Porth Swtan

Gorweddai Porth Swtan ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Church Bay) ar arfordir gogledd-orllewinol Ynys Môn tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o bentref Llanfaethlu. Mae glannau'r bae yn greigiog ond ceir traeth tywodlyd hefyd sy'n boblogaidd gan ymwelwyr.

Porth Swtan
Eglwys St. Rhuddlad, St Rhuddlad's Church, Church Bay..jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCylch-y-Garn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawPorth Swtan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.371572°N 4.553572°W Edit this on Wikidata
Clogwynni a thraeth Porth Swtan.
Bwthyn Swtan.

Enwir Porth Swtan ar ôl afon Swtan, ffrwd fechan sy'n cyrraedd y môr tu isaf i Borth Swtan. Dichon mai enw'r pysgodyn 'swtan' (gwyniad môr) a geir yn yr enw, er bod yr hynafiaethydd John Leland yn ei Itinerary in Wales (1536-39) yn dweud mai "enw cawr" ydyw.[1]

Ceir dyrniad o dai ger y traeth. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd ar hyd pen y clogwynni. Mae bwthyn yma o'r enw Swtan sy'n awr yn amgueddfa werin; dywedir mai hwn yw'r bwthyn to gwellt olaf ar yr ynys.[2]Enillodd y bwthyn Gwobr Cymru Gwledig gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn 2003. Mae yna hefyd adfeilion melin wynt, Melin Drylliau, a gofnodwyd gyntaf yn 1840 ag eu ddinistriwyd mewn tân yn 1914.[3] Cafodd ei adeiladu a'i berchen gan y teulu Williams oedd yn berchen ar nifer o felinau ar draws yr ynys.

Gellir cyrraedd Porth Swtan o gyfeiriad Llanfaethlu neu o bentref Rhydwyn, i'r dwyrain, ar ôl dilyn y briffordd A5025 o'r Fali neu o gyfeiriad Amlwch. Ceir maes parcio ger y traeth. Mae pentref Llanrhyddlad tua 2 filltir i fwrdd.

Mae yna gaffi o'r enw Wavecrest Cafe ym Mhorth Swtan yn ogystal â bwyty o'r enw Lobster Pot.

Mae gan y traeth 'ansawdd dŵr gwych' (5 seren). Mae'r traeth yn agored i ychydig o weithgareddau fel golff, pysgota, nofio/ymdrochi a hwylio

PysgotaGolygu

Mae Porth Swtan yn draeth tywodlyd ar y rhan mwyaf. Mae yna amrywiaeth fach o bysgod gwahanol yn cynnwys teirw, draenogiaid y môr, cŵn bach, a llyfnhau yno i'w dal.

CyfeiriadauGolygu

  1. R. J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), tud. 36.
  2. Swtan[dolen marw]
  3. "Melin Drylliau". www.anglesey-history.co.uk. Cyrchwyd 2021-10-04.

Dolenni allanolGolygu