Pwy bia'r Gân? (drama)
Drama lwyfan hanesyddol Gymraeg am William Williams, Pantycelyn yw Pwy bia'r Gân? gan T James Jones a Manon Rhys. Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Gwmni Whare Teg ym 1991 ac ail-deithwyd y cynhyrchiad ar ddiwedd 1992 a Gwanwyn 1993, gyda Dafydd Hywel yn y brif ran. Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Carreg Gwalch ym 1991.
Awdur | T. James Jones a Manon Rhys |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1991 |
Cysylltir gyda | Cwmni Whare Teg |
Math | Drama Gymraeg |
ISBN | 9780863812064 |
Tudalennau | 79 |
Prif bwnc | William Williams Pantycelyn |
Cefndir byr
golygu"Gwanwyn 1758, ac yn ôl pob golwg, mae haul Rhagluniaeth yn gwenu ar aelwyd y gân ym Mhantycelyn. Mae'r Pêr Ganiedydd yn paratoi ar gyfer un o'i deithiau pregethu mynych: Mali, ei wraig feichiog, yn paratoi ar gyfer esgor ei phumed plentyn, a Shoni'r gwas, er gwaetha'i hoffter o drafod athroniaeth a diwinyddiaeth, yn fugail cydwybodol yn nhymor geni'r ŵyn. Ond pwy yw Martha, a ddaw a'i gofid fel cwmwl i gwato'r haul? Beth yw cyngor Mali a William iddi? Beth sy'n digwydd rhyngddi hi a Shoni? Beth yw effaith ei hymweliad hi ar y tri ohonyn nhw? A ddaw'r haul o'r tu ôl i'r cwmwl? A phwy, wedi'r cyfan i gyd, bia'r gân?"[1]
Cymeriadau
golygu- William Williams (Pantycelyn) - yr emynydd
- Mali - ei wraig
- Shoni - eu gwas
- Martha - ymwelydd
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y cynhyrchiad am y tro cyntaf gan Gwmni Whare Teg ym 1991. Cyfarwyddwr Dafydd Hywel; cast:
- William Williams - Dafydd Hywel
- Mali - Gaynor Morgan Rees
- Shoni - Dewi Rhys Williams
- Martha - Delyth Wyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhaglen Gwaed Oer gan Whare Teg. 1991.