Cwmni ffasiwn rhad sydd â'i bencadlys wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Cymru, yw Peacocks. Mae'r gadwyn yn eiddo i The Peacock Group plc ac mae'n cyflogi dros 5,000 o bobl. Mae dros 500 o siopau Peacocks yng ngwledydd Prydain ac mae dros 60 mewn 12 gwlad dramor.

Peacocks
Enghraifft o'r canlynolbusnes, cwmni brics a morter Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1884 Edit this on Wikidata
Gweithwyr5,000 Edit this on Wikidata
Cynnyrchdillad Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.peacocks.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar fod yn fasnachwr dillad ffasiwn rhad, yn gwerthu dillad ac esgidiau ar gyfer dynion, merched a phlant. Mae eu siopau'n amrywio o siopau mawr ffasiwn uwch i siopau lleol llai ar gyfer hanfodion pob dydd.

 
Peacocks yn Portadown, Gogledd Iwerddon, gyda'r hen logo.

Peacocks Penny Bazaar

golygu

Sefydlwyd Peacocks yn Warrington ym 1884 fel busnes teuluol. Gwerthodd y Peacocks Penny Bazaar, fel yr adnabyddwyd bryd hynny, unrhyw beth a phopeth. Ymestynnodd y Peacocks Penny Bazaar dros y blynyddoedd gan agor mwy o siopau a newid eu cynnyrch i gydfynd â'r cyfnod. Cadwyd y cwni yn y teulu drwy ei basio o'r tad i'r mab.

Ail-leoliad

golygu

Symudodd y cwmni yn yr 1940au i Gaerdydd, a dyna lle mae ei bencadlys yn parhau i fod hyd heddiw. Cafodd hyn yr effaith o ganolbwyntio datblygiad y brand yng Nghymru a de Lloegr am nifer o flynyddoedd. Tyfodd Peacocks ymhellach yn ystod yr 1990au, ac ym mis Rhagfyr 1999, cafodd y cwmni ei roi ar Gyfnewidfa Stoc Llundain. Cymerwydd y cwmni oddiar y gyfnewidfa ar 1 Chwefror 2006, gan ddod yn gwmni preifat unwaith eto.

Peacocks of London

golygu

Dramor adnabyddir y gadwyn fel Peacocks of London, mae gan Peacocks dros 60 o siopau etholfraint tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn Bahrain, Cyprus, Gibraltar, Gwlad Groeg, Kuwait, Malta, Romania, Rwsia, Saudi Arabia, Slofacia, Twrci, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac Wcráin.

Dolenni allanol

golygu