Pensaernïaeth Art Deco

arddull pensaernïol

Mae pensaernïaeth Art Deco yn rhan o'r symudiad celfyddydol mwy eang a elwir yn Art Deco, a ymddangosodd yn gyntaf yn Ffrainc bach cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1] Dylanwadodd Art Deco ar adeiladau, dodrefn, gemwaith, fasiwn, ceir, trenau a llongau, a gwrthrychau pob dydd megis radios a hwfers.[2] Cymerwyd ei enw, sy'n lawfer ar gyfer Arts Décoratifs, o'r Exposition internationale des arts décoratifs et industriels modernes (Arddangosfa Ryngwladol ar Gelfyddydau Modern Addurnol a Diwydiannol) a gynhaliwyd ym Mharis ym 1925.[3] Yn ystod uchafbwynt ei boblogrwydd roedd Art Deco yn cynrychioli moethusrwydd, digonedd, a budd mewn cynnydd cymdeithasol a thechnolegol.

Yn ystod yr 1930au, yn ystod y Dirwasgiad Mawr, daeth Art Deco yn fwy tawel, a chyrhaeddodd deunyddiau newydd yn cynnwys platio crôm, dur gwrthstaen, a phlastig. Ymddangosodd ffurf fwy llyfn o'r steil, a elwir yn Streamline Moderne, yn yr 1930au; roedd ganddo ffurfiau crom ac arwynebau llyfn, gloyw.[4] Art Deco oedd un o'r steiliau oedd wir yn rhyngwladol, ond bennodd ei boblogrwydd wrth i'r Ail Ryfel Byd dechrau, a'r twf ym mhensaernïaeth swyddogaethol diarddun megis pensaernïaeth fodern a'r Steil Rhyngwladol.[5]

Adeiladau golygu

Dechreuodd y steil pensaernïaeth Art Deco ym Mharis ym 1903–04, pan adeiladwyd dau bloc fflatiau, un gan Auguste Perret ar rue Trétaigne, a'r llall ar rue Benjamin Franklin gan Henri Sauvage. Defnyddiodd ddau bensaer ifanc concrit cyfnerthedig am y tro cyntaf ar gyfer adeiladau preswyl ym Mharis. Roedd gan yr adeiladau llinellau clir, ffurfweddau petryalog, a diffyg addurniadau ar eu ffasadau. Roeddent yn nodi toriad llwyr o'r steil art nouveau.[6] Rhwng 1910 ac 1913, defnyddiodd Perret ei brofiad yn defnyddio concrit i adeiladu'r Théâtre des Champs-Élysées, 15 avenue Montaigne. Rhwng 1925 a 1928 fe adeiladodd e'r ffasâd art deco newydd i'r siop adrannol La Samaritaine ym Mharis.[7]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd adeiladau art deco dur a choncrit cyfnerthedig ymddangos yn ninasoedd mawr dros Ewrop a'r Unol Daleithiau. Yn yr Unol Daleithiau defnyddiwyd y steil yn bennaf ar gyfer swyddfeydd, adeiladau'r llywodraeth, sinemâu, a gorsafoedd trên. Weithiau cyfunwyd gyda steiliau eraill: ar gyfer Neuadd y Dref Los Angeles cyfunwyd art deco gyda tho yn seiliedig ar y Mawsolëwm yn Halicarnassus o Hen Roeg; tra bod Gorsaf Trên Los Angeles yn cyfuno art deco gyda phensaernïaeth cenhadaeth Sbaeneg. Ymddangosodd elfennau Art Deco hefyd ym mhrosiectau peirianneg, gan gynnwys y Pont Golden Gate a thyrau Argae Hoover. Yn yr 1920s a'r 1930s fe ddaeth yn steil wir ryngwladol: mae esiamplau yn cynnwys y Palacio de Bellas Artes yn Ninas Mecsico gan Federico Mariscal, Gorsaf Metro Mayakovskaya ym Moscow, a'r adeilad Diet Cenedlaethol yn Tokyo gan Watanabe Fukuzo.

