Gweriniaeth Pobl Tsieina

wladwriaeth sofran yn Nwyrain Asia
(Ailgyfeiriad o China)

Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina (GPT) neu Tsieina (hefyd Tseina a China) yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardal hanesyddol a daearyddol a elwir yn Tsieina. Ers sefydlu'r weriniaeth yn 1949 mae Plaid Gomiwnyddol Tsieina (PGT) wedi arwain y wlad. GPT yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1,300,000,000. Hi yw'r wlad fwyaf o ran maint yn Nwyrain Asia a'r bedwaredd fwyaf yn y byd, ar ôl Rwsia, Canada, a'r Unol Daleithiau. Mae GPT yn ffinio â 14 gwlad, sef Affganistan, Bhwtan, Myanmar, India, Casachstan, Cirgistan, Laos, Mongolia, Nepal, Gogledd Corea, Pacistan, Rwsia, Tajicistan a Fietnam. Beijing yw prifddinas y wlad.

Gweriniaeth Pobl Tsieina
Mathgwladwriaeth sofran, socialist state, gwladwriaeth seciwlar, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gwlad, gweriniaeth y bobl, dictatorship of the proletariat, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwladwriaeth comiwnyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasBeijing Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,443,497,378 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
AnthemGorymdaith y Gwirfoddolwyr Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLi Qiang Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Safonol, UTC+08:00, Asia/Shanghai, Asia/Urumqi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Mandarin safonol, Tsieineeg, languages of China Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTsieina, Dwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tsieina Tsieina
Arwynebedd9,596,961 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMongolia, Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Pacistan, India, Nepal, Bhwtan, Myanmar, Laos, Fietnam, Rwsia, Gogledd Corea, Affganistan, De Corea, Japan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.8447°N 103.4519°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCyngor Gwladwriaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngres Genedlaethol y Bobl Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethXi Jinping Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cyngor Gwladol Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLi Qiang Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganPlaid Gomiwnyddol Tsieina Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$17,820,459 million, $17,963,171 million Edit this on Wikidata
ArianRenminbi Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.6 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.768 Edit this on Wikidata
Map o Weriniaeth Pobl China

Daearyddiaeth golygu

Ar y cyfan, gwlad fynyddig ydyw Tsieina. Lleolir y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y dwyrain, yn enwedig wrth ymyl yr arfordir ac yn y Gogledd-ddwyrain.

Yn y Gorllewin y mae'n gymharol sych.

Dylid ceisio dirnad maint a phoblogaeth y wlad trwy ystyried fod talaith Sichuan tua'r un faint a Ffrainc ond yn meddu ar ryw ddwywaith y boblogaeth.

Ar hyn o bryd mae llywodraeth Tsieina wrthi yn ymestyn y rheilffyrdd a'r traffyrdd. Cludir cryn dipyn o nwyddau a theithwyr ar yr afonydd, y camlesi, a'r môr. Bu defnydd cynnar ar awyrennau, oherwydd y pellterau.

Yn groes i bolisi'r Unol Daleithiau a Rwsia, un amser (Amser Beijing) a ddefnyddir ym mhob rhan o'r wlad.

Hanes golygu

Pan fu farw Zhou Enlai ym 1976, olynwyd ef fel Prif Weinidog gan Hua Guofeng. Bu farw Mao ei hun ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac olynodd Hua ef fel Cadeirydd y Blaid Gomiwnyddol.

Rhoddodd Hua ddiwedd ar y Chwyldro Diwylliannol, a llwyddodd i leihau grym Jiang Qing a'i chynghreiriaid, y Gang o Bedwar. Fel arall, parhaodd a pholisïau Mao. Yn raddol, enillodd Deng Xiaoping rym o fewn y Blaid Gomiwnyddol, ac olynwyd Hua fel Prif Weinidog gan Zhao Ziyang ym 1980, ac fel Cadeirydd y Blaid gan Hu Yaobang ym 1981.

Iaith a diwylliant golygu

Iaith golygu

Ceir gwahanol amrywiadau Tsieinieg, megis Cantoneeg a Mandarin, sydd mor wahanol i'w gilydd â Ffrangeg a Sbaeneg, neu Lydaweg a Chymraeg. Dadleua ieithwyr mai gwahanol ieithoedd ydynt; fodd bynnag, yr arfer ymhlith pobl Tsieina yw i ystyried mai un iaith yw'r Tsieineeg, ac fe ddefnyddir y gair "tafodiaith" ym aml i ddisgrifio'r amrywiadau. Wrth ysgrifennu, defnyddir yr un nodau, geirfa a gramadeg safonol gan siaradwyr pob tafodiaith, a felly ceir weithiau gryn agendor rhwng y tafodieithoedd llafar a'r iaith ysgrifenedig safonol. Mae modd hefyd ddefnyddio geirfa lafar, dafodieithol wrth ysgrifennu yn anffurfiol, ond beirniedir hyn yn llym mewn amgylchiadau ffurfiol neu niwtral.

Mae cystrawen Tsieinieg yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar drefn geiriau. Nid yw na'r enwau na'r berfau yn newid ac ni cheir gwahaniaeth rhwng unigol a lluosog.

Pan yngenir sillaf bydd ei hystyr yn newid yn ôl yr oslef neu don y defnyddir i'w ynganu.

Defnyddir lluniau bychain i ysgrifennu'r iaith. Ffurfir y lluniau hyn o elfennau (ceir o gwmpas dau gant ohonynt) a thipyn o gamp ydyw defnyddio geiriadur Tsieineaidd. Er enghraifft, 女 yw'r llun am ddynes (yn wreiddiol llun o ddynes yn eistedd ar ei chwrcwd).

Diwylliant golygu

Gellir dadlau mai'r diwylliant Tsieineaidd yw'r mwyaf hirhoedlog a fu erioed. Unwyd yr ymherodr cyntaf Qin (Qinshi Huangdi, 秦始皇第) nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef y defnyddir y gair Tsieina.

Yn ystod rhyw ugain canrif caed hanes o linach ymherodrol yn ffynnu, llygru ac yna cael ei gael ei ddisodli, gan amlaf wrth i'r werin godi ac ymryfela. Parhaodd hyn tan 1949 a sefydliad GPT.

Gellid dadlau mai uned sylfaenol cymdeithas y llwyth Han (hynny yw, prif lwyth y Tsieinaid) yw'r teulu. Daw llysenw o flaen yr enw personol ac erstalwm byddai'r holl deulu yn cael ei gosbi pe troseddai un aelod. Nid yw'r meddylfryd hwn wedi llwyr ddiflannu.

Cyn y Chun Jie (春节), Gŵyl y Gwanwyn, sydd yn newid yn ôl y lleuad, bydd miliynau o bobl yn ceisio cyrraedd adref i gael gwledd gyda'r holl deulu'n bresennol, yn draddodiadol pryd o "jiaozi (饺子)", math o dwmplins bydd y teulu yn paratoi gyda'i gilydd cyn eu berwi a bwyta ar ôl rhoi math arbennig o finegr arnynt. Am rai dyddiau bydd yr holl wlad yn cymryd hoe, gyda ffatrïoedd yn cau i lawr.

O fewn y teulu gwahaniaethir rhwng brawd hyn a brawd iau, chwaer hyn a chwaer iau, sydd yn adlewyrchu i ryw raddau hierarchaeth y gymdeithas. O fewn uned waith neu gwmni disgwylir i'r rhai hŷn (e.e. Lao Zhang – Hen Zhang) edrych ar ôl y rhai iau (Xiao Li – Li Bach) ac i'r iau ufuddhau a pharchu'r bobl hŷn.

O dan y drefn draddodiadol byddai dyn cyfoethog yn ceisio meddu ar nifer o wragedd a goddrych. Byddai teulu yn gobeithio am feibion ac yn dibrisio merched (nid yw'r meddylfryd hwn wedi diflannu), hyn oherwydd bod merch wrth briodi yn cael ei hystyried yn rhan o deulu ei gwr. Teflid babanod menywaidd i ffwrdd (erthyliad yw'r ateb nawr) neu eu lladd. Oherwydd y deheuad hwn am feibion ceir fwy o fechgyn nag o ferched yn Tsieina gyda'r canlyniad mai prin iawn yw hen ferched Tsieina gan fod traddodiad yn ymofyn epil (gwrywaidd). Y tebyg yw mai'r gred draddodiadol yw bod angen plant i gynnal eu rhieni yn eu henaint – ac ar ôl iddynt farw trwy ysgubo'u beddau ar yr ŵyl benodol a gyrru arian a nwyddau iddynt yn y "byd a ddaw". Gellir prynu "arian uffern" i'w yrru i'ch hynafiaid meirw trwy ei losgi (a hyd yn oed setiau radio wedi eu gwneud o bapur). Yr ofn traddodiadol oedd cael plant na fedrid dibynnu arnynt i wneud hyn, fel bod eu hynafiaid yn clemio yn y byd a ddaw.

Bywyd golygu

Er bod llawer o ddinasyddion erbyn hyn yn byw mewn fflatiau sydd yn bur gyffyrddus mae llawer o bobl yn byw mewn dull mwy traddodiadol. Yng ngogledd y wlad (lle ceir gaeafoedd oer iawn) ceir "Kang" (炕 Kang), math o lwyfan a gynhesir gan ddefnyddio tan neu o leiaf nwyau poeth o'r tan yn y gegin. Bydd y trigolion yn eistedd ar y kang gyda'i choesau wedi croesi fel teilswyr a hefyd yn defnyddio cwiltiau i gysgu arno.

Defnyddir gweill i fwyta, gyda phryd o fwyd yn cynnwys reis neu fara ynghyd â nifer o ddysglau fwydydd crogiedig. Bydd y Tsieineaid yn hoff o gael esgus i wledda ac wrth wneud hyn bydd meistr y tŷ yn defnyddio pâr o weill arbennig i hwylio bwyd i'r gwesteion.

Tueddir i beidio ag yfed alcohol heb fwyta rhywbeth ar yr un pryd. Oherwydd rhyw achos ffisiolegol bydd rhai Tsieineaid yn gwrido ac yn chwysu ar ôl yfed alcohol.

Taleithiau ac ardaloedd eraill golygu

Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rheoli 22 talaith (省); mae llywodraeth GPT yn cyfrif Taiwan (台湾) fel y 23ain dalaith. Mae'r llywodraeth hefyd yn hawlio Ynysoedd Môr De Tsieina. Ar wahân i'r taleithiau, mae yna bump o ranbarthau ymreolaethol (自治区) sy'n gartref i leiafrifoedd ethnig; pedair bwrdeistref (直辖市) yn ninasoedd mwyaf Tsieina, a dau Ranbarth Gweinyddol Arbennig (特别行政区) o dan reolaeth GPT.

Taleithiau golygu

Rhanbarthau Ymreolaethol golygu

Bwrdreistrefi golygu


Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig golygu

Economi golygu

Wrth ystyried economi Tsieina dylid cadw mewn golwg y ffaith fod un o daleithiau Tsieina yn debyg o ran maint i wlad. Er enghraifft, ystyrier talaith Sichuan sydd a tua'r un arwynebedd a Ffrainc ond tua dwywaith y boblogaeth.

Yn fras, gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Tsieina sydd wedi'u datblygu i'r raddfa fwyaf, gan fod y gorllewin yn sych, gyda chryn dipyn o dir anial yno.

Gwlad amaethyddol ydyw Tsieina, gyda ffarmio traddodiadol yn fwy tebyg i arddio. Plannu reis mewn caeau bychain sydd yn cael eu boddi yn ôl angen. Er bod mecaneg yn mynd yn ei blaen defnyddir ych ac anifeiliaid eraill.

Oherwydd i'r Americanwyr osod gwarchae masnachol ar y wlad wedi iddi syrthio i'r blaid Gomiwnyddol yn 1949 bu'n rhaid iddi droi at yr Undeb Sofietaidd am gymorth (er y darfu i Brydain gydnabod y llywodraeth newydd yn fuan ar ôl hyn, gyda rhai cwmnïau yn cychwyn gwneud busnes bron yn syth gyda'r wlad). Mae'n debyg fod llygaid yr Undeb Sofietaidd ar gadw Tsieina yn wlad amaethyddol. Serch hynny, cychwynnodd y Tsieinaid ddatblygu eu diwydiant, gan ddefnyddio'r hyn oedd ar ôl o weithfeydd rheilffordd y Japaneaid i gynnyrch injans rheilffordd ac ati. Bu rhwyg rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar gychwyn y 1960au a aeth yr arbenigwyr Sofietaidd yn ôl i'w gwlad, gan adael prosiectau megis pontydd mawr dros Afon Yangtze ar hanner eu gorffen. Serch hynny, llwyddodd y Tsieineaid orffen y gwaith.

Ers y 1980au, gyda'r polisi o agor y wlad i'r tu allan mae cwmnïau o bob math yn heidio i ddefnyddio llafur rhad i gynhyrchu eu defnyddiau, gyda chwmnïau Tsieineaidd hefyd yn ffynnu.

Ffynhonnell y llafur rhad ydyw'r lluoedd (rhai cannoedd o filiynau) o'r werin sydd yn ceisio gadael y tir.

Dolenni allanol golygu