Pen-y-gaer, Caerhun
Bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw pentref Llanbedr-y-Cennin yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy yw Pen-y-gaer neu Pen y Gaer. Cyfeirnod OS: SH750693.
Math | safle archaeolegol, caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 385 metr |
Cyfesurynnau | 53.206°N 3.873°W |
Cod OS | SH75006934 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 36 metr |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN023 |
Disgrifiad
golyguSaif y fryngaer ar fryn ar lechweddau isaf y Carneddau, uwchben ac i'r gorllewin o'r pentref. Mae ganddi amddiffynfeydd cryfion, yn arbennig ar yr ochrau gorllewinol a deheuol, lle maent yn drifflyg. Nodwedd arbennig y fryngaer hon yw presenoldeb chevaux de frise, meini wedi ei gosod o flaen yr amddiffynfeydd yn y fath fodd ag i faglu ymosodwyr sy'n rhedeg tuag atynt.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN023.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Enwau a thraddodiad
golyguYr hynafiaethydd Thomas Pennant, yn ei Tour of North Wales (1773), oedd un o'r cyntaf i dynnu sylw at y fryngaer. Mae'n cofnodi mai 'Pen Caer Helen' oedd enw'r bryn yn ôl pobl lleol ac felly mai 'Caer Helen' oedd yr enw ar y gaer ei hun (cyfeiriad at Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig). Ond mewn llyfr diweddarach cyfeirir ati fel 'Pen Caer Llîn'. 'Pen-y-gaer' yw'r enw gan bawb bron erbyn heddiw, er y gellid dadlau mai enw'r bryn ydyw yn hytrach na'r gaer ei hun. Yn y nodiadau i gyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion, cynigir uniaethu Pen-y-gaer â Caer Dathyl y Pedair Cainc, ond nid yw hynny'n cael ei dderbyn bellach.
Llyfryddiaeth
golygu- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
- H. Harold Hughes, The exploration of Pen-y-gaer above Llanbedr-y-Cenin (allbrint o Archaeologia Cambrensis, 1906). Adroddiad ar y gwaith cloddio yn y fryngaer yn 1905.