Penelope Wilton
Mae Penelope Alice Wilton,[1] OBE (ganed 3 Mehefin 1946) yn actores Seisnig. Fe'i hadnabyddir am serennu gyda Richard Briers yng nghomedi sefyllfa y BBC Ever Decreasing Circles (1984–89); chwarae Homily yn The Borrowers (1992) a The Return of the Borrowers (1993); ac am ei rôl fel Isobel Crawley yn y gyfres ddrama ITV Downton Abbey (2010–15). Chwaraeoedd hefyd y rôl Harriet Jones yn Doctor Who (2005–08).
Penelope Wilton | |
---|---|
Ganwyd | Penelope Alice Wilton 3 Mehefin 1946 Scarborough |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan |
Priod | Daniel Massey, Ian Holm |
Gwobr/au | OBE, Laurence Olivier Award for Best Actress, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Mae Wilton wedi cael gyrfa eang ar y llwyfan, yn derbyn chwe enwebiad Gwobr Olivier. Fe'i henwebwyd ar gyfer Man and Superman (1981), The Secret Rapture (1988), The Deep Blue Sea (1994), John Gabriel Borkman (2008) a The Chalk Garden (2009), cyn ennill y Wobr Olivier yn 2015 ar gyfer yr Actore Orau ar gyfer Taken at Midnight. Mae ei ymddangosiadau ffilm yn cynnwys Clockwise (1986), Calendar Girls (2003), Shaun of the Dead (2004), Match Point (2005), Pride & Prejudice (2005), The Girl (2012), The Best Exotic Marigold Hotel (2012), The Second Best Exotic Marigold Hotel (2015) a The BFG (2016).
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Wilton yn Scarborough, North Riding of Yorkshire, yn ferch i Alice Travers, dawnswraig tap a chyn actores, a Clifford William Wilton, dyn busnes.[2][3][4][5] Mae'n nith i'r actorion Bill Travers a Linden Travers[6] ac yn gyfnither i'r actor Richard Morant.[7] Roedd ei mam-gu a thad-cu ar ochr ei mam yn berchen theatrau.[4] Mynychodd Wilton a'i chwiorydd Rosemary a Linda, yr ysgol lleiandy yn Newcastle upon Tyne, lle roedd eu mam yn arfer addysgu. Mynychodd y Drama Centre yn Llundain.[8]
Gwobrau a chydnabyddiaeth
golyguYn 2001, fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Theatr yr Evening Standard Llundain ar gyfer ei pherfformiad yn The Little Foxes yn y Donmar Warehouse. Yn 2004, daeth yn Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei gwasanaethau i ddrama. Yn 2012, derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Gampws Scarborough Prifysgol Hull.
Blwyddyn | Gwobrau Olivier | Gwaith a enwebwyd | Canlyniad |
---|---|---|---|
1981 | Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Adfywiad | Man and Superman | Enwebwyd |
1988 | Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Drama Newydd | The Secret Rapture | Enwebwyd |
1994 | Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau | The Deep Blue Sea | Enwebwyd |
2008 | Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau | John Gabriel Borkman | Enwebwyd |
2009 | Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau | The Chalk Garden | Enwebwyd |
2015 | Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau | Taken at Midnight | Enillodd |
Gwobrau eraill | |||
1981 | Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau | Much Ado About Nothing | Enillodd |
1993 | Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau | The Deep Blue Sea | Enillodd |
2012 | Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer yr Ensemble Gorau mewn Cyfres Ddrama | Downton Abbey | Enillodd |
2014 | Enillodd | ||
2015 | Enillodd |
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu a ffilmiau
golyguBlwyddyn | Ffilmiau | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1972 | Thirty-Minute Theatre | Cyfres deledu (1 bennod: "An Affair of Honour") | |
1972 | Country Matters | Rachel Sullens | Cyfres deledu (1 bennod: "The Sullens Sisters") |
1972 | Play of the Month:
Mrs. Warren's Profession (BBC) |
Vivie Warren | Drama deledu (G.B. Shaw) |
1973 | The Pearcross Girls | Anna Pearcross/Helen Charlesworth/Julia Pearcross/Lottie Merchant | Cyfres deledu (4 pennod) |
1973 | The Song of Songs | Lilli Czepanek | Drama deledu |
1975 | Play of the Month: | Regan | Shakespeare, (c. Jonathan Miller) |
1976 | The Widowing of Mrs Holroyd | Drama deledu | |
1977 | Joseph Andrews | Mrs. Wilson | |
1977 | The Norman Conquests: Living Together | Annie | Drama deledu |
1977 | The Norman Conquests: Round and Round the Garden | Annie | Drama deledu |
1977 | The Norman Conquests: Table Manners | Annie | Drama deledu |
1980 | Play for Today | Helen/Virginia Carlion | Cyfres deledu (2 bennod: 1980–1981) |
1981 | The French Lieutenant's Woman | Sonia | |
1981 | Othello | Desdemona | Shakespeare (c. Jonathan Miller) |
1982 | The Tale of Beatrix Potter | Beatrix Potter | Drama deledu |
1982 | King Lear | Regan | Shakespeare (c. Jonathan Miller) |
1984 | Laughterhouse | Alice Singleton | |
1984 | Ever Decreasing Circles | Ann Bryce | Cyfres deledu (27 o benodau: 1984–1989) |
1986 | Clockwise | Pat | |
1986 | C.A.T.S. Eyes | Angela Lane | Cyfres deledu (1 bennod: "Good as New") |
1986 | The Monocled Mutineer | Lady Angela Forbes | Cyfres deledu (2 bennod) |
1987 | Cry Freedom | Wendy Woods | |
1990 | 4 Play | Julia | Cyfres deledu (1 bennod: "Madly in Love") |
1992 | Blame It on the Bellboy | Patricia Fulford | |
1992 | Screaming | Beatrice | Cyfres deledu |
1992 | The Borrowers | Homily | Cyfres deledu |
1993 | The Secret Rapture | Marion French | |
1993 | The Return of the Borrowers | Homily | Cyfres deledu |
1994 | Performance: The Deep Blue Sea | Hester Collyer | Cyfres deledu (2 bennod: 1994–1995) |
1995 | Carrington | Lady Ottoline Morrell | |
1998 | This Could Be the Last Time | Marjorie | Ffilm deledu |
1998 | Talking Heads 2 | Rosemary | Mini-gyfres deledu (1 bennod: "Nights in the Gardens of Spain") |
1998 | Alice Through the Looking Glass | White Queen | Ffilm deledu |
1999 | Gooseberries Don't Dance | Rhaglen fer | |
1999 | Kavanagh QC | Barbara Watkins | Cyfres deledu (1 bennod: "Time of Need") |
1999 | Tom's Midnight Garden | Aunt Melbourne | |
1999 | Wives and Daughters | Mrs. Hamley | Mini-gyfres deledu (2 bennod) |
2000 | Rockaby | Rhaglen fer | |
2001 | The Whistle-Blower | Heather Graham | Ffilm deledu |
2001 | Victoria & Albert | Princess Victoria, Duchess of Kent | Ffilm deledu |
2001 | Bob & Rose | Monica Gossage | Cyfres deledu (3 pennod) |
2001 | Iris | Janet Stone | |
2003 | Lucky Jim | Celia Welch | Ffilm deledu |
2003 | Calendar Girls | Ruth | |
2004 | Shaun of the Dead | Barbara | |
2005 | Falling | Daisy Langrish | Ffilm deledu |
2005 | Match Point | Eleanor Hewett | |
2005 | Pride & Prejudice | Mrs. Gardiner | |
2005-2008 | Doctor Who | Harriet Jones | Cyfres deledu (4 pennod: 2005–2008) |
2006 | Celebration | Julie | Ffilm deledu |
2006 | The History Boys | Mrs. Bibby | |
2007 | Five Days | Barbara Poole | Cyfres deledu (4 pennod)
Enwebwyd – Gwobr RTS – Actor Gorau |
2007 | Half-Broken Things | Jean | Ffilm deledu |
2008 | The Passion | Mary | Mini-gyfres deledu |
2009 | Marple: They Do It with Mirrors | Carrie Louise Serrocold | Ffilm deledu |
2009 | Margot | B.Q. | Ffilm deledu |
2010 | My Family | Rosemary Matthews | Cyfres deledu (1 bennod: "Wheelie Ben") |
2010–2015 | Downton Abbey | Isobel Crawley latterly Baroness (Lady) Merton | Cyfres deledu |
2011 | South Riding | Mrs. Beddows | Cyfres deledu (3 pennod) |
2012 | The Best Exotic Marigold Hotel | Jean | Enwebwyd -Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Gast mewn Ffilm
Enwebwyd - Gwobr Gymdeithas Feirniaid Darlledu Ffilmiau ar gyfer y Cast Gorau |
2012 | The Girl | Peggy Robertson | Ffilm deledu |
2013 | Belle | Lady Mary Murray | |
2015 | The Second Best Exotic Marigold Hotel | Jean | |
2016 | The BFG | The Queen | Ôl-gynhyrchu |
2016 | Brief Encounters | Pauline | Ffilmio |
Llwyfan
golyguDechreuodd Penelope Wilton ei gyrfa broffesiynol yn y Nottingham Playhouse, ac ymddangosodd gyda Nicholas Clay yn The Dandy Lion. Chwaraeoedd Regan King Lear Michael Hordern yn y Nottingham Playhouse yn 1970; gyda Anna Calder-Marshall yn chwarae Cordelia, a Thelma Ruby yn chwarae'r chwaer hŷn, Goneril.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Theatr |
---|---|---|---|
1971 | West of Suez | Mary | Theatr y Llys Brenhinol, Llundain |
1971 | The Philanthropist | Araminta | Theatr y Llys Brenhinol, wedyn Theatr Ethel Barrymore, Dinas Efrog Newydd |
1972 | The Great Exhibition | Maud | Clwb Theatr Hampstead, Llundain |
1973 | The Director of the Opera | Sophia | Theatr y Llys Brenhinol, Llundain |
1973 | The Seagull | Masha | Gŵyl Chichester |
1974 | Something's Burning | Dikson | Theatr y Mermaid, Llundain |
1974 | The Norman Conquests | Ruth | Theatr Greenwich, Llundain |
1974 | Bloomsbury | Dora Carrington | Theatr y Phoenix, Llundain |
1975 | Measure For Measure | Isabella | Theatr Greenwich, Llundain |
1976 | "Play," Play and Others | Second woman | Theatr y Llys Brenhinol, Llundain |
1978 | Plunder | Prudence Malone | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
1978 | The Philanderer | Julia Craven | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
1978 | Betrayal | Emma | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
1979 | Tishoo | Barbara | Theatr Wyndham, Llundain |
1981 | Man and Superman | Ann Whitefield and Dona Ana | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Olivier, Llundain |
1981 | Much Ado about Nothing | Beatrice | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Olivier, Llundain |
1982 | Major Barbara | Barbara Undershaft | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
1988 | The Secret Rapture | Marion French | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
1988 | Andromache | Hermione | Theatr y Old Vic, Llundain |
1990 | Piano | Theatr y Cottesloe, Llundain | |
1993 | The Deep Blue Sea | Hester Collyer | Theatr yr Almeida, Llundain |
1999 | A Kind of Alaska, The Collection, and The Lover | Deborah | Donmar Warehouse, Llundain |
2000 | The Seagull | Arkadina | Theatr y Barbican, Llundain |
2001 | Lillian Hellman's Little Foxes | Regina | Donmar Warehouse, Llundain |
2002 | Afterplay | Sonya | Theatr Gielgud, Llundain
Theatr y Gate, Dulyn |
2005 | The House of Bernarda Alba | Bernada | Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain |
2006 | Eh Joe | Llais benywaidd | Theatr y Gate, Dulyn
Duke of York's, Westminster, Llundain |
2006 | Women Beware Women | Livia | Theatr y Swan, Stratford |
2007 | John Gabriel Borkman | Ella Rentheim | Donmar Warehouse, Llundain |
2008 | The Chalk Garden | Miss Madrigal | Donmar Warehouse, Llundain |
2008 | The Family Reunion | Agatha | Donmar Warehouse, Llundain |
2009 | Hamlet | Gertrude | Theatr Wyndham, Llundain |
2011 | A Delicate Balance | Agnes | Theatr yr Almeida, Llundain |
2014–15 | Taken At Midnight | Irmgard Litten | Theatr y Minerva, Chichester/ Theatr Frenhinol Haymarket, Llundain |
Bywyd personol
golyguRhwng 1975 a 1984, roedd Wilton yn briod i'r actor Daniel Massey. Cawsant ferch, Alice, fe'i ganwyd yn 1977.[9] Yn 1991 priododd Wilton Syr Ian Holm (yn 1998, ar ôl iddo gael ei urddo'n farchog, daeth yn Lady Holm) ac ymddangosant gyda'i gilydd fel Pod ac Homily yn addasiad 1993 y BBC o The Borrowers. Ysgarant yn 2001.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Penelope Wilton". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-28. Cyrchwyd 16 February 2015.
- ↑ "Penelope Wilton, the winner of discontent". The Times. 30 April 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-15. Cyrchwyd 2012-03-06.
- ↑ Andrew Billen (26 April 2000). "Time for Penelope to soar". Evening Standard. London. Cyrchwyd 2012-03-06.[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 "Former students - Central Saint Martins". Csm.arts.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-16. Cyrchwyd 2012-03-06.
- ↑ http://www.oxforddnb.com/templates/article.jsp?articleid=69552&back=
- ↑ ""What'sOn: Wicked role for Penelope means it's Women Beware Wilton; Theatre". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-31. Cyrchwyd 2016-03-27.
- ↑ "Biography for Richard Morant" at IMDb
- ↑ Drama Centre: watch this face Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Kellaway, Kate (30 September 2001). "A study in emotion". The Observer. Cyrchwyd 25 August 2015.
- ↑ Olga Craig (15 November 2008). "Penelope Wilton: an actress who epitomises all things quintessentially English". Daily Telegraph. Cyrchwyd 21 November 2012.