Cyfres ddrama wleidyddol yw Byw Celwydd sydd yn portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion o bleidiau dychmygol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mai ffuglennol yw'r holl gymeriadau a'r pleidiau, fe ffilmiwyd darnau helaeth o'r ddrama yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.

Byw Celwydd
Genre Drama
Cyfansoddwr/wyr Arwyn Davies
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 24 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Branwen Cennard
Golygydd Angharad Owen
Lleoliad(au) Caerdydd, Cymru
Sinematograffeg Simon Walton
Amser rhedeg 48 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Tarian
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 3 Ionawr, 2016
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Fe'i darlledwyd gyntaf ar 3 Ionawr 2016, nos Sul am 9pm, gydag ailddarllediad nos Fawrth gydag is-deitlau Saesneg ar y sgrîn. Roedd wyth pennod yn y gyfres gyntaf a chyhoeddwyd ar ddiwedd y gyfres gyntaf y byddai'n dychwelyd am ail gyfres.[1] Cychwynnodd yr ail gyfres am 9pm nos Sul ar 8 Ionawr 2017 gydag ailddarllediad nos Wener y tro hwn. Cychwynnodd trydedd gyfres am 9pm nos Sul ar 7 Hydref 2018.

Cynhyrchiad

golygu

Cyhoeddodd S4C y gyfres ar 10 Gorffennaf 2015 gyda'r gwaith ffilmio i gychwyn yn y Senedd o'r wythnos hynny ymlaen. Yn ogystal ag adeilad y Senedd, ffilmiwyd golygfeydd mewn lleoliadau o gwmpas Caerdydd yn cynnwys ardaloedd Tre-biwt, Dinas Powys a Phenarth. Cafodd y gyfres ei greu gan y tîm a gynhyrchodd y gyfres ddrama Teulu ac mae wedi ei sgriptio gan Meic Povey a Sian Naiomi, ei gyfarwyddo gan Eryl Phillips a'i gynhyrchu gan Branwen Cennard. Comisiynwyd y gyfres gan Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C.

Fe'i lansiwyd ar 1 Rhagfyr 2015 yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gyda dangosiad pennod gyntaf y gyfres i'r wasg a rhai aelodau o'r Cynulliad yn cynnwys y llywydd Rosemary Butler AC.[2][3]

Sgriptiwyd trydedd gyfres gan yr awdur Meic Povey ond bu farw yn Rhagfyr 2017 cyn i'r gyfres ei darlledu.

Prif gymeriadau

golygu
  • Catherine Ayers - Angharad Wynne (Prif Olygydd Gwleidyddol Newyddion Cymru, gwraig Owain, mam Jac a merch yng nghyfraith y Prif Weinidog)
  • Matthew Gravelle - Harri James (Ymgynghorydd Arbennig (SpAd) i Rhiannon Roberts)
  • Mark Lewis Jones - Dylan Williams (Aelod y Cynulliad i'r Democratiaid a gŵr Catrin)
  • Eiry Thomas - Catrin Williams (Aelod y Cynulliad i'r Democratiaid a gwraig Dylan)
  • Sara Lloyd-Gregory - Lowri Ogwen Jones (Ymgynghorydd Arbennig Watcyn Davies, Arweinydd y Democratiaid, a gwraig Tom)
  • Sion Ifan - Tom Ogwen Jones (Prif gyflwynydd 'Newyddion Cymru'. Gŵr Lowri)
  • Richard Elfyn - Meirion Llywelyn (Y Prif Weinidog, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Newydd)
  • Rebecca Harries - Megan Ashford (Gweinidog Iechyd, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Newydd)
  • Rhys ap Trefor - Aled Gwilym (Ymgynghorydd Arbennig i'r Prif Weinidog)
  • Ffion Dafis - Rhiannon Roberts (Arweinydd y Cenedlaetholwyr)
  • Caryl Morgan - Ela (Prif ymchwilydd y Cenedlaetholwyr)
  • Matthew Owen - Alwyn Jones (Arweinydd y Sosialwyr. Yn frodor o Lanelli, ac yn briod gyda dau o blant)

Cymeriadau achlysurol

golygu

Penodau

golygu

Cyfres 1 (2016)

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [4]
1"Pennod 1"Eryl PhillipsMeic Povey3 Ionawr 2016 (2016-01-03)36,000
A hithau wedi gwireddu breuddwyd oes fel Golygydd Gwleidyddol i Newyddion Cymru, ac yn hapus ei byd yn bersonol, yn wraig i Owain ac yn fam i Jac, mae gan Angharad Wynne lawer iawn i'w golli. Gydag ymddangosiad annisgwyl Harri James yn bygwth popeth, mi allai hynny ddigwydd yn llawer cynt na'r disgwyl.
2"Pennod 2"Eryl PhillipsMeic Povey10 Ionawr 2016 (2016-01-10)25,000
Gyda Catrin a Dylan yn mynd benben yn etholiadau arweinyddiaeth y Democratiaid, pwy fydd yn fuddugol a beth fydd effaith y canlyniad ar ddyfodol eu perthynas? Dirywio mae'r berthynas fregus rhwng aelodau'r glymblaid hefyd gyda Meirion Llywelyn, Y Prif Weinidog a Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, yn anghytuno'n chwyrn dros benderfyniad Meirion i beryglu dyfodol ariannu llochesau i ferched a dynion sy'n cael eu cam-drin. Ond tra bo Rhiannon yn cael ei themtio i chwilio am atebion tu hwnt i ffiniau'r llywodraeth, nod Harri yw ymestyn a chryfhau dylanwad Rhiannon o fewn y cabinet, gan dynnu blewyn go fawr o drwyn Megan Ashford yn y fargen.
3"Pennod 3"Eryl PhillipsSian Naiomi17 Ionawr 2016 (2016-01-17)27,000
Mae pethau'n twymo rhwng Tom ac Aled ond all Tom ymdopi â'r twyll? Mae gan Lowri newyddion iddo hefyd, mae hi'n disgwyl. Mae Ela yn camddehongli geiriau Harri ac yn meddwi ac yn ceisio fflyrtan gyda Dylan. Mae e'n rhoi lifft adre' iddi yn ei gar gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i lawer. Mae Owain yn cynnig y dylai Carys ddod i fyw atynt ac mae Harri'n dangos pa mor ddyfeisgar y gall e fod.
4"Pennod 4"Eryl PhillipsMeic Povey24 Ionawr 2016 (2016-01-24)llai na 20,000
Mae 'na isetholiad ar y gorwel ac mae'r pleidiau i gyd allan yn canfasio'n frwd. Dydy pethau ddim yn dda i'r Democratiaid - maen nhw wedi llithro o'r trydydd i'r pedwerydd safle mewn wythnos. Mae Lowri'n credu y dylai Catrin ymgyrchu mwy yn yr etholaeth yn lle crafu tin Meirion. Dydy pethau ddim yn edrych yn addawol i'r Cenedlaetholwyr chwaith - dydy eu hymgeisydd nhw, Gwennan Morris, ddim yn effeithiol iawn. Mae'n debyg mai'r ymgeisydd annibynnol carismataidd Mathew Desmond sydd am fynd â hi. Ond beth yw'r hanes rhyngddo ef a Rhiannon? Mae Megan wedi rhoi ei throed ynddi eto ac yn gorfod cymryd pryd o dafod gan Meirion. A beth sy'n digwydd rhwng Harri ac Angharad?
5"Pennod 5"Gareth RowlandsMeic Povey a Sian Naiomi31 Ionawr 2016 (2016-01-31)llai na 20,000
Gyda'r Prif Weinidog yn edrych ymlaen at hyrwyddo proffil Cymru yn Sgandinafia, daw cyfle gwych i Angharad fynd â'r gwynt o'i hwyliau'n gyhoeddus a hynny'n dilyn ymdrech annisgwyl gan Rhiannon Roberts, y Gweinidog Iechyd, i chwyddo coffrau'r gwasanaeth gwaed. Dydy caniatáu i Megan leisio'i barn homoffobaidd yn gyhoeddus ddim yn un o syniadau gorau Meirion ac yn gwthio Tom i'r pen yn ei berthynas gyda Lowri. Ond a fydd ganddo'r hyder i gyfadde'r gwir? Yn dilyn gwaedlif arall ar ei ymennydd, mae'r dyfodol i'w weld yn bur ansicr i Mike Wynne. Ac wrth i gyflwr ei thad ddirywio, mae Angharad yn cael ei gorfodi i ail ymweld â'i gorffennol tywyll. Ag yntau'n amlwg yn ei hadnabod yn well na neb, ymddengys mai Harri, nid Owain, yw'r unig un all ei helpu - ond beth fydd y pris?
6"Pennod 6"Gareth RowlandsMeic Povey7 Chwefror 2016 (2016-02-07)19,000
Mae athro yn cael ei drywanu mewn ysgol sy'n arwain at gyhoeddiad gan Meirion; bydd sganwyr yn cael eu cyflwyno i ysgolion a bydd yr arian yn dod o gyllideb Catrin. Mae Lowri wedi cytuno iddi hi a Tom gael eu gweld mewn erthygl ar gyfer cylchgrawn. Ond dydy Tom ddim yn hapus am y peth. Mae Elinor yn gwneud cyfweliad gyda Tom i godi ei phroffil ond mae hi'n gwneud smonach o bethau. Mae Owain yn mynd i weld Elsi ac yn ei gwahodd i ginio i weld a oes modd ei pherswadio i gytuno i adael i Angharad fynd i angladd Mike. Mae 'na flogwr newydd yn gwneud ei farc - Guto Nyth Brân - ac mae'n rhoi amser caled i Meirion ac Elinor. Mae Tom yn agor ei galon wrth Aled ac mae Owain yn gofyn am gyfarfod gyda Harri.
7"Pennod 7"Gareth RowlandsMeic Povey14 Chwefror 2016 (2016-02-14)22,000
Wrth i'r pryder ynglŷn â iechyd Elinor gynyddu, mae ymateb ei theulu i'w chyflwr yn codi cwestiynau anodd ac yn creu gwrthdaro, yn bersonol, yn broffesiynol ac yn foesol i fwy nag un. Ag yntau, am unwaith, yn poeni am ei wraig, mae Meirion yn cael ei yrru i weithredu mewn modd annisgwyl tu hwnt. Tra bod Owain yn gwbl gadarn ar y mater ac yn mynnu na ddylai ei wraig ddefnyddio gwybodaeth deuluol i ddibenion ei gwaith, mae Harri, ar y llaw arall yn fwy na pharod i'w hatgoffa o'i dyletswydd newyddiadurol. A hithau mewn cyfyng-gyngor, bydd yn rhaid i Angharad siomi rhywun - ond tybed pwy?
8"Pennod 8"Gareth RowlandsMeic Povey21 Chwefror 2016 (2016-02-21)llai na 19,000
Yn dilyn bygythiad annisgwyl i'w ddyfodol gwleidyddol gan geidwadwr ifanc o'r enw Gruffydd Bowen, mae Meirion ar dân i ail sefydlu ei awdurdod yn ei etholaeth ac yn y Bae. Daw cyfle yn sgil cynnig diddorol gan lysgennad Israel sydd ar ymweliad swyddogol ond mae Meirion yn gwybod nad mater bach fydd darbwyllo gweddill y cabinet i'w gefnogi. Mae ymateb emosiynol Catrin i'r cais yn hoelen ychwanegol yn arch y cynllun. Achub ei phriodas sydd ar flaen meddwl Angharad wrth i amheuon Owain ynglŷn â natur ei pherthynas â Harri gynyddu. Er gwaetha'r oblygiadau enfawr iddi hi'n bersonol ac yn broffesiynol, penderfyna nad oes ganddi ddewis ond dweud y gwir. Mae canlyniadau ei chyfaddefiad yn bellgyrhaeddol iddi hi, i Owain ac i Harri, ond yn profi'n achubiaeth lwyr i Meirion.

Cyfres 2 (2017)

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [4]
1"Pennod 1"Gareth RowlandsMeic Povey8 Ionawr 2017 (2017-01-08)37,000
Wedi tair wythnos o wyliau yn yr Unol Daleithiau, daw Angharad Wynne 'nôl adre' i Gymru yn llawn gobaith. Ei nod yw troi dalen lân a dechrau o'r newydd, yn ei gwaith fel Golygydd Gwleidyddol Newyddion Cymru, ac ar lefel bersonol fel gwraig ac fel mam. Yn anffodus iddi hi, mae 'na eraill sy'n ei chael hi'n anodd iawn anghofio'r gorffennol ac yn ei chael hi'n anos fyth i faddau. Argyfwng proffesiynol sy'n wynebu Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, a hynny yn sgil bygythiad llywodraeth San Steffan i ddatblygu atomfa niwclear newydd ar arfordir Penfro. Gydag aelodau ei phlaid yn gwbl ranedig ar y pwnc a pholisi niwclear y Cenedlaetholwyr yn siop siafins, sut mae cadw'r ddysgl yn wastad, a chadw hygrededd ar yr un pryd?
2"Pennod 2"Gareth RowlandsMeic Povey15 Ionawr 2017 (2017-01-15)llai na 24,000
Mae cais o Lundain i ddyblu nifer y ffoaduriaid sy'n cael eu hail gartrefu yng Nghymru yn profi'n dipyn o gur pen i aelodau'r glymblaid yn y Bae. Dydy ymateb negyddol y Ceidwadwyr Newydd ddim yn syndod, a Megan Ashford ar flaen y gad yn clochdar am ddiffyg tai a phrinder adnoddau. Mae diffyg cefnogaeth yn rhengoedd y Cenedlaetholwyr fodd bynnag, yn fwy annisgwyl, ac yn peri i Harri weithredu'n gwbl groes i ddymuniadau'r arweinydd, Rhiannon Roberts gan roi stori ar blât i Angharad Wynne. Mae Tom yn closio fwyfwy at Aled ac mae ymgais Catrin i blesio Dylan yn llwyddo i'w ddadrithio hyd yn oed yn fwy
3"Pennod 3"Gareth RowlandsMeic Povey22 Ionawr 2017 (2017-01-22)llai na 23,000
Ac yntau'n dathlu blwyddyn wrth y llyw, mae Prif Weinidog Cymru, Meirion Llywelyn, yn awyddus i gofnodi'r achlysur ac yn benderfynol na chaiff neb na dim ddifetha' ei ddiwrnod mawr. Mae marwolaeth plentyn yn etholaeth Dylan Williams yn codi cwestiynau difrifol am ddyfodol un o ysbytai'r gogledd ddwyrain ac yn newyddion drwg iawn i'r Gweinidog Iechyd, Rhiannon Roberts. Yn anffodus iddi hi, mae gan Meirion ateb annisgwyl i'r broblem ac er gwaetha' gwrthwynebiad sawl un i'w gynlluniau, ymddengys ei fod yn benderfynol o fynd â'r maen i'r wal.
4"Pennod 4"Gareth RowlandsMeic Povey29 Ionawr 2017 (2017-01-29)25,000
Ag yntau wedi ei rwygo rhwng ei gydwybod gwleidyddol ar y naill law, a dyfodol ei berthynas â'i wraig ar y llall, mae Dylan mewn tipyn o gyfyng-gyngor. Ond wrth iddo bendilio rhwng aros yn driw i'r Democratiaid neu adael y blaid honno a rhoi ei gefnogaeth yn llwyr i Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, mae'n benderfynol o sicrhau'r fargen orau iddo ef ei hun a hynny er gwaetha' protestiadau Catrin. Mae un camgymeriad yn bygwth dyfodol Owain fel cyfieithydd proffesiynol ac yn rhoi cyfle annisgwyl i Harri geisio cael ei wared o'r Cynulliad unwaith ac am byth.
