix-en-Provence |
Bu farw | 22 Hydref 1906 Aix-en-Provence |
Man preswyl | Gardanne, quai d'Anjou |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon |
Adnabyddus am | Banks of the Marne, A Modern Olympia, Mountains Mont Sainte-Victoire Seen from the Bibémus Quarry |
Arddull | bywyd llonydd, peintio genre, celf tirlun, portread |
Prif ddylanwad | Eugène Delacroix, Gustave Courbet |
Mudiad | Ôl-argraffiaeth |
Tad | Louis-Auguste Cézanne |
Mam | Anne Elisabeth Aubert |
Priod | Marie-Hortense Fiquet |
Plant | Paul Cézanne |
Gwefan | https://paul-cezanne.org |
llofnod | |
Yn ddylanwad mawr ar Picasso, Matisse, Braque, Metzinger a nifer fawr o arlunwyr eraill. Mae Matisse a Picasso i fod wedi dweud bod Cézanne yn dad ini gyd.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd yn Aix-en-Provence de-ddwyrain Ffrainc, heb fod yn bell o'r ffin gyda'r Eidal. Gall y cyfenw Cézanne fod o dras Eidalaidd.[1]
Roedd ei dad yn gyfoethog, yn gyd-sylfaenydd banc, a oedd yn gallu sicrhau bywyd cyfforddus i’w fab, rhywbeth nad oedd yn bosib i'r rhan fwyaf o arlunwyr a oedd gorfod dibynnu ar werthu eu cynfasau yn unig.[2] Yn yr ysgol roedd yn ffrind agos gydag Émile Zola a aeth ymlaen i fod yn ysgrifennwr enwog.[3]
Astudiodd Cézanne y gyfraith ar ôl gadael yr ysgol i blesio ei dad, er gwaethaf ei diddordeb yn arlunio.[4] Ond cyn hir, gyd chryn anogaeth oddi wrth ei hen ffrind Zola a mawr siom ei dad, gadwodd y brifysgol ym 1861 i fyw ym Mharis i fod yn arlunydd. Serch hynny, yn ddiweddarach, derbyniodd Cézanne swm sylweddol iawn o arian mewn etifeddiaeth oddi wrth ei dad.[5]
Cézanne yr arlunydd
golyguO dan ddylanwad Romantisme a steil yr arlunwyr Argraffiadol (Impressionniste) cyntaf roedd gwaith cynnar Cézanne yn dueddol o fod yn dywyll. Datblygodd arddull gyda chyllell palet a alwodd yn caloreiddio a oedd yn cynnwys sawl llun treisgar o ferched, fel Merched yn gwisgo amdani, (tua 1867), Y Treisio (tua 1867) ac Y Llofruddiaeth (tua 1867-68) a ddangosodd ddyn yn trywanu merch wrth iddi gael ei dal i lawr gan ferch arall.
Ar ddechrau'r rhyfel Ffrainc-Prussia ym 1870, dihangodd Cézanne o Baris i L'Estaque yn Provence ble peintiodd tirluniau yn symud yn ôl i Baris ym 1871. Ym 1874 dangoswyd gwaith Cézanne yn arddangosfa gyntaf y grŵp Argraffiadaeth (Impressionnisme) ac ym 1877 y drydedd arddangosfa. Cyfarfu â'r peintiwr Camille Pissarro o'r grŵp a fu'n ddylanwad mawr arno, y ddau yn teithio trwy gefn gwlad Ffrainc i beintio tirluniau. Er gwaethaf ei lwyddiant a sylw cynyddol ym Mharis roedd well ganddo dychwelyd i Provence i beintio ar ben ei hun. O dan ddylanwad Pissaro rhoddodd y gorau i liwiau tywyll ac fe ddaeth ei gynfasau'n llawer ysgafnach a bywiog.[6]
Canolbwyntiodd Cézanne ar nifer cyfyngedig o bynciau – portreadau, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau o bobl yn nofio. Defnyddiodd lefydd, pobl a'r pethau o'i amgylch am y tri cyntaf: aelodau'r teulu a phentrefwyr ac ar gyfer y portreadau, tirwedd Provance am y tirluniau, a phethau fel ffrwythau ar gyfer y bywyd llonydd. Ond ar gyfer y nofwyr bu rhaid iddo ddylunio o'i ddychymyg oherwydd diffyg modelau.
Arbrofodd symleiddio ffurfiau naturiol i siapiau geometrig elfennol (er enghraifft - lleihau boncyff coeden i silindr - neu oren i belen). Arbrofodd hefyd sut i gyfleu dyfnderoedd a sawl safbwynt yn yr un llun.
Symudodd rhwng Paris a Provence nes iddo gael stiwdio yn Provance gyda ffenestri mawr i'w oleuo. Peintodd gyda Renoir yno ym 1882 a bu'n ymweld â Renoir a Monet in 1883. O hyn ymlaen arhosodd yn bennaf ym Provence, gan ddewis bywyd distaw a thirwedd ei hen filltir sgwâr dros brysurdeb y ddinas.
Mae ei hen dŷ yn Aix-en-Provence bellach ar agor i'r cyhoedd.[7]
Rhai o'i weithiau enwocaf
golygu-
Les Grandes Baigneuses, 1898–1905
-
Mont Sainte-Victoire, tua1887,
Sefydliad Celf Courtauld -
Jas de Bouffan, 1876
-
Pyramid o Benglogau, tua 1901
-
Madame Cézanne mewn Ffrog Goch (1888-90),
Yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, Efrog Newydd -
Bywyd llonydd gyda llenni
Oriel
golyguPeintiadau
golygu-
Y Cloc Marmor Du
1869–1871 -
L'Estaque
1883–1885 -
Bae Marseilles, golwg o L'Estaque
1885 -
Jas de Bouffan
1885–1887
Sefydliad Celf Minneapolis -
Ymdrochwr
1885–1887
MOMA -
Fastnacht (Mardi Gras)
1888
Amgueddfa Pushkin, Moscow -
Maison Maria Ar Y Ffordd i'r Château Noir
1895
Amgueddfa Gelf Kimbell, Tecsas -
Ffordd Cyn Y Mynyddoedd, Sainte-Victoire
1898–1902
Amgueddfa Hermitage, Saint Petersburg
Bywyd llonydd
golygu-
Bywyd Llonydd Gyda Drôr Agored
1877–1879 -
Basged o Afalau
1890–1894
Sefydliad Celf Chicago -
Bywyd Llonydd, Brethyn, Jwg a Phowlen o Ffrwythau
1893–1894
Amgueddfa Gelf Americaniadd Whitney, Efrog Newydd
Dyfrlliw
golygu-
Bachgen Gyda Fest Coch
1890 -
Hunan-bortread
1895 -
Melin Wrth Yr Afon
1900–1906 -
Afon gyda Phont y Tair Ffrwd
1906
Oriel Gelf Cincinnati
Portreadau a hunain-bortreadau
golygu-
Portread Tad Yr Arlunyddr Louis-Auguste Cézanne, Reading
1866
Yr Oriel Gelf Genedlaethol, Washington, D.C. -
Paul Alexis yn darllen i Émile Zola
1869–1870
Amgueddfa Gelf São -
Portread Victor Chocquet
1876–1877 -
Madame Cézanne
Olew Ar Gynfas
Tua 1886
Sefydliad Celf Detroit -
Madame Cézanne Mewn Ffrog Goch
Tua 1890-1894
Amgueddfa Gelf São Paulo -
Hunan-bortread Gydag Bere
1898–1900
Amgueddfa Gelf Cain, Boston
Nodiadau
golygu- ↑ J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.3
- ↑ "Paul Cézanne Biography (1839–1906)". Biography.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-03. Cyrchwyd 17 February 2007.
- ↑ "National Gallery of Art timeline, retrieved February 11, 2009". Nga.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-05. Cyrchwyd 19 January 2011.
- ↑ P. Cézanne Paul Cézanne, letters, p.10
- ↑ J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.232
- ↑ Rosenblum 1989, p. 348
- ↑ http://www.cezanne-en-provence.com/page/en/15.xhtm[dolen farw]
Llyfryddiaeth
golygu- Brion, Marcel (1974). Cézanne. Thames and Hudson. ISBN 0-500-86004-1.
- Chun, Young-Paik (2006). "Melancholia and Cézanne's Portraits: Faces beyond the mirror". In Griselda Pollock (ed.) (gol.). Psychoanalysis and the Image. Routledge. ISBN 1-4051-3461-5.CS1 maint: extra text: editors list (link)
- Cézanne, Paul; John Rewald; Émile Zola; Marguerite Kay (1941). Paul Cézanne, letters. B. Cassirer. ISBN 0-87817-276-9.
- Danchev, Alex (2012). Cézanne: A Life. Profile Books (UK); Pantheon (US). ISBN 978-1846681653.
- Gowing, Lawrence; Adriani, Götz; Krumrine, Mary Louise; Lewis, Mary Tompkins; Patin, Sylvie; Rewald, John (1988). Cézanne: The Early Years 1859–1872. Harry N. Abrams.
- Lehrer, Jonah (2007). "Paul Cézanne, The Process of Sight". In Jonah Lehrer (gol.). Proust Was a Neuroscientist. Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 0-618-62010-9.
- Klingsor, Tristan (1923). Cézanne. Paris: Rieder.
- Lindsay, Jack (1969). Cézanne: His Life and Art. United States: New York Graphic Society. ISBN 0-8212-0340-1.
- Machotka, Pavel (1996). Cézanne: Landscape into Art. United States: Yale University Press. ISBN 0-300-06701-1.
- Pissarro, Joachim (2005). Cézanne & Pissarro Pioneering Modern Painting: 1865–1885. The Museum of Modern Art. ISBN 0-87070-184-3.
- Rosenblum, Robert (1989). Paintings in the Musée d'Orsay. New York: Stewart, Tabori & Chang. ISBN 1-55670-099-7.
- Vollard, Ambroise (1984). Cézanne. England: Courier Dover Publications. ISBN 0-486-24729-5.
Darllen pellach
golygu- Danchev, Alex (2012) Paul Cézanne: A Life, New York: Pantheon, ISBN 978-0-30737-707-4
- Danchev, Alex (2013) The Letters of Paul Cézanne, Los Angeles: Getty Publications, ISBN 978-1-60606-160-2
Dolenni allanol
golygu- National Gallery of Art, Cézanne in Provence Archifwyd 2009-03-29 yn y Peiriant Wayback
- Cézanne at the WebMuseum
- Paul Cezanne studio Archifwyd 2012-11-06 yn y Peiriant Wayback
- Y Llofruddiaeth, Paul Cézanne, 1867-1868
- www.paul-cezanne.org Archifwyd 2020-11-12 yn y Peiriant Wayback – Tua 500 o ddelweddau gan Paul Cézanne
- Getty Research Institute. Los Angeles, California
- Paul Cezanne at PubHist
- Impressionism: a centenary exhibition, catalog arddangosfa'r Amgueddfa Gelf Fetropolitan - Cézanne, tud. 49–63