Pen-y-gaer (Llanaelhaearn)
Bryn a bryngaer yn Llŷn, Gwynedd yw Pen-y-gaer. Mae'r gaer gynhanesyddol yn gorwedd ar ben y bryn, sy'n codi 387 metr uwch lefel y môr, rhwng Llanaelhaearn i'r gorllewin a Garn Dolbenmaen i'r dwyrain a thua 3 milltir i'r de o Glynnog. Cyfeirnod AO: (map 123) 429 455.[1]
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9838°N 4.3419°W |
Cod OS | SH42904550 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN052 |
Disgrifiad
golyguMae mur trwchus o gerrig, sydd â lled o hyd at 4.5 metr mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgae o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer mae'n debyg eu bod.[2]
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynnwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Cadwraeth
golyguCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN052.[6] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Lleoliad ar y map AO[dolen farw]
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 51.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2014-01-14.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2014-01-14.
- ↑ Cofrestr Cadw.