Peg Entwistle

actores (1908-1932)

Actores ar lwyfan a sgrin a aned yng Nghymru oedd Millicent Lilian "Peg" Entwistle (5 Chwefror 190816 Medi 1932). Cychwynnodd ei gyrfa lwyfan yn 1925, gan chwarae mewn nifer o gynhyrchiadau Broadway. Ymddangosodd mewn un ffilm yn unig, Thirteen Women, a gafodd ei ryddhau ar ôl ei marwolaeth.

Peg Entwistle
Ganwyd5 Chwefror 1908 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 1932 Edit this on Wikidata
Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodRobert Keith Edit this on Wikidata

Daeth Entwistle yn fwy adnabyddus ar ôl iddi neidio i'w marwolaeth oddi ar y lythyren "H" yn arwydd Hollywoodland ym mis Medi 1932, pan oedd yn 24 oed.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Millicent Lilian Entwistle ym Mhort Talbot, Bro Morgannwg, i rieni o Loegr - Emily Entwistle (née Stevenson) a Robert Symes Entwistle, actor a dreuliodd ei fywyd cynnar yng Ngorllewin Kensington, Llundain.[1]

Dywedir gan rai y bu farw ei mam pan oedd hi'n ifanc iawn, ond nid oes tystiolaeth ddogfennol i gefnogi hyn. Mae yna, fodd bynnag, Ewyllys Olaf a Testament dyddiedig 15 Rhagfyr 1922, yn archifau teulu Entwistle, lle mae Robert Entwistle yn datgan y canlynol:

Millicent Lilian Entwistle is the daughter of my first wife whom I divorced and the custody of my said daughter was awarded to me. I do not desire my said daughter to be at any time in the custody or control of her said mother.[2]

Dywedir i Peg Entwistle ymfudo i America o Lerpwl ar fwrdd yr SS Philadelphia ac ymsefydlu yn Ninas Efrog Newydd.[3] Fodd bynnag, mae dogfennau a ffotograffau a gyflwynwyd gan deulu Entwistle ar gyfer bywgraffiad yn dangos fod Entwistle a'i thad yn Cincinnati, Ohio a Dinas Efrog Newydd yn gynnar yn ngwanwyn 1913. Mae'r wybodaeth hon wedi ei gefnogi gan fanylion yn yr Internet Broadway Database, a'r New York Times, lle mae Robert S. Entwistle wedi ei restru yng nghast sawl drama yn 1913.[4]

Ym mis Rhagfyr 1922, bu farw Robert Entwistle, wedi iddo gael ei daro gan fodurwr mewn damwain taro a ffoi ar Park Avenue a 72nd Street yn Ninas Efrog Newydd.[5] Daeth Peg a'i dwy hanner-brawd dan ofal eu hewythr, oedd wedi dod gyda nhw i Efrog Newydd ac yn reolwr i'r actor Broadway Walter Hampden.[6]

Broadway golygu

Erbyn 1925, roedd Entwistle yn byw yn Boston fel myfyriwr gyda'r Henry Jewett Repertory (a elwir bellach yn Huntington Theatre) ac roedd yn un o Chwaraewyr Henry Jewett, a oedd yn ennill sylw cenedlaethol. Rhoddodd Walter Hampden ran heb gydnabyddiaeth i Entwistle yn ei gynhyrchiad ar Broadway o Hamlet, oedd yn serennu Ethel Barrymore.[7] Cariodd godre'r Brenin yn daeth fewn a'r cwpan gwenwyn.[8]

 
Peg Entwistle yn The Wild Duck, tua 1925

Yn 17 oed, chwaraeodd Entwistle rhan "Hedvig" yn nghynhyrchiad 1925 o ddrama Henrik Ibsen's The Wild Duck. Ar ôl gweld y ddrama, dywedodd Bette Davis wrth ei mam, "...Yr wyf am fod yn union fel Peg Entwistle."[9] Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach danfonodd yr actores a chyfarwyddwr Broadway Blanche Yurka nodyn at Davis yn gofyn os fyddai'n hoffi chwarae Hedvig, ac atebodd Davis gyda neges yn dweud ei bod yn gwybod byddai'n chwarae rhan Hedvig rhyw ddiwrnod, ers iddi weld Entwistle yn The Wild Duck. Drwy'r blynyddoedd dywedodd Davis mai Entwistle oedd ei hysbrydoliaeth ddechrau actio.

Erbyn 1926 roedd Entwistle wedi cael ei recriwtio gan y New York Theatre Guild ac roedd ei pherfformiad cydnabyddedig cyntaf ar Broadway ym mis Mehefin y flwyddyn honno, fel "Martha" yn The Man From Toronto, a agorodd yn y Selywn Theatre a rhedodd am 28 perfformiad.[10] Perfformiodd Entwistle mewn deg o ddramâu Broadway fel aelod o'r Theatre Guild rhwng 1926 ac 1932, yn gweithio gyda actorion nodedig fel George M. Cohan, William Gillette, Robert Cummings, Dorothy Gish, Hugh Sinclair, Henry Travers a Laurette Taylor. Y ddrama a redodd hiraf oedd y cynhyrchiad llwyddiannus Tommy yn 1927 lle roedd yn serennu gyda Sidney Toler. Rhedodd am 232 perfformiad a hwn oedd y ddrama y cofir Entwistle mwyaf amdani.

Ym mis Ebrill 1927 priododd Entwistle yr actor Robert Keith yn swyddfa Clerc Dinas Efrog Newydd.[11] Cafodd ganiatad am ysgariad ym mis Mai 1929. Ynghyd â chyhuddiadau o greulondeb, honnodd nad oedd ei gŵr wedi dweud ei fod wedi bod yn briod o'r blaen ac ei fod yn dad i fachgen chwe mlwydd oed, Brian Keith, a ddaeth yn actor yn ddiweddarach.[12][13]

Caeodd y ddrama The Uninvited Guest ar ôl saith perfformiad yn unig yn ystod mis Medi 1927; fodd bynnag, yn y New York Times ysgrifennodd y beirniad J. Brooks Atkinson, "...Peg Entwistle gave a performance considerably better than the play warranted."[14]

Aeth ar daith gyda'r Theatre Guild rhwng cynyrchiadau Broadway. Gan newid cymeriadau bob wythnos, derbyniodd Entwistle beth cyhoeddusrwydd am ei gwaith, megis erthygl yn argraffiad ddydd Sul o The New York Times ym 1927 ac un arall yn yr Oakland Tribune ddwy flynedd yn ddiweddarach.[15]

Heblaw am rhan yn y ddrama ingol Sherlock Holmes and the Strange Case of Miss Faulkner a'i awydd i chwarae rhannau mwy heriol, roedd Entwistle yn cael ei chastio yn aml fel digrifwr, fel arfer yr ingénue deniadol, rhadlon. Yn 1929 dywedodd wrth ohebydd:

"I would rather play roles that carry conviction. Maybe it is because they are the easiest and yet the hardest things for me to do. To play any kind of an emotional scene I must work up to a certain pitch. If I reach this in my first word, the rest of the words and lines take care of themselves. But if I fail, I have to build up the balance of the speeches, and in doing this the whole characterisation falls flat. I feel that I am cheating myself. I don't know whether other actresses get this same reaction or not, but it does worry me."

Yn gynnar yn 1932 gwnaeth Entwistle ei ymddangosiad olaf ar Broadway, yn nrama J. M. Barrie's Alice Sit-by-the-Fire a oedd hefyd yn serennu Laurette Taylor, actores oedd yn dioddef o alcoholiaeth a arweinodd at golli dau berfformiad gyda'r nos gyda ad-daliadau tocynnau i'r gynulleidfa.[16][17] Canslwyd y sioe a dim ond cyflog wythnos cafodd Entwistle a'r perfformwyr eraill, yn hytrach na'r canran gros y tocynnau a oedd wedi ei gytuno cyn i'r sioe agor.[18]

Hollywood golygu

Erbyn Mai 1932, ar anterth y Dirwasgiad Mawr, roedd Entwistle yn Los Angeles gyda rôl yn nrama Romney Brent, The Mad Hopes yn serennu Billie Burke,[19] a redodd o 23 Mai i 4 Mehefin yn y Belasco Theatre yn Los Angeles. Rhoddodd Florence "Flo" Lawrence, beirniad theatr ar gyfer y Los Angeles Examiner, adolygiad ffafriol iawn i'r cynhyrchiad:

"...Belasco and Curran have staged the new play most effectively and have endowed this Romney Brent opus with every distinction of cast and direction. (producer) Bela Blau ... has developed the comedy to its highest points. Costumes and settings are of delightful quality, and every detail makes the production one entirely fit for its translation to the New York stage. In the cast Peg Entwistle and Humphrey Bogart hold first place in supporting the star (Billie Burke) and both give fine, serious performances. Miss Entwistle as the earnest, young daughter (Geneva Hope) of a vague mother and presents a charming picture of youth..."[20]

Ar ôl i The Mad Hopes gau, cafodd Entwistle ei rhan gyntaf (ac unig un) mewn ffilm i Radio Pictures (yn ddiweddarach RKO). Roedd Thirteen Women yn serennu Myrna Loy ac Irene Dunne mewn ffilm gyffro gyda chyllideb uchel. Cynhyrchwyd y ffilm gan David O. Selznick a roedd wedi seilio ar y nofel gan Tiffany Thayer. Roedd Entwistle yn chwarae rhan fach gefnogol fel Hazel Cousins.[21] Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar 14 Hydref 1932, fis ar ôl ei marwolaeth, yn y Roxy Theatre yn Ninas Efrog Newydd ac yna ei ryddhau yn Los Angeles ar 11 Tachwedd - ond ni chafodd llwyddiant masnachol na chlod y beirniaid. Erbyn i'r ffim gael ei ail-ryddhau yn 1935, roedd 14 munud wedi ei dorri o'r ffilm gwreiddiol 73 munud o hyd. Yn 2008, nododd cylchgrawn Variety fod Thirteen Women yn un o'r ffilmiau "ensemble menywod" cynharaf.[22]

Marwolaeth golygu

Ar 18 Medi 1932 daeth menyw, oedd yn cerdded islaw yr arwydd Hollywoodland, o hyd i esgid menyw, pwrs a siaced oedd, heb yn wybod iddi, yn perthyn i Entwistle. Agorodd y pwrs a dod o hyd i nodyn hunanladdiad, ac wedi hynny edrychodd lawr y mynydd a gwelodd y corff islaw. Adroddodd y fenyw ei chanfyddiad i heddlu Los Angeles a gosododd yr eitemau ar y grisiau o flaen gorsaf heddlu Hollywood.[23]

Yn ddiweddarach, daeth ditectif a dau swyddog car radio o hyd i'r corff mewn ceunant o dan yr arwydd. Roedd Entwistle yn byw gyda'i ewythr yn ardal Beachwood Canyon - arhosodd ei chorff yn anhysbys nes i'w ewythr ddod ymlaen i'w adnabod. Gwnaeth y cysylltiad oherwydd ei habsenoldeb am ddau ddiwrnod a'r disgrifiad o'r llythrennau "P. E." ysgrifennwyd ar y nodyn, manylion a gyhoeddwyd yn y papurau newydd.[24] Dywedodd ei bod, ar ddydd Gwener, 16 Medi, wedi dweud wrtho ei bod yn mynd am dro i'r fferyllfa ac i ymweld a rhai ffrindiau. Daeth yr heddlu i'r casgliad ei bod wedi gwneud ei ffordd i lethr deheuol Mount Lee wrth droed yr arwydd Hollywoodland, gan ddringo ysgol gweithiwr i frig yr "H" cyn neidio.

Cofnodwyd achos y farwolaeth gan y crwner fel y "toriadau lluosog i'r pelfis."[25][26]

Cyhoeddwyd y nodyn hunanladdiad:

"I am afraid, I am a coward. I am sorry for everything. If I had done this a long time ago, it would have saved a lot of pain. P.E."[27]

Daeth marwolaeth Entwistle a chyhoeddusrwydd eang, yn aml wedi ei orliwio. Cynhaliwyd ei angladd yn W. M. Strathers Mortuary, Hollywood, ar 20 Medi.[28][29] Cafodd ei chorff ei amlosgi a danfonwyd y lludw yn ddiweddarach i Glendale, Ohio, i gael ei gladdu nesaf at ei thad ym Mynwent Oak Hill, lle cawsant eu claddu ar 5 Ionawr 1933.[30]

Yn 2014, daeth tua 100 o bobl i nodi dyddiad marwolaeth Entwistle drwy gyfarfod ym maes parcio o Beachwood Market yn Hollywood, i wylio'r fersiwn ffilm o Thirteen Women, ar sgrin awyr agored. Codwyd arian drwy raffl ac o werthu bwyd a diod ac fe rhoddwyd yr elw i'r American Foundation for Suicide Prevention yn enw Entwistle.[31]

Cyfeiriadau a nodiadau golygu

  1. Official Port Talbot Registrar's Births Certificate 5 February 1908
  2. Robert S. Entwistle Last Will and Testament provided by Milton Entwistle for Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography (by James Zeruk, Jr.), published by Mcfarland Publishers, Inc., 2013, p.35.
  3. List or Manifest of Alien Passengers of S.S. Philadelphia. 11 March 1916.
  4. Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography (by James Zeruk, Jr.), published by Mcfarland Publishers, Inc., 2013, p.20.
  5. "ACTOR DIES; STRUCK BY AUTO THAT FLED; Robert S. Entwistle, Former Stage Manager for Charles Frohman, Dead in Hospital. INJURED ON ELECTION DAY Chauffeur, Who Sped Away After Looking at His Victim, Never Found". The New York Times. 20 December 1922.
  6. Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography (by James Zeruk, Jr.), published by Mcfarland Publishers, Inc., 2013, p.14; 33–35.
  7. Hamlet ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway
  8. "And Who Is Peg Entwistle?". The New York Times. 20 February 1927.
  9. Chandler, Charlotte (2006). The Girl Who Walked Home Alone: Bette Davis, a Personal Biography. Simon and Schuster. tt. 38. ISBN 0-7432-6208-5.
  10. "The Play by J. Brooks Atkinson: Smart Comedy in June". The New York Times. 28 June 1926.
  11. NYC Marriage license No. 12687. 18 April 1927.
  12. "Girl Ends Life After Failure In Hollywood", Syracuse Herald, 20 September 1932, p. 5
  13. "Pulled Hair - Stage Star Gets Divorce After Tale of Fight With Husband", The Pittsburgh Press, 3 May 1929, p. 47
  14. "'Uninvited Guest' Falters". The New York Times. 28 September 1927.
  15. "English Actress With Guild". Oakland Tribune. 5 May 1929.
  16. "Two Barrie Revivals Suddenly Canceled". The New York Times. 15 May 1932.
  17. "Laurette Taylor Absent". The New York Times. 6 April 1932.
  18. Courtney, Marguerite (1968). Laurette. Atheneum. t. 342.
  19. Yeaman, Elizabeth, 4 May 1932; 7 June 1932, Hollywood Citizen-News
  20. Lawrence, Florence, 24 May 1932, Los Angeles Examiner
  21. Thirteen Women, RKO Pictures, 1932. In the film, a very short scene shows Hazel Cousins (played by Entwistle) murdering her husband with a knife. In Thayer's novel, the Hazel Cousins character is a lesbian who becomes heartbroken and starves herself to death in a sanitarium.
  22. Basinger, Jeanine, "Few female ensemble films", Variety, 16 June 2008, retrieved 18 September 2010
  23. "Young Actress Ends Life In Hollywood". The Lewiston Daily Sun. 20 September 1932. t. 11. Cyrchwyd 13 May 2014.
  24. "Suicide Laid To Film Jinx". Los Angeles Times. 20 September 1932. tt. A1.
  25. County of Los Angeles Department of Public Health/Vital Statistics--Standard Certificate of Death #10501, sections 24-25; Filed 20 September 1932
  26. "Suicide Laid To Film Jinx". Oregonian. 20 September 1932. tt. A1.
  27. "Young Actress Ends Life In Hollywood". The Lewiston Daily Sun. 20 September 1932. t. 1. Cyrchwyd 13 May 2014.
  28. Ensley, Jim (4 December 1993). "Hollywood Has Share of Tragedy". Calhoun Times. t. 9. Cyrchwyd 13 May 2014.
  29. "Peg Entwistle Is Laid To Rest". Schenectady Gazette. 21 September 1932. t. 7. Cyrchwyd 13 May 2014.
  30. Zeruk, James, Jr. (2013). Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography. McFarland. t. 187. ISBN 0-786-47313-4.
  31. Lelyveld, Nita (17 September 2014). "A Hollywood tragedy, a neighborhood remembrance". The Los Angeles Times. Cyrchwyd 19 September 2014.

Darllen pellach golygu

  • Zeruk, James Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography (McFarland & Company, Inc. 25 Hydref 2013, ISBN 978-0-7864-7313-7978-0-7864-7313-7)

Dolenni allanol golygu