5"Pennod 5"Terry Dyddgen-JonesLleucu Roberts5 Chwefror 2017 (2017-02-05)llai na 26,000
Mae bwriad Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, i adolygu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn corddi'r dyfroedd yn wleidyddol ac yn llwyddo i dynnu'r pleidiau eraill i gyd i'w phen. A hithau'n benderfynol o ymuno yn y dadlau, mae'r Golygydd Gwleidyddol, Angharad Wynne, yn rhoi llwyfan i Dave Harris - tad sengl sydd yn brwydro am feddyginiaeth allai achub bywyd ei blentyn bach sydd yn yr ysbyty yn marw o gancr. Gyda Harri'n cwestiynu ac yn amau cymhellion Angharad, mae hithau'n benderfynol o fynd â'r maen i'r wal, waeth beth fo'r gost. Ond wrth i Dave gyrraedd pen ei dennyn, mae'r canlyniadau'n ddifrifol i bawb.
6"Pennod 6"Terry Dyddgen-JonesMeic Povey12 Chwefror 2017 (2017-02-12)llai na 24,000
Mae damwain mewn ffatri newydd sbon yng Ngogledd Cymru yn peri problemau annisgwyl i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Datblygu Economaidd, Meirion Llywelyn ac yn ei orfodi i droi at Arweinydd y Cenedlaetholwyr, Rhiannon Roberts, i ofyn am help a chefnogaeth. Gydag Angharad ar drywydd y stori, mae Harri'n teimlo bod drwg Ceidwadol yn y caws a'i nod yw cadw pellter rhwng Meirion a Rhiannon, er gwaetha' protestiadau Ela. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i Tom ac Aled ac mae Tom yn penderfynu, o'r diwedd, mai bod yn onest gyda'i wraig yw'r unig ffordd ymlaen.
7"Pennod 7"Terry Dyddgen-JonesMeic Povey19 Chwefror 2017 (2017-02-19)llai na 19,000
Gyda'r economi'n gwegian mae gan Alwyn Jones, Arweinydd yr Wrthblaid fwy na digon i'w ddweud am gyflwr y wlad, ac am ddiffyg arweiniad Llywodraeth Cymru Gyfan yn gyffredinol. Wrth i rai aelodau o'i gabinet droi ato i chwilio am ysbrydoliaeth, ymddengys mai mentro fydd hanes Meirion a hynny er gwaetha'r peryglon i'w ddyfodol ef ei hun fel Prif Weinidog, i'r Ceidwadwyr Newydd ac i'r Glymblaid. Gyda Harri ac Angharad yn dynn ar ei sodlau, mae'r tebygrwydd o lwyddo yn fach a'r canlyniadau, o fethu, yn farwol. Edrych i'r dyfodol mae Owain a hynny er gwaethaf ymateb negyddol ei wraig a'i fam ac mae Harri'n dod i benderfyniad.
8"Pennod 8"Gareth RowlandsMeic Povey26 Chwefror 2017 (2017-02-26)llai na 24,000
Gyda Harri ac Angharad wedi cyflwyno mwy na digon o dystiolaeth yn erbyn Meirion i'w ddisodli, mae'r pwysau'n cynyddu ar Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, i weithredu a hynny er lles y genedl. Mae Rhiannon yn gwybod nad ar chwarae bach mae bygwth dyfodol llywodraeth gwlad a thasg anodd iawn fydd dod i gytundeb er mwyn ffurfio clymblaid newydd. Ag yntau'n synhwyro bod y gêm ar ben, unig obaith Meirion yw taro 'nôl a bygwth dyfodol Angharad a Harri ond a fydd Owain yn barod i fradychu ei wraig? Ac o gael ei orfodi i ddewis rhwng Angharad a'i rieni, beth fydd ei benderfyniad?

Cyfres 3 (2018)

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [4]
1"Pennod 1"Gareth RowlandsMeic Povey7 Hydref 2018 (2018-10-07)18,000
Gyda Meirion Llywelyn, y cyn-Brif Weinidog Ceidwadol, wedi ei alltudio i'r meinciau cefn, a Rhiannon Roberts, Arweinydd y Cenedlaetholwyr, bellach wrth y llyw mewn clymblaid, mae dyfodol Llywodraeth Cymru gyfan mewn dwylo gwahanol iawn.
2"Pennod 2"Gareth RowlandsMeic Povey14 Hydref 2018 (2018-10-14)17,000
Mae'r ffordd i gytundeb gwleidyddol trawsbleidiol yn gymleth, yn hir ac yn llawn peryglon wrth i Rhiannon Roberts benderfynu ymyrryd yng nghynlluniau blaengar Megan Ashford i wella'r cysylltiadau ffordd rhwng Cymru a Lloegr. Ag yntau wedi ei siomi gan benderfyniad ei dad i roi'r gorau i ysgrifennu ei hunangofiant, mae Owain yn chwilio am waith. Daw'r ateb i'w segurdod o gyfeiriad annisgwyl iawn a hwnnw'n ateb sy'n peri cryn ofid i Angharad ac i Harri.
3"Pennod 3"Gareth RowlandsMeic Povey21 Hydref 2018 (2018-10-21)23,000
Ag yntau'n disgwyl canlyniad ei ymddangosiad o flaen panel disgyblu mae Meirion Llywelyn yn ofni'r gwaetha. Mae bygythiad i ddyfodol Newyddion Cymru yn bryder gwirioneddol i'r ystafell newyddion. Tra bod ymateb Ed i'r anghydfod yn brawychu Angharad, mae'n argoeli'n newyddion drwg iawn i Tom. Ac er ei bod yn gobeithio am ateb wrth Harri, yr unig ddewis i Angharad yn y pendraw yw mynd a'r maen i'r wal ar ei phen ei hun.
4"Pennod 4"Gareth RowlandsGeraint Jones28 Hydref 2018 (2018-10-28)llai na 17,000
Gyda'r gwasanaeth Iechyd mewn argyfwng ag Ysbyty Glan Taf yn agos at orfod cau, mae gan Rhiannon Roberts ddigon ar ei phlat cyn i Alwyn Jones, Arweinydd yr Wrthblaid, ddechrau ei herio. Her bersonol sy'n wynebu pennaeth Newyddion Cymru Ed Gregson wrth iddo, am unwaith, orfod ystyried ei ddyletswyddau teuluol a roi lles ei dad o flaen ei ddyletswyddau newyddiadurol ond a fydd Ed yn llwyddo i gadw'r personol a'r proffesiynol arwahan neu a fydd y demtasiwn i ddial ar Rhiannon yn ormod iddo?
5"Pennod 5"Gareth RowlandsLleucu Roberts4 Tachwedd 2018 (2018-11-04)llai na 20,000
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae penderfyniad Rhiannon i anwybyddu cyngor Harri yn arwain at bechu Megan a Catrin ac at wanhau'r glymblaid fregus rhwng y tair yn y fargen. Drwy sarhau ei wraig yn gyhoeddus, mae Meirion yn llwyddo i dynnu Elinor a Megan i'w ben ond am unwaith mae ei ymddygiad annerbyniol yn achubiaeth wleidyddol i Rhiannon. Mae'r rhwyd yn cau wrth i Lowri orfod raffu mwy a mwy o gelwyddau ynglŷn â phwy yn hollol oedd tad ei phlentyn.
6"Pennod 6"Gareth RowlandsLleucu Roