The BFG (ffilm 2016)

Mae The BFG yn ffilm ffantasi-antur Americanaidd 2016 a gyfarwyddwyd a chyd-gynhyrchwyd gan Steven Spielberg ac ysgrifennwyd gan Melissa Mathison. Seiliwyd y ffilm ar y nofel o'r un enw (neu Yr CMM yn Gymraeg) gan Roald Dahl. Serenna Mark Rylance, Ruby Barnhill, Penelope Wilton, Rebecca Hall, Bill Hader and Jemaine Clement yn y ffilm. Dechreuodd brif ffotgraffiaeth y ffilm ar 23 Mawrth 2015. Cyd-gynhyrchir y ffilm gan Walt Disney Pictures, DreamWorks Pictures, Amblin Entertainment, ac Walden Media, ac fe'i rhyddhawyd mewn fformatau Disney Digital 3-D a RealD 3D ar 1 Gorffennaf 2016.

The BFG

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Cynhyrchydd Steven Spielberg
Frank Marshall
Sam Mercer
Ysgrifennwr Sgript gan:
Melissa Mathison
Seiliwyd ar:
Yr CMM
gan Roald Dahl
Serennu Mark Rylance
Ruby Barnhill
Penelope Wilton
Rebecca Hall
Bill Hader
Jemaine Clement
Cerddoriaeth John Williams
Sinematograffeg Janusz Kamiński
Golygydd Michael Kahn
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Walt Disney Pictures
DreamWorks Pictures
Amblin Entertainment
Reliance Entertainment
Walden Media
The Kennedy/
Marshall Company
Dyddiad rhyddhau 1 Gorffennaf, 2016
(Yr Unol Daleithiau)
Dosbarthwyr
Walt Disney Studios
Motion Pictures
Amser rhedeg I'w gyhoeddi
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Cynsail golygu

Daw Sophie (Ruby Barnhill) yn ffrind gyda chawr o'r enw The BFG (Mark Rylance) wrth iddynt ddechrau ar antur i gipio cewri drwg oedd yn bwyta pobl a goresgyn y byd.

Cast golygu

Cynhyrchiad golygu

Castio golygu

Ar 27 Hydref 2014, cafodd Mark Rylance ei gastio ym mhrif ran y ffilm.[1] Dywedodd Spielberg bod "Mark Rylance is a transformational actor. I am excited and thrilled that Mark will be making this journey with us to Giant Country. Everything about his career so far is about making the courageous choice and I'm honoured he has chosen The BFG as his next big screen performance."[5][6] Perfformiodd Rylance y cymeriad trwy gipio symudiadau, a dywedodd bod y broses yn "liberating".[7] Yng nghanol mis Tachwedd 2014, daeth i'r amlwg bod disgybl deng mlwydd oed o Ysgol Lower Peover, Ruby Barnhill wedi cael clyweliad ar gyfer y ffilm lle roedd yn rhaid iddi ddysgu chwe tudalen o ddeilaog gan roedd yn bosibl y bydd yn cael y rôl o Sophie yr amddifad.[8] Ar ôl cyfnod hir o chwilio am rywun i chwarae Sophie, ar 16 Rhagfyr, cafodd actors deng mlwydd oed o Brydain, Rugby Barnhill ei chastio yn y rôl. Dywedodd, "I feel incredibly lucky and I'm so happy." Dywedodd Spielberg eu bod "have discovered a wonderful Sophie in Ruby Barnhill."[2] Cynhoeddwyd ar 27 Mawrth 2015 y bydd Bill Hader yn serennu yn y ffilm mewn.[4] Ar 13 Ebrill 2015, cyhoeddwyd gweddil y cast, sy'n cynnwys Penelope Wilton, Rebecca Hall, Jemaine Clement, Michael David Adamthwaite, Daniel Bacon, Chris Gibbs, Adam Godley, Jonathan Holmes, Paul Moniz de Sa, and Ólafur Ólafsson.[3]

Ffilmio golygu

Dechreuodd brif ffotograffiaeth y ffilm ar 23 Mawrth 2015 yn Vancouver[3][9] a daeth i ben ar 12 Mehefin 2015.[10] Gweithia Weta Digital ar effeithiau gweledol y ffilm.[11]

Rhyddhad golygu

Rhyddheir The BFG ar 1 Gorffennaf 2016,[12] a fei' dosbarthir gan Walt Disney Studios Motion Pictures, heblaw am wledydd yn Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol, lle y gwerthir hawliau dosbarthu'r ffilm gan Mister Smith Entertainment i ddosbarthwyr annibynnol.[13][14] Rhyddha bartner ariannol DreamWorks, Reliance Entertainment y ffilm yn India. Rhyddha Entertainment One y ffilm ar 22 Gorffennaf 2016 yn y DU.[15]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Fleming Jr, Mike (27 Hydref 2014). "Mark Rylance To Play 'The BFG' In Roald Dahl Adaptation By Steven Spielberg". deadline.com. Cyrchwyd 28 Hydref 2014.
  2. 2.0 2.1 "Steven Spielberg Casts 10-Year-Old Ruby Barnhill as Lead in 'The BFG'". thewrap.com. 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2014.
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 Fleming Jr, Mike (13 Ebrill 2015). "Disney Signs On To Co-Fi Steven Spielberg's 'The BFG'". Deadline.com. Cyrchwyd 13 Ebrill 2015.
  4. 4.0 4.1 Ge, Linda (27 Mawrth 2015). "Bill Hader Joining Steven Spielberg's 'The BFG'". thewrap.com. Cyrchwyd 31 Mawrth 2015.
  5. "Mark Rylance to be Spielberg's BFG". the Guardian. Cyrchwyd 28 Hydref 2014.
  6. Tatiana Siegel (27 Hydref 2014). "Three-Time Tony Winner Mark Rylance Nabs Lead in Steven Spielberg's 'The BFG'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 28 Hydref 2014.
  7. Breznican, Anthony (3 Chwefror 2016). "Meet Mark Rylance, the Oscar contender who's never himself unless he's someone else". Entertainment Weekly. Cyrchwyd 7 Chwefror 2016.
  8. Harris, Alan (17 Tachwedd 2014). "Crackley Hall pupil auditions for role in Steven Spielberg's new film". coventrytelegraph.net. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.[dolen marw]
  9. "On the Set for 3/23/15: Ryan Reynolds Starts Shooting 'Deadpool', Chloë Grace Moretz Begins 'November Criminal' & More". ssninsider.com. 23 Mawrth 2015. Cyrchwyd 23 Mawrth 2015.
  10. Bullock, Paul (13 Mehefin 2015). "Frank Marshall tweets from last day of BFG shoot". fromdirectorstevenspielberg.tumblr.com. Cyrchwyd 18 Mehefin 2015.
  11. Ritman, Alex (22 Mehefin 2015). "CineEurope: Steven Spielberg Talks 'BFG' Filming". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 16 Hydref 2015.
  12. McNary, Dave (16 Mehefin 2014). "Tom Hanks-Steven Spielberg Cold War Thriller Set for Oct. 16, 2015". Variety. Cyrchwyd 6 Mehefin 2014.
  13. Rainey, James. "Steven Spielberg Takes First Directing Turn With Walt Disney Studios". Variety. Cyrchwyd 13 Ebrill 2015.
  14. Barraclough, Leo (8 Mai 2015). "David Garrett, Ralpho Borgos Hope to Take Mr. Smith Shingle to the Summit". Variety. Cyrchwyd 15 Chwefror 2016.
  15. "Steven Spielberg's 'The BFG' Primed for U.K. Release With eOne". Variety. 11 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2014.