Llyfrau'r Dryw
Tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg o'r 1940au hyd y 1970au oedd Llyfrau'r Dryw.
Math | cyhoeddwr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Gwlad | Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Aneirin Talfan Davies |
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Cyfres o lyfrau bach clawr papur yn y Gymraeg, dan yr argraffnod Llyfrau'r Dryw, ar bynciau amrywiol oedd man cychwyn y cyhoeddwyr. Eu bwriad oedd 'cyflenwi llyfrau clawr papur rhad i'r werin gan awduron o safon'. Ymhlith yr awduron hynny oedd Edward Tegla Davies, Kate Bosse-Griffiths, Sarnicol, R. T. Jenkins, William Ambrose Bebb, T. Gwynn Jones, Thomas Jones, Ifor Williams, Alwyn D. Rees ac E. Morgan Humphreys. Straeon ac ysgrifau ar bynciau amrywiol a geid yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres, gydag ambell eithriad fel casgliad o hwiangerddi Cymraeg gan Eluned Bebb. Chwareai'r llyfrau poblogaidd hyn ran bwysig yn adfywio'r farchnad llyfrau Cymraeg yn y 1950au, pan wynebai argyfwng oherwydd diffyg deunydd darllen poblogaidd.
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn 1952. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y 1950au a'r 1960au yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol Crwydro Cymru, sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol Barn, yn Gymraeg, a Poetry Wales yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.
Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn Llandybie. Daeth Emlyn Evans yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi Ieuenctid yw 'Mhechod gan John Rowlands. Dilynwyd ef gan Dennis Rees a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.
Cyfres Llyfrau'r Dryw
golyguCyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres clawr papur. Dyma nhw yn nhrefn eu cyhoeddi:
- Deg Pregeth (amryw)
- Catiau Cwta, Sarnicol
- 1940, W. Ambrose Bebb
- Darlun a chân, Nantlais
- Gyda'r Glannau, Edward Tegla Davies
- Storïau Gwallter Map, addaswyd gan R. T. Jenkins
- Hen Ddwylo, E. Llwyd Williams
- Sgweier Hafila, T. Hughes Jones
- Y Baradwys Bell, W. Ambrose Bebb
- Aneswyth Hoen, Kate Bosse-Griffiths
- Jones y Plisman, John Aelod Jones
- Hwiangerddi'r Wlad, gol. Eluned Bebb
- Cerrig Milltir, Thomas Jones
- Storïau o'r Rwsieg, cyf. T. Hudson Williams
- Cerddi'r Hogiau, W. D. Williams
- Cyfrinach yr Ogof, T. Glyndwr Jones
- 1941, W. Ambrose Bebb
- Adfeilion, Alwyn D. Rees
- David Lloyd George, E. Morgan Humphreys
- Dechrau'r Daith, Edward Tegla Davies
- Cwlwm y Dialydd, G. E. Breeze
- Tua'r Cyfnos, E. Llwyd Williams
- Cap y Cythraul, J. R. Lloyd-Hughes
- Brithgofion, T. Gwynn Jones
- Yr Ysgol Sul, W. Ambrose Bebb
- Coed Tân a storïau eraill (amryw)
- Gweddïau, gol. y Parch. D. Tecwyn Evans
- Lampau'r Hwyr, Elfed
- Ffynhonnau Elim, Idris Thomas
- Meddwn i, Ifor Williams
- Yr Aelwyd, Gwenda Gruffudd
- Cap Wil Tomos, Islwyn Williams
- Y Gŵr Drws Nesaf, J. Ellis Williams
- Crefydd heddiw ac yfory, Dr. Martin Lloyd Jones
- Straeon y Meirw, Jac L. Williams
- Straeon J.E.. J. E. Williams
- Chwedlau Dau Fynydd, Gomer M. Roberts
- Y Dillad Sy'n Gwneud y Dyn, Tom P. Williams
- Y Diafol i Dalu, W. D. P. Davies
- Gadael Tir, W. Ambrose Bebb
- Cofio Doe, D. Perry Jones
- Detholiad o adroddiadau, gol. Trebor Lloyd Evans
- Blodeugerdd o Englynion, gol. Aneirin Talfan Davies
- Storïau Moelona, Moelona