Plaid Genedlaethol Cymru
Plaid Genedlaethol Cymru oedd y blaid wleidyddol Gymreig a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Cymru. Sefydlwyd Plaid Cenedlaethol Cymru ar 5 Awst 1925 yng Ngwesty Maes Gwyn, Pwllheli, pan ddaeth Mudiad Cymreig a Byddin Ymreolwyr Cymreig ynghyd. Hugh Robert Jones, teithiwr masnachol o Ddeiniolen a sefydlodd Mudiad Cymreig yng Nghaernarfon ym Medi 1924. Sefydlwyd y Mudiad Cymreig ym Mhenarth yn Ionawr 1924 gan Saunders Lewis, Ambrose Bebb, a Griffith John Williams a'i wraig, Elizabeth. Ymhlith yr aelodau cynnar yr oedd yr hanesydd Ambrose Bebb a'r llenor Kate Roberts.
Ym Mehefin 1930, bu farw Hugh Robert Jones yn ifanc, sef; 36 mlwydd oed, arweiniwyd y ganmoliaeth gan y Parchedig Lewis Valentine. Gwasanaethwyd gan y Parch Llewelyn Bowyer ac R.O. Williams, J.P. Davies, Ben Owen A'r Athro (Bangor) J.E. Daniel.[1]
Yn 1926 daeth Saunders Lewis yn llywydd cyntaf y blaid ac arosodd yn y swydd tan 1939; ef oedd yn bennaf gyfrifol am gyfeiriad y blaid yn y cyfnod hwn. Bychan oedd ei hapel ar y dechrau, ac yn gyfyngedig i raddau i'r Gymru Gymraeg. Rhoddwyd y pwyslais ar ennill grym trwy'r cynghorau sir gan wrthod ymladd etholiadau seneddol. Roedd agweddau pendefigaidd Saunders yn amhoblogaidd a dechreuodd rhai weld tueddiadau Ffasgaidd yn ei syniadau. Drwgdybiwyd ef ymhellach pan ymunodd â'r Eglwys Babyddol yn 1932.
Newidiwyd yr enw i Blaid Cymru, a dan lywyddiaeth Gwynfor Evans daeth y blaid yn fwy o ddylanwad ym mywyd gwleidyddol Cymru.
Cyfeiriadau
golyguGellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.
M
- ↑ "Welsh Gazette". The British Newspaper Archive. Thursday 26 June 1930. Check date values in:
|date=
(help)