Llanrhuddlad

cymuned a hen blwyf yn Ynys Môn

Pentref a phlwyf eglwysig yng ngogledd Môn yw Llanrhuddlad ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Llanrhyddlad ar y map OS). Saif ar y briffordd A5025 rhwng Cemaes, tua 4 milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, a Llanfaethlu, tua 2 filltir i'r de-orllewin. Mae yng nghymuned Cylch y Garn.

Llanrhuddlad
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3733°N 4.5088°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Llanrhuddlad o'r A5025.

Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Rhuddlad. Y cwbl a wyddys amdani yw ei bod yn ferch i frenin Leinster, dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723).

Mae lôn yn arwain i fae Borth Swtan ar yr arfordir, trwy bentref Rhydwyn, tua 2 filltir i'r gorllewin.

Adeiladau a chofadeiladau Golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato