The Tourist's Guide through the County of Caernarvon
Arweinlyfr i deithwyr gan yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams yw The Tourist's Guide through the County of Caernarvon, a gyhoeddywd gan L. E. Jones yng Nghaernarfon yn 1821.[1] Er bod sawl llyfr taith am Gymru wedi eu cyhoeddi cyn hynny, dyma un o'r arweinlyfrau cynharaf i deithwyr yng Nghymru a'r cynharaf oll am yr hen Sir Gaernarfon (gogledd Gwynedd a gorllewin Sir Conwy heddiw).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|
Cynnwys
golyguTeitl llawn y gyfrol yw The Tourist's Guide through the County of Caernarvon, containing a Short Sketch of its History, Antiquities, etc..[1]
Mae'r gyfrol yn dechrau gyda disgrifiad o dref ac ardal Conwy, "gan bod teithwyr yn arfer dod i'r sir naill ai ar hyd y ffordd drwy Gonwy (yr A55 heddiw) neu drwy Gapel Curig" (yr A5 heddiw). Mae'r disgrifiad yn dilyn arfordir y sir o Gonwy i ddinas Bangor. Ymdrinnir â gogledd Eryri, gyda sylw arbennig i'r Wyddfa ac ardal Llanberis, ac wedyn penrhyn Llŷn gan orffen gyda Eifionydd a de Eryri.[1]
Roedd Peter Bailey yn hynafiaethydd Cymreig brwd a cheir llawer o hanes lleol yn ei gyfrol. Yn ogystal mae'n rhydd digrifiadau byw ac sydd o werth hanesyddol erbyn hyn o lefydd fel Chwarel y Penrhyn ger Bethesda.[1]
Yn yr atodiadau yng nghefn y llyfr ceir rhestr o blwyfi a rheithordai'r sir ynghyd â bywgraffiadau cryno esgobion Bangor a rhestri o ddiaconiaid, a llythyrau gan y brenin Siarl I o gyfnod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Ar ddiwedd y gyfrol ceir rhestr o blanhigion prin yr ardal gan J. Roberts, meddyg yng Nghaernarfon. I gloi cymeradwyir fel tywysydd mynydd Thomas Williams o "Glan y Bala", Llanberis, ynghyd â "Thomas Philip a Thomas Griffith a holl gychwyr Cwm y Glo" ym mhlwyf Llanrug.[1]
Gweler hefyd
golygu- Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-11)