Uwch Dulas
- Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).
Cwmwd canoloesol yng ngogledd Cymru oedd Uwch Dulas. Gyda chymydau'r Creuddyn ac Is Dulas roedd yn ffurfio cantref Rhos.
Dynodai afon Dulas rhan isaf y ffin rhwng Uwch ac Is Dulas, o'i aber yn y môr yn Llanddulas (ger Bae Colwyn heddiw) i fyny i'r bryniau ger Betws yn Rhos. I'r de o'r ardal honno, ymestynnai'r cwmwd fel llain o dir uchel hyd at gyffiniau Pentrefoelas, gan ffinio â chantref Rhufoniog yn y de. Yn y gorllewin ffurfiai Dyffryn Conwy ffin naturiol, gyda'r cwmwd yn gorwedd ar lan ddwyreiniol afon Conwy. Yn y gogledd ffiniai â chwmwd y Creuddyn.
Roedd y rhan fwyaf o'r canolfannau pwysig yn gorwedd ger yr arfordir yn y gogledd, gan gynnwys Llaneilian-yn-Rhos, Mochdre, Llandrillo yn Rhos, Llanddulas a Betws yn Rhos. Yn Nyffryn Conwy Llanrwst oedd y ganolfan bwysicaf. Yn y bryniau roedd plwyfi Llansanffraid Glan Conwy, Maenan, Eglwysbach a Llanddoged.
Roedd Uwch Dulas yn rhan o deyrnas Rhos yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac yna'n rhan o Wynedd. Gydag Is Dulas daeth y cwmwd yn rhan o arglwyddiaeth Dinbych ar ôl goresgyniad Gwynedd (aeth y Creuddyn yn rhan o Sir Gaernarfon, ac ar ddiwedd yr Oesoedd Canol daeth yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Heddiw mae'n rhan o fwrdeistref sirol Conwy ar ôl cyfnod yn rhan o sir Clwyd.