Problemau Prifysgol

Comedi ysgafn mewn dwy act gan Saunders Lewis yw Problemau Prifysgol, a ysgrifennwyd ym 1962 ac a gyhoeddwyd gyntaf gan Wasg y Dryw ym 1968.[1]

Problemau Prifysgol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrGwasg y Dryw
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1968
ISBN978-0715400876
Tudalennau66
GenreDrama

Disgrifiad byr

golygu

Cyflwynwyd cyhoeddiad 1968 gyda'r disgrifiad bachog hwn: "Direidi - ym mhob ystyr i'r gair - a geir yn y gomedi hon. Wrth gwrs 'does neb yng Nghymru yn ystyried comedi yn weddus ac felly fe sgrifennodd yr awdur ragymadrodd difrifol sy'n trafod problem losg ac enbyd Cymraeg Byw. Bydd Adrannau Addysg y Brifysgol yn cydnabod mai dyna un o Broblemau Prifysgol, ac felly fe gyfiawnheir teitl y llyfr. Gofynnir i'r adolygwyr gofio mai atodiad i'r Rhagymadrodd yw'r ddrama".[2]

Wedi traethu'n ddifrifol am Gymraeg Byw, aiff y dramodydd yn ei flaen i sôn am y ddrama: "Digrifwch ysgafn sydd ynddi, heb ond ychydig o ddychan. Nis rhoddwyd nac ar lwyfan na ar sgrin deledu. Efallai mai hynny sydd orau. Mae'n haws lawer i actorion Cymraeg gyflwyno trasiedi neu ddrama ddifrifol. [...] Nid oes neb ohonom ni yng Nghymru erioed wedi gweld actio comedi hyd yn oed yn weddol dda. 'Does gennym ni na'r safonau na'r wybodaeth".[2]

Dyma'r ail ddrama sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gydag Excelsior (1962) yn rhagflaenu, a Cymru Fydd (1967) yn ei dilyn. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders Lewis yn ei Ragair i gyhoeddiad Cymru Fydd ym 1967: "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[3]

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn 1968.[4]

Cymeriadau

golygu
  • Gwen - myfyriwr coleg ac is-lywydd Undeb y Myfyrwyr
  • Harri - myfyriwr coleg a llywydd y Gymdeithas Gymraeg
  • Sara Roger - gwraig i'r Athro Roger
  • Syr Gamaliel Prys - Prifathro
  • Paul Roger - Darlithydd 38 oed
  • Ffioretta Davies - Darlithydd Eidaleg 27 oed
  • Sam - mab Syr Gamaliel y Prifathro

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Barri 1968.

  • Gwen -
  • Harri -
  • Sara Roger - Beryl Williams
  • Syr Gamaliel Prys -
  • Paul Roger -
  • Ffioretta Davies -
  • Sam -

Cyfeiriadau

golygu
  1. Open Library
  2. 2.0 2.1 Lewis, Saunders (1968). Problemau Prifysgol. Llyfrau'r Dryw.
  3. Lewis, Saunders (1967). Cymru Fydd. ISBN 0 7154 0317 6.
  4. "Beryl – Y Rhyfeddod Prin gan Dyfan Roberts; atodiau theatr bARN cyfrol 502, Tachwedd 2004". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.