Agor y brif ddewislen

Croes Eliseg

(Ailgyfeiriad oddi wrth Piler Eliseg)

Mae Croes Eliseg neu Golofn Eliseg yn golofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Saif yn agos i Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ202445. Credir mai camgymeriad ar ran y cerfiwr oedd cerfio "Eliseg" yn lle "Elisedd".

Croes Eliseg
Elisegs Pfeiler 5 Südost.jpg
Math colofn fuddugoliaeth, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9892°N 3.1873°W, 52.9921°N 3.18931°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Y GroesGolygu

Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Mae cyfeithiad o'r rhan o'r arysgrif sy'n delio ag Elisedd fel a ganlyn :

 
Croes Eliseg
 
Ysgrifen ar Groes Eliseg
+ Concenn fab Catell, Catell fab Brochmail, Brochmail fab Eliseg, Eliseg fab Guoillauc.
+ A'r Concenn hwnnw, gor-ŵyr Eliseg, a gododd y maen yma ar gyfer ei hen daid Eliseg.
+ Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân.
+ Pwy bynnag sy'n ailadrodd yr arysgrif yma, rhoed fendith ar enaid Eliseg.[1]

Mae'r golofn yn awr yng ngofal Cadw.

Y mwntGolygu

Crug crwn ydy'r mwnt lle saif y Groes. Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE015.[2] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Fe godwyd y crug gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.

CyfeiriadauGolygu

  1. John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. Cofrestr Cadw.

Gweler hefydGolygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanolGolygu