Penycloddiau
O holl fryngaerau Bryniau Clwyd, Penycloddiau (neu Pen-y-cloddiau) ydyw'r fwyaf gogleddol. Mae Llwybr Clawdd Offa'n croesi ei gopa. I'r dwyrain ohono mae Moel Plas-yw, ac i'r gogledd ohono saif Moel y Parc, gyda'i fast enfawr. Perthyn i Oes yr Haearn mae'r gaer hon, fel caer arall nid nepell ohoni, sef Moel Fenlli. Mae'r gaer yn 21 hectar o ran arwynebedd, sy'n ei gwneud y bumed mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd.[1][2] Mae'r cloddiau sy'n amgylchynnu'r gaer yn 1.93 km kilometr o hyd.
Math | safle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 21 ±0.1 ha |
Uwch y môr | 440 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.1987°N 3.3055°W |
Cod OS | SJ128676 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 156 metr |
Rhiant gopa | Moel Famau |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL009 |
Mae Llwybr Clawdd Offa'n rhedeg drwy'r gaer o'r gogledd i'r de, drwy ddwy fynedfa hynafol a cheir peth treulio ar yr henebion gan effaith y cerdded. 53°12′N 3°19′W / 53.2°N 3.31°W
Yn 1962 ac wedyn yn 2003 a 2003 gwelwyd olion tai crynion ar lwyfanau o fewn y gaer - tua 43 i gyd - ac yn 2006 a 2009 cafwyd cloddio archaeolegol yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT). Ceir siambr gladdu ar y copa, siambr sy'n perthyn i'r Oes Efydd[1] (tua 4,000 o flynyddoedd oed) ac sydd, felly'n, hŷn na'r fryngaer ei hun. Cafodd y gloddfa hon ei harchwilio gan CPAT yn 2008.[3]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Delweddau
golygu-
Penycloddiau o Foel y Parc
-
Penycloddiau o Landyrnog
-
Ffos allanol y gaer. Dinbych yn y pellter (ar y dde).
-
Y fynedfa ddwyreiniol, gan edrych i gyfeiriad yr Wyddgrug
-
Mynedfa ddeheuol. Yn y pellter ar y chwith saif Moel Arthur ac yna Moel Famau.
-
Un o'r tri phwll dŵr yng nghanol y fryngaer.
-
Y copa, i gyfeiriad y de; Moel Famau yn y pellter. Hen gloddfa gladdu.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-15. Cyrchwyd 2010-08-30.
- ↑ Megalithic Portal
- ↑ Adroddiad ar yr ymchwiliad archaeolegol 2008[dolen farw]
- ↑ Cofrestr Cadw.