Piacenza
Dinas yn ardal Emilia-Romagna, gogledd yr Eidal yw Piacenza (Lladin a Hen Saesneg: Placentia, ac yn nhafodiaith leol Emiliano-Romagnolo: Piasëinsa). Hon yw prifddinas talaith Piacenza.
| |
Math |
cymuned yn yr Eidal, dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
103,082 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Talaith Piacenza ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
118.24 km² ![]() |
Uwch y môr |
61 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Calendasco, Caorso, Corno Giovine, Gossolengo, Gragnano Trebbiense, Podenzano, Pontenure, Rottofreno, San Rocco al Porto, Santo Stefano Lodigiano, Caselle Landi, Polesine Parmense ![]() |
Cyfesurynnau |
45.05°N 9.7°E ![]() |
Cod post |
29121–29122 ![]() |
![]() | |
Hanes hynafolGolygu
Cyn cael ei chyfaneddu gan y Rhufeinwyr, roedd yr ardal yn gartref i lwythi Celtaidd a Ligurian. Roedd yr Etrwsgiaid yn adnabyddus am ddewina perfedd defaid. Darganfyddwyd cerflun efydd o iau, "Iau Piacenza", ger Piacenza yn 1877, roedd enwau'r ardal wedi eu marcio arni, ac phob un wedi ei neulltuo i amryw o dduwiau. Mae hefyd wedi cael ei chysyllu â arfer Haruspex. Sefydlwyd Piacenza yn 218 CC (yn ôl traddodiad, ar 31 Mai), hon oedd y cyntaf o sawl gwladfa milwrol Rhufeinig, er hen enw oedd Placentia yn Lladin a Saesneg.
Anfonwyd 6,000 o wladwyr Lladin i Placentia a gwladfa Cremona gerllaw, yn arbennig aelodau o'r dosbarth Marchogol Rhufain. Enillodd Hannibal Brwydr Trebbia yn ardal Piacenza yr un flwyddyn a sefydliad y ddinas, ond fe wrthsafodd y ddinas fyddinoedd Punic. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, fe ddraenwyd tir y ddinas, ac adeiladwyd porthladd ar yr Afon Po. Ffynnodd Placentia fel conolfan cynhyrchu graen, barlys, miled, a gwlan. Er iddi gael ei anrheithio a'i dinistrio sawl gwaith, adferwyd y ddinas pob tro. Gelwodd Procopius hi'n Urbs Aemilia Princeps, "Tywysoges dinasoedd Via Aemilia", gan olygu "dinas gyntaf Via Aemilia", yn y 6g.
Roedd yr oes hen fyd hwyr, tua 300-700/800, yn Piacenza yn nodwediadol am ehangiad Cristnogaeth, a phresenoldeb sawl merthyr. Roedd y nawddsant presennol, Antoninus, yn gyn-lengwr a drodd yr holl ardal yn Gristnogol, a gafodd ei ladd yn ystod teyrnasiad Diocletian.