Privacy International

Corff annibynnol rhyngwladol sy'n ymgyrchu dros breifatrwydd yw Privacy International (PI). Ei brif feysydd gwaith yw ymchwilio, monitro ac ymgyrchu yn erbyn bygythiadau i breifatrwydd ar y rhyngrwyd ac mewn technoleg gwybodaeth. Mae ei bencadlys yn Llundain, Lloegr. Dyma'r corff hynaf o'i fath yn y byd.

Logo PI

Sefydlwyd PI yn Lwcsembwrg yn 1990 yn wyneb y cynnydd yn yr hyn a welid yn fygythiadau i breifatrwydd fel hawl dynol sylfaenol. Daeth dros gant o arbenigwyr ar breifatrwydd a mudiadau hawliau dynol o ddeugain gwlad at ei gilydd i ffurfio mudiad byd-eang i warchod preifatrwydd.[1]

Mae ymgyrchoedd diweddaraf PI yn cynnwys y rhai yn erbyn deddfau archwilio data rhyngrwyd ac yn enwedig yn erbyn y cynnig a basiwyd gan Senedd Ewrop yng Ngorffennaf 2010 ac a adnabyddir fel 'Datganiad Ysgrifenedig 29'. Mae'r cynnig hwn yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd i orfodi pob peiriant chwilio ar lein i gadw data llawn ar chwiliadau am hyd at ddwy flynedd a rhoi'r cyfan ar gael i lywodraethau ar unrhyw adeg. Mae cwmnïau fel Google ac Yahoo eisoes yn cadw data preifat am gyfnod, ond erys rhai, gan gynnwys Ixquick, sy'n mynnu parchu preifatrwydd eu defnyddwyr trwy beidio cadw data canlyniadau chwilio a chyfeiriadau IP.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu