Cymru Fydd (drama)

drama gan Saunders Lewis
Gweler hefyd Cymru Fydd (gwahaniaethu)

Trasiedi mewn tair act gan Saunders Lewis yw Cymru Fydd, a gyhoeddwyd yn 1967. Drama gomisiwn gan Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Feirionnydd 1967 sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth a chrefydd.[1] Mae'n ymdroi o gwmpas argyfwng seicolegol Dewi, mab i weinidog sy'n fân leidr ac wedi troi ei gefn ar Gristnogaeth a Chymru.

Cymru Fydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrLlyfrau'r Dryw
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Dyddiad cyhoeddi1967
GenreDrama

"Gorffennwyd sgrifennu'r ddrama yn gynnar yn 1966," eglura'r dramodydd yn Rhagair y cyhoeddiad; "Y pryd hynny yr oedd rhai digwyddiadau y cyfeirir atynt yn y ddrama eto'n fyw yn y cof".[1]

"Man cychwyn y ddrama oedd darllen mewn papur newydd Saesneg am fam weddw ganol oed a gawsai dri mis o garchar yn gosb greulon am iddi guddio ei hunig fab a oedd wedi dianc o garchar. Trosglwyddais innau'r sefyllfa i amgylchiadau a chymdeithas yr wyf yn perthyn iddynt, a daeth gwahoddiad y Bala yn ei bryd", ychwanegodd Saunders.

Digwydd y ddrama i gyd o fewn pedair awr ar hugain, yng nghartref y teulu.

Dyma'r drydedd o dair drama gan Saunders Lewis sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gydag Excelsior a Problemau Prifysgol yn rhagflaenu. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders, "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylsai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[1]

Mae'r enw yn adlewyrchiad eironig o'r mudiad gwleidyddol gwladgarol Cymru Fydd a weithiai dros hunanlywodraeth i Gymru ar ddiwedd y 19g ac ar droad yr 20g.

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf ar y 7fed ac 8fed o Awst 1967 gan Gwmni Theatr Cymru.[1] John Ogwen fu'n portreadu'r myfyriwr Dewi a dyma'r cyfle cyntaf iddo actio'n broffesiynol.[2]

Cymeriadau

golygu
  • Y Parchedig John Rhys
  • Dora, ei wraig
  • Dewi, eu mab
  • Bet Edward
  • Y Cwnstabl Jones
  • Inspector Evans
  • Dau blismon arall

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Criw cynhyrchiad Cymru Fydd Cwmni Theatr Cymru yn ymarfer y ddrama 1967
 
Criw cynhyrchiad Cymru Fydd Cwmni Theatr Cymru yn ymarfer y ddrama 1967
 
John Ogwen yn Cymru Fydd Cwmni Theatr Cymru 1967

1960au

golygu

Cwmni Theatr Cymru gafodd y fraint o lwyfanu'r ddrama am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cynorthwydd llwyfan Iola Gregory; is-gynhyrchydd Iona Banks; cynorthwywr Beryl Williams; cast:[2]

Diolchodd Saunders Lewis i'r actorion, ac i Wilbert Lloyd Roberts, ym 1967:

"Cefais y fantais o ddiwygio'r ddrama hon yn ystod tridiau o baratoi ac ymarfer da yn Y Felinheli gydag actorion a chynhyrchydd y Cwmni Theatr Cymraeg. Y mae Mr Wilbert Lloyd Roberts a phob un o'r actorion wedi helpu i wella rhyw ran o'r dialog neu ddywediad neu frawddeg neu weithred. Dyma'r math o gydweithio sydd wrth fodd calon dramaydd".[1]

Yn ei hunangofiant, Hogyn O Sling, mae John Ogwen yn sôn am y cyfnod ymarfer yn Y Felinheli, a'r cyfle gafodd o i ofyn cwestiwn i Saunders: "Oherwydd bod cymeriad Dewi yn un pur gymhleth yr oeddwn am wybod, ynghanol ei gelwyddau (os celwyddau hefyd) a oedd yn ddidwyll wrth ddweud un araith wrth Bet. Anghofiai i byth mo'r ateb: 'Dim ond rhoi beth mae'r cymeriad yn ei ddweud y bydda i. Chi sydd i benderfynu beth mae'n ei feddwl'. Wnes i ddim gofyn cwestiwn arall".[3]

Ond mae John hefyd yn sôn am sut y bu'n rhaid rhoi terfyn cynnar ar ei berfformiad proffesiynol cyntaf! "Newydd ddechrau'r ail act yr oedd Lisabeth Miles a minnau pan sylwais for tipyn o gynnwrf yn y gynulleidfa.[...] Gan fy mod yn wynebu'r gynulleidfa welwn i mo'r mwg yn codi o'r llenni yn y cefn ond buan iawn y clywais ei oglau. Llanwyd y neuadd â mwg yn sydyn iawn a gorfodwyd ni i adael y llwyfan a phawb o'r gynulleidfa i ymadael. Mewn gwirionedd doedd 'na fawr o dân. Un o'r llenni duon yn y cefn oedd wedi'i lapio'i hun am un o'r lampau ac wedi bod yn mudlosgi trwy'r act gyntaf. Doedd dim posib cario 'mlaen y noson honno [...] Daeth pawb yn ôl am unarddeg fore trannoeth - y gynulleidfa a ninnau! A dyma ddechrau eto o'r ail act. "[3]

Ar ôl wythnos yr Eisteddfod, fe deithiwyd y cynhyrchiad ar y cyd â'r Welsh Theatre Company.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Lewis, Saunders (1991). Cymru Fydd. Gwasg Christopher Davies. ISBN 0 7154 0317 6.
  2. 2.0 2.1 "Cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o ddrama newydd Saunders Lewis, Cymru Fydd, yn Eisteddfod y Bala 1967". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2024-08-26.
  3. 3.0 3.1 Ogwen, John (1996). Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd. ISBN 9 780860 741343.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.