Petrisen goesgoch
Petrisen goesgoch Alectoris rufa | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Genws: | Alectoris[*] |
Rhywogaeth: | Alectoris rufa |
Enw deuenwol | |
Alectoris rufa | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Petrisen goesgoch (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: petris coesgoch) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Alectoris rufa; yr enw Saesneg arno yw Red-legged partridge. Mae'n perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae) sydd yn urdd y Galliformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. rufa, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop.
Mae'n nythu yn ne-orllewin Ewrop, Ffrainc, Sbaen a Portiwgal.
Ar lawr y mae'r Betrisen Goesgoch yn nythu, mewn cnydau neu laswellt. Gellir adnabod y betrisen hon yn weddol hawdd, yn enwedig o'r rhesi coch ar yr ystlys a'r coesau coch. Hadau yw ei bwyd yn bennaf, ond mae'r cywion yn bwyta pryfed.
Nid yw'r rhywogaeth frodorol yng Nghymru, ond mae niferoedd sylweddol yn cael eu gollwng ar gyfer saethu mewn rhai ardaloedd, a chan fod rhai ohonynt yn nythu, mae poblogaeth wedi datblygu mewn mannau, yn enwedig ar Ynys Môn.
Teulu
golyguMae'r petrisen goesgoch yn perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Petrisen | Perdix perdix | |
Petrisen fynydd goeswerdd | Tropicoperdix chloropus | |
Petrisen goed fronwinau | Tropicoperdix charltonii | |
Sofliar frown | Synoicus ypsilophorus | |
Twrci llygedynnog | Meleagris ocellata |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.