Doedd y steil Art Deco ddim wedi ei gyfyngu i adeiladau ar dir; roedd gan y llong SS Normandie, a theithiodd yn gyntaf ym 1935, dyluniad Art Deco. Roedd yn cynnwys ystafell fwyta gyda nenfwd ac addurniadau wedi eu gwneud o wydr gan Lalique.[8]

"Eglwysi Cadeiriol Masnach" golygu

Uchafbwynt dyluniad mewnol Art Deco oedd cynteddau adeiladau'r llywodraeth, theatrau, ac yn enwedig swyddfeydd. Roedd y tu fewn i rain andros o liwgar a deinameg, yn cyfuno cerfluniau, murluniau, a dyluniadau addurnedig ym marmor, gwydr, crochenwaith, a dur gwrthstaen. Enghraifft gynnar yw'r Adeilad Fisher yn Detroit, gan Joseph Nathaniel French; addurnwyd y cyntedd gyda cherfluniau a chrochenwaith. Roedd Adeilad Guardian (yn wreiddiol Adeilad Union Trust) yn Detroit, gan Wirt Rowland (1929), wedi'i addurno gyda marmor coch a du a chrochenwaith lliwgar. Roedd y rhain yn uwcholeuo drysau dur y lifft a'r desgiau. Roedd yr addurniadau cerfluniol a rhoddwyd yn y waliau yn dangos rhinweddau diwydiant; felly llysenwyd yr adeilad "Eglwys Gadeiriol Masnach" ("Cathedral of Commerce"). Ysbrydoliaeth 450 Sutter Street yn San Francisco gan Timothy Pflueger oedd pensaernïaeth Maiaidd, mewn ffurf arddulliedig iawn; defnyddiwyd siapiau pyramid, a gorchyddiwyd y waliau mewnol mewn hieroglyffau addurniadol.[9]

Yn Ffrainc, enghreifftiau gorau Art Deco mewnol yw Palais de la Porte Dorée (1931) gan Albert Laprade, Léon Jaussely a Léon Bazin. Adeiladwyd yr adeilad (nawr Amgueddfa Genedlaethol Mewnfudiad, gydag acwariwm yn ei islawr) ar gyfer Dangosiad Gwladfaol Paris yn 1931, er mwyn dathlu pobl o gynnyrch gwladfeydd Ffrengig. Gorchyddiwyd y ffasâd allanol yn gyfan gwbl â cherfluniau, ac roedd gan y cyntedd llawr pren mewn patrwm geometreg, murlun yn dangos gwladfeydd Ffrengig, a chyfansoddiad o ddrysau fertigol a balconïau llorweddol.

Palasau ffilm golygu

Mae nifer o'r enghreifftiau Art Deco a oroesodd gorau yw'r sinemâu a adeiladwyd yn yr 1920au a'r 1930au. Roedd y cyfnod Art Deco yn cyd-fynd gyda throi ffilmiau mud i sain, ac adeiladodd cwmnïau ffilm theatrau enfawr yn ninasoedd pwysig ar gyfer y cynulleidfaoedd a ddaeth i weld y ffilmiau. Roedd palasau ffilm yr 1920au fel arfer yn cyfuno art deco gyda themâu egsotig; ysbrydoliaeth Theatr Eifftaidd Grauman yn Hollywood (1922) oedd pyramidau a beddau Eifftaidd, tra yn Theatr Fox yn Bakersfield, Califfornia ychwanegwyd twr steil cenhadaeth Califfornia i neuadd Art Deco. Y fwyaf yw Radio City Music Hall yn Efrog Newydd, a agorodd ym 1932. Yn wreiddiol dyluniwyd fel theatr llwyfan, ond yn sydyn iawn trosglwyddwyd i sinema, a gall dal 6,015 person. Ar gyfer ei thu fewn defnyddiodd y dylunydd Donald Deskey gwydr, alwminiwm, crôm, a lledr er mwyn creu awyrgylch lliwgar. Roedd gan y Theatr Paramount yn Oakland, Califfornia, gan Timothy Pflueger, ffasâd crochenwaith lliwgar a chyntedd oedd ag uchder o bedwar llawr. Ymddangosodd palasau tebyg yn Ewrop. Y Grand Rex ym Mharis (1932) oedd sinema fwyaf Ewrop. Roedd gan y Sinema Gaumont State yn Llundain (1937) twr a fodelwyd ar Adeilad Empire State. Heddiw mae nifer o'r sinemâu hyn wedi cael eu torri lan mewn i sinemâu amlblecs, ond mae eraill wedi'i adfer a'u troi'n canolfannau diwylliannol i'w gymunedau.[10]

Streamline Moderne golygu

Yn yr 1930au hwyr, daeth amrywiad newydd o bensaernïaeth Art Deco yn gyffredin; fe'i helwir yn "Streamline Moderne", neu yn Ffrainc y "Steil Paqueboat", neu'r "Steil Llong". Roedd gan adeiladau yn y steil hyn corneli crom llinellau llorweddol hir, caiff ei adeiladu o goncrit cyfnerthedig, ac fel arfer roeddent yn wyn, efallai gyda nodweddion morwrol, megis rheiliau a edrychodd fel rheini ar long. Doedd y corneli crom ddim yn gyfan gwbl newydd; fe'i gwelwyd ym Merlin ym 1923 yn y Mossehaus gan Erich Mendelsohn, ac yna yn Adeilad Hoover. Yn yr Unol Daleithiau daeth yn gysylltiedig gyda thrafnidiaeth; nid roedd Streamline Moderne yn gyffredin mewn swyddfeydd, ond defnyddiwyd yn aml ar gyfer gorsafoedd bws a meysydd awyr, megis ym maes awyr La Guardia yn Efrog Newydd. Roedd hefyd yn gyffredin mewn pensaernïaeth ochr yr hewl megis gorsafoedd petrol a bwytai.[10]

Nendyrau golygu

Roedd nendyrau Americanaidd yn dynodi uchafbwynt y steil Art Deco; nhw oedd yr adeiladau mwyaf dal a mwyaf adnabyddadwy yn y byd. Cafwyd eu dylunio er mwyn dangos bri eu hadeiladwyr trwy eu taldra, eu siâp, eu lliw, a'u goleuad gyda'r nos.[11] Roedd Adeilad Radiator Americanaidd gan Raymond Hood (1924) yn cyfuno elfennau gothig ac Art Deco: dewiswyd briciau du ar gyfer blaen yr adeilad (yn symboleiddio glo) er mwyn rhoi syniad bod yr adeilad yn un mas solid; ac roedd gan rannau eraill y ffasâd briciau aur (yn symboleiddio tân); a gorchuddiwyd y fynedfa gyda drychau du. Nendwr cynnar arall oedd Adeilad Guardian yn Detroit, a agorodd ym 1929. Cafodd ei dylunio can y modernydd Wirt C. Rowland, a hi oedd yr adeilad cyntaf i ddefnyddio dur gwrthstaen fel elfen addurnol, a defnydd lliwiau yn lle elfennau addurnol traddodiadol.

Newidiodd nenlinell Efrog Newydd yn fawr gan Adeilad Chrysler ym Manhattan. Cwblhawyd ym 1930 a dyluniwyd gan William Van Alen. Yr oedd yn hysbyseb enfawr, saith deg llawr, ar gyfer ceir Chrysler. Ar ei ben mae pigdwr dur gwrthstaen, a addurnwyd gan "gargoeliau" ar deco sef addurniadau dur gwrthstaen. Addurnwyd sail y twr, a oedd 33 llawr uwchben y stryd, gan gyfresluniau art deco lliwgar. Addurnwyd y cyntedd gan symbolau art deco a delweddau yn cyfleu modernrwydd.[12]

Yn dilyn Adeilad Chrysler, daeth Adeilad Empire State gan William F. Lamb (1931), ac Adeilad RCA yng Nghanolfan Rockefeller gan Raymond Hood (1933). Gyda'i gilydd newidiodd y rhain nenlinell Efrog Newydd yn llwyr. Addurnwyd pen yr adeiladau gan bigdyrau dur gwrthstaen, tra addurnwyd eu cynteddau gan gerfluniau a chrochenwaith. Ymddangosodd adeiladau tebyg, er roeddent yn fyrrach, yn Chicago a dinasoedd eraill America. Ychwanegodd y Ganolfan Rockefeller elfen newydd i'r dyluniad: nifer o adeiladau tal wedi'u grwpio o amgylch sgwâr canolig gyda ffynnon dwr yn ei chanol.[13]

Addurniadau a motiffau golygu

Aeth addurniad art deco trwy nifer o gyfnodau amlwg. Rhwng 1910 a 1920, wrth i Art Nouveau marw, gwnaeth steiliau dylunio dychwelyd i draddodiad, yn enwedig yng ngwaith Paul Iribe. Ym 1912 cyhoeddodd André Vera traethawd yng nghylchgrawn L'Art Décoratif yn galw am ddeunyddiau a chrefftwaith y canrifoedd cynharach, yn defnyddio nifer o ffurfiau yn tarddu o natur, yn enwedig basgedi o ffrwythau a blodau. Tuedd arall Art Deco, hefyd o 1910 i 1920, oedd ysbrydoliaeth lliwiau llachar Ffofyddiaeth (Fauvism), a gan setiau a gwisgoedd llachar y Ballets Russes. Yn aml daeth y steil hyn i'r amlwg gyda deunyddiau egsotig megis croen siarc, cregynem, ifori, lledr arlliwedig, pren wedi paentio, a brithwaith addurnedig geometreg ar ddodrefn. Uchafbwynt y steil hyn oedd yn 1925 gyda Dangosiad y Celfyddydau Addurnedig ym Mharis. Yn yr 1920au a'r 1930au hwyr, newidiodd y steil addurnedig, a chafwyd ei ysbrydoli gan ddeunyddiau a thechnolegau newydd. Daeth yn fwy llyfn ac yn llai addurnedig.[14]

Trwy gydol y cyfnod Art Deco, ac yn enwedig yn yr 1930au, roedd motiffau'r addurniadau yn mynegi swyddogaeth yr adeilad. Addurnwyd theatrau gyda cherfluniau yn dangos cerddoriaeth, dawns, a chyffro; roedd cwmnïau pŵer yn dangos codiadau haul; roedd Adeilad Chrysler yn dangos addurniadau tebyg i addurniadau ceir; rac oedd cyfresluniau'r Palais de la Porte Dorée yn dangos wynebau gwahanol wladfeydd Ffrainc. Roedd yr adeiladau'r steil Streamline Moderne, a ddefnyddiwyd yn helaeth ar gyfer adeiladau trafnidiaeth, yn ymddangos fel roedd yr adeilad ei hun yn symud. Roedd murluniau'r Works Progress Administration yn dangos pobl gyffredin, gweithwyr ffatrïoedd, gweithwyr post, teuluoedd a ffermwyr, yn lle'r arwyr clasurol.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. Texier, Simon (2012). Paris, panorama de l'architecture de l'Antiquité à nos jours. Paris: Parigramme. t. 128. ISBN 978-2-84096-667-8.
  2. Hillier, Bevis (1968). Art Deco of the 20s and 30s. London: Studio Vista. t. 12. ISBN 0-289-27788-4. OCLC 40363.
  3. Art deco 1910-1939. Benton, Charlotte., Benton, Tim, 1945-, Wood, Ghislaine., Victoria and Albert Museum. (arg. 1st North American ed). Boston: Bulfinch Press/AOL Time Warner Book Group. 2003. t. 16. ISBN 0-8212-2834-X. OCLC 53017256.CS1 maint: others (link) CS1 maint: extra text (link)
  4. Renaut, Christophe a Lazé, Christophe, Les Styles de l'architecture et du mobilier (Editions Jean-Paul Gisserot, 2006), tt. 110–16
  5. Art deco 1910-1939. Benton, Charlotte., Benton, Tim, 1945-, Wood, Ghislaine., Victoria and Albert Museum. (arg. 1st North American ed). Boston: Bulfinch Press/AOL Time Warner Book Group. 2003. tt. 13–28. ISBN 0-8212-2834-X. OCLC 53017256.CS1 maint: others (link) CS1 maint: date and year (link) CS1 maint: extra text (link)
  6. Poisson, Michel. (2009). 1000 immeubles et monuments de Paris : dictionnaire visuel des architectes de la capitale. Paris: Parigramme. tt. 299 ac 318. ISBN 978-2-84096-539-8. OCLC 449489303.
  7. Plum, Gilles. (2014). Paris : architectures de la Belle Époque. Impr. SEPEC). Paris: Parigramme. t. 134. ISBN 978-2-84096-800-9. OCLC 899377401.CS1 maint: date and year (link)
  8. Ardman, Harvey. (1985). Normandie : her life and times. New York: F. Watts. tt. 86–87. ISBN 0-531-09784-6. OCLC 11622120.
  9. Duncan, Alastair, 1942- (2009). Art deco complete : the definitive guide to the decorative arts of the 1920s and 1930s. New York: Abrams. tt. 198–200. ISBN 978-0-8109-8046-4. OCLC 317927187.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  10. 10.0 10.1 10.2 Duncan, Alastair, 1942- (1989). Art déco. Hechter, Michèle,. Paris: Thames and Hudson. tt. 197–199. ISBN 2-87811-003-X. OCLC 21286540.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  11. John Burchard ac Albert Bush Brown, The Architecture of America (Atlantic, Little and Brown, 1966), t. 277
  12. Art deco 1910-1939. Benton, Charlotte., Benton, Tim, 1945-, Wood, Ghislaine., Victoria and Albert Museum. (arg. 1st North American ed). Boston: Bulfinch Press/AOL Time Warner Book Group. 2003. tt. 249–259. ISBN 0-8212-2834-X. OCLC 53017256.CS1 maint: others (link) CS1 maint: extra text (link)
  13. Morel, Guillaume, (2012). Art déco. Paris: Éd. Place des Victoires. tt. 125–130. ISBN 978-2-8099-0701-8. OCLC 864556215.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  14. Explanatory text on Art Deco in the Museum of Decorative Arts, Paris