Petal-lys

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Petal-lys
Petalophyllum ralfsii
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Fossombroniales
Teulu: Petalophyllaceae
Genws: Petalophyllaceae
Rhywogaeth: P. ralfsii
Enw deuenwol
Petalophyllum ralfsii

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Petal-lys (enw gwyddonol: Petalophyllum ralfsii; enw Saesneg: petalwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod ar hyd arfordir Cymru, Cernyw, yrAlban ac Iwerddon, a rhai gwledydd eraill.

Mae'n ffurfio rosetau gwyrdd neu fatiau gyda thalli unigol hyd at 1.5 cm o hyd.

Fel arfer, mae'n tyfu ar dir calchog, gwlyb, llawn lleithder ar lwybrau twyni ac mewn tyweirch tywodlyd, sy'n agos i'r môr fel arfer. Mae'n byw lle ceir amodau llaith yn y gaeaf, ond gall ddiflannu o'r golwg yn ystod hafau sych, pan fydd yn haf-gysgu o dan y ddaear.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Petal-lys gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.