Pont Hafren

pont dros Afon Hafren

Pont grog yw Pont Hafren sy'n rhychwantu Afon Hafren rhwng De Swydd Gaerloyw yn Lloegr a Sir Fynwy yn Ne Cymru. Mae hi'n cludo Traffordd yr M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr a oedd yn cludo Traffordd yr M4, cyn agor Ail Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan y Frenhines Elisabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998.

Pont Hafren
Mathpont grog, pont ffordd, pont Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol8 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAfon Hafren Edit this on Wikidata
SirDe Swydd Gaerloyw, Ardal Fforest y Ddena Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.6099°N 2.64026°W Edit this on Wikidata
Cod OSST5590090230 Edit this on Wikidata
Hyd1,600 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Deunydddur Edit this on Wikidata

I ddathlu agoriad y bont, ysgrifennodd y bardd Eingl-Gymreig Harri Webb bennill ddychanol:

Two lands at last connected
Across the waters wide,
And all the tolls collected
On the English side.[1]

Lleoliad

golygu

Serch i'r Bont Hafren gael ei defnyddio i groesi rhwng Cymru a Lloegr, mae'r bont ei hun wedi'i lleoli'n gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Lloegr gyda'r pen Cymreig wedi'i leoli uwchben Penrhyn Beachley, sydd y tu fewn i ffiniau presennol Lloegr. Arferai Penrhyn Beachley, fodd bynnag, fod y tu mewn i ffiniau Cymru yn ôl lleoliad Clawdd Offa.

Adeiladau cydrannol

golygu

Mae afon Hafren yn cynnwys nifer o bontydd gwahanol, sef Pont Gwy, Traphont Beachley, Pont Hafren a Thraphont Aust.

Pont Gwy

golygu

Pont 408 m (1,340 tr) o hyd sydd wedi'i hangori â cheblau yw Pont Gwy. Mae hi'n rhychwantu afon Gwy sydd heddiw'n nodi'r union ffin rhwng Lloegr a Chymru—2.7 km i'r de o Gas-gwent.

Traphont Beachley

golygu

Adeiledd hytrawst deuflwch gyda wyneb concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Saif gwersyll y fyddin ar y penrhyn.

Pont Hafren

golygu

Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad yr hen Fferi Aust. Pont grog 1,597 m (5,240 tr) o hyd yw hi, sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dŵr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dŵr yw 988 m (3,240 tr). Mae'r tyrau'n wag ac yn codi 136 m (445 tr) uwchben lefel y môr.

Traphont Aust

golygu

Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf Pont Hafren.

 
Pont Hafren

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Lords Hansard Text. UK Parliament Publications & Records (17 Chwefror 1999). Adalwyd ar 6 Mehefin 2014.