Oes y Seintiau yng Nghymru
Mae Oes y Seintiau yng Nghymru yn ymestyn o tua 390, pan geir y dystiolaeth olaf o bresenoldeb y fyddin Rufeinig, hyd tua 700. Nodweddir y cyfnod gan dwf Cristnogaeth Geltaidd.
Parhaodd dylanwad y Rhufeiniaid hyd yn oed ar ôl i'r milwyr adael. Mae carreg fedd o ddiwedd y 5g yn eglwys Penmachno sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffáu gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati, neu yn Gymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" ac ynad (magistratus) yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig, yng Ngwynedd o leiaf, am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi y rhan fwyaf o wybodaeth yw bryngaer Dinas Powys ym Morgannwg, lle roedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal Môr y Canoldir, gwydr o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir mai llys pennaeth neu frenin oedd Dinas Powys yn y cyfnod hwn. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain yn Lladin, ond yn y de-orllewin a Brycheiniog mae'r arysgrifau yn Ogam neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol Teyrnas Dyfed o dras Wyddelig.
Daeth Cristnogaeth Gymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis Caerwent a Caerleon yn y cyfnod Rhufeinig. Un o'r rhai oedd yn ysgogi'r datblygiad oedd Elen, gweddw Macsen Wledig [1] a daeth â syniadau Martin o Tours yn ôl i Gymru. Bu eu mab, Gastyn yn athro i nifer o blant Brychan Brycheiniog. Ym Mrycheiniog trosglwyddwyd perchnogaeth tir trwy llinell benywaidd ac mae mwyafrif o 24 o Ferched Brychain wedi rhoi ei enwau i llannau ac mae eu dylanwad wedi ledu y ffydd yn rhannol trwy priodi pennaethau llwythau eraill ar draws dde a dwyrain Cymru.[2] Roedd Sant Dyfrig yn un o'r arweinwyr gwrywaidd cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd ac yn hybu buddiannu mynachdai neu eglwysi cadeiriol. Ymhlith y seintiau gwrywaidd enwocaf mae Dewi Sant, Seiriol, Teilo, Illtud, Cadog a Deiniol. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru a Cernyw, Iwerddon a Llydaw.
Ceir rhywfaint o wybodaeth am hanner cyntaf y 6g yng ngwaith Gildas, y De Excidio Britanniae, sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r Brythoniaid yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y Sacsoniaid wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, yn cynnwys Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd, y mwyaf grymus o'r pump.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
LlyfryddiaethGolygu
- Alcock, Leslie (1963) Dinas Powys: an Iron Age, Dark Age and Early Medieval settlement in Glamorgan (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Arnold, Christopher J. a Jeffrey L. Davies (2000) Roman & early Medieval Wales (Sutton Publishing) isbn 0 7509 2174 9