R. O. Williams
Bardd Cymraeg oedd Robert Owen Williams (1937 – 20 Medi 2021)[1][2] neu R.O. Williams.
R. O. Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1937 ![]() |
Bu farw | 20 Medi 2021 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, athro ![]() |
Perthnasau | Tudur Dylan Jones ![]() |
Gwobr/au | Prifardd ![]() |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni ym 1937, a chafodd ei fagu yn ardal Eifionydd.[2] Bu'n gweithio fel athro yn Lerpwl, ac yna yn Ysgol y Berwyn yn y Bala.[2] Fe ddysgodd gynganeddu gan Alan Llwyd.[2] Bu farw fis Medi 2021 yn 84 mlwydd oed[2].
Barddoniaeth
golyguR.O. Williams oedd prifardd y gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996, ble'r enillodd gyda'i awdl Grisiau.[3] Anne Frank oedd testun ei awdl, a hynny ar hanner canmlwyddiant ei marwolaeth[4]. Roedd y gadair a enillodd yn un anarferol ar sawl ystyr - defnyddiodd y saer, y Parchedig T. Alwyn Williams, dderw o olion hen bont yn Llandeilo, ac fe fu farw T. Alwyn Williams yn fuan wedi cwblhau'r gadair, cyn yr Eisteddfod.[5]
Enillodd R.O. Williams gadair Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ar un achlysur hefyd[6].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The obituary notice of Robert Owen Williams". Cyrchwyd 11 Hydref 2021. Text "Funeral Notices UK" ignored (help)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Y Prifardd R O Williams wedi marw yn 84 oed". Golwg360. 21 Medi 2021. Cyrchwyd 24 Medi 2021.
- ↑ "Enillwyr y Gadair | Eisteddfod Genedlaethol". eisteddfod.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-30. Cyrchwyd 2021-09-24.
- ↑ "BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1996". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 24 Medi 2021.
- ↑ "Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd". National Museum Wales. Cyrchwyd 24 Medi 2021.
- ↑ "BBC - Gogledd Orllewin - Eisteddfod y Ffôr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2021-09-24.