Pen-y-gaer, Caerhun

bryngaer yn Llanbedr-y-cennin
(Ailgyfeiriad o Pen y Gaer, Caerhun)

Bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw pentref Llanbedr-y-Cennin yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy yw Pen-y-gaer neu Pen y Gaer. Cyfeirnod OS: SH750693.

Pen-y-gaer
Mathsafle archaeolegol, caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr385 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.206°N 3.873°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH75006934 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd36 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN023 Edit this on Wikidata
Safle Pen-y-gaer o'r gogledd

Disgrifiad golygu

Saif y fryngaer ar fryn ar lechweddau isaf y Carneddau, uwchben ac i'r gorllewin o'r pentref. Mae ganddi amddiffynfeydd cryfion, yn arbennig ar yr ochrau gorllewinol a deheuol, lle maent yn drifflyg. Nodwedd arbennig y fryngaer hon yw presenoldeb chevaux de frise, meini wedi ei gosod o flaen yr amddiffynfeydd yn y fath fodd ag i faglu ymosodwyr sy'n rhedeg tuag atynt.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN023.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Enwau a thraddodiad golygu

Yr hynafiaethydd Thomas Pennant, yn ei Tour of North Wales (1773), oedd un o'r cyntaf i dynnu sylw at y fryngaer. Mae'n cofnodi mai 'Pen Caer Helen' oedd enw'r bryn yn ôl pobl lleol ac felly mai 'Caer Helen' oedd yr enw ar y gaer ei hun (cyfeiriad at Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig). Ond mewn llyfr diweddarach cyfeirir ati fel 'Pen Caer Llîn'. 'Pen-y-gaer' yw'r enw gan bawb bron erbyn heddiw, er y gellid dadlau mai enw'r bryn ydyw yn hytrach na'r gaer ei hun. Yn y nodiadau i gyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion, cynigir uniaethu Pen-y-gaer â Caer Dathyl y Pedair Cainc, ond nid yw hynny'n cael ei dderbyn bellach.

Llyfryddiaeth golygu

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
  • H. Harold Hughes, The exploration of Pen-y-gaer above Llanbedr-y-Cenin (allbrint o Archaeologia Cambrensis, 1906). Adroddiad ar y gwaith cloddio yn y fryngaer yn 1905.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu