Peter Jones (Pedr Fardd)
Bardd Cymraeg oedd Peter Jones (17 Medi 1775 – 26 Ionawr 1845), sy'n adnabyddus dan ei enw barddol Pedr Fardd.
Peter Jones | |
---|---|
Ffugenw | Pedr Fardd |
Ganwyd | 17 Medi 1775 Garndolbenmaen |
Bu farw | 26 Ionawr 1845 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGanwyd a magwyd Pedr Fardd yng Ngarndolbenmaen, Eifionydd (Gwynedd) yn 1775. Symudodd i Lerpwl ac yno y bu'n cadw ysgol am y rhan fwyaf o'i oes.[1]
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei awdlau a chywyddau eisteddfodol, ond er ei fod yn gynganeddwr llithrig nid oes llawer o werth llenyddol i'r cerddi hyn. Mae rhai o'i gerddi mwy personol yn well, e.e. pan mae'n sôn am ei hiraeth am Gymru.[1]
Mater arall yw ei emynau, sy'n cynnwys 'Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen', 'Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli', 'Mae'r iachawdwriaeth rad yn ddigon i bob rhai', 'Un a gefais imi'n gyfaill; pwy fel Efe?', 'Hyfryd lais efengyl hedd sydd yn galw pawb i'r wledd' a 'Yr holl frenhiniaethau a dreulir, a'r ddelw falurir i'r llawr'.[1] Ystyrir ef yn un o brif emynwyr y Gymraeg.
Mae ei gartref yn dal i'w weld, yn adfail, yng Ngarndolbenmaen, i'r dwyrain o ganol y pentref ar ochr y mynydd. Mae stryd o dai cyngor yn y pentref wedi ei henwi ar ei ôl, sef Bro Pedr Fardd.
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- E. Wyn James, ‘ “Llawn Llafur yw Llynlleifiad”: Cyfrolau Pedr Fardd a’u Hargraffwyr’, yn Dyddiau o Lawen Chwedl: Hanner Can Mlwyddiant Cyhoeddiadau Modern Cymreig 1963-2013 ynghyd ag Ysgrifau ar Gyhoeddi yn Lerpwl a Chymru, gol. John Gwynfor Jones (Lerpwl: Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2014), 142-85. ISBN 978-0-901332-93-6.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- ‘Pedr Fardd a’i Weledigaeth Genhadol’ : https://www.youtube.com/watch?v=vjSuYKUtSWA Anerchiad gan yr Athro E. Wyn James i Sasiwn Genhadol Chwiorydd y De, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 20 Mai 2021.