Henry Harold Hughes

pensaer, hanesydd ac archeolegydd
(Ailgyfeiriad o H. Harold Hughes)

Pensaer ac archaeolegydd o Gymro edd Henry Harold Hughes (20 Ionawr 18647 Ionawr 1940), a gyhoeddai wrth yr enw (H.) Harold Hughes.

Henry Harold Hughes
Ganwyd20 Ionawr 1864 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1940 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Liverpool College Edit this on Wikidata
Galwedigaetharcheolegydd, pensaer, hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Harold Hughes yn Lerpwl ym 1864 yn fab Richard Hughes, ficer eglwys S. Catherine, Edge Hill ac Agnes Matilda ei wraig. cafodd ei fedyddio gan ei dad yn St catherine ar 16 Mawrth 1864.[1]

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lerpwl ac aeth i Lundain lle daeth yn bensaer. Sefydlodd bractis ym Mangor yn 1891 ac yn 1901 fe'i apwyntiwyd yn Bensaer ac Arolygydd Tir Esgobaethol Esgobaeth Bangor.

Daeth Hughes yn gyfaill mawr i bensaer lleol arall, Herbert L. North. Roedd gan y ddau ddidordeb mawr ym mhensaernïaeth hen eglwysi a bythynod traddodiadol Eryri a'r cylch. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol The Old Cottages of Snowdonia (1908) a The Old Churches of Snowdonia (1924).

Roedd yn archaeolegydd amatur - fel bron pob archaeolegydd lleol y pryd hynny - a gyfrannodd nifer o erthyglau ar eglwysi, cestyll a safleoedd archaeolegol gogledd Cymru i'r cylchgrawn Archaeologia Cambrensis, yn cynnwys astidiaethau manwl o fryngaerau Pen-y-gaer ac arolwg o safle Braich-y-Dinas (rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan). Am sawl blwyddyn ef oedd golygydd y cylchgrawn hwnnw.

Fel pensaer gweithiodd ar adfer a diogelu sawl eglwys yng ngogledd-orllewin Cymru, e.e. Clynnog, Llanrhychwyn, Eglwys y Drindod Llandudno, Llangelynnin ac eglwys Tywyn (Meirionnydd).

 
Ynys Dysilio

Bu farw Harold Hughes yn 1940 a'i gladdu ym mynwent Ynys Dysilio, ynys fechan yn Afon Menai, ger Porthaethwy, o fewn golwg y Groes Geltaidd a gynlluniodd yno fel cofeb ryfel.

Cyfeiriadau

golygu
  • Adargraffiad 1984 o The Old Churches of Snowdonia, nodyn ar yr awduron.

Llyfryddiaeth

golygu

Gyda H. L. North:

  • The Old Cottages of Snowdonia (Bangor, 1908)
  • The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924). Adargraffwyd gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Liverpool Record Office; Lerpwl, Church of England Parish Registers; Cyfeirnod: 283 CAT/2/1, St Catherine Edge Hill bedyddiadau 1864 rhif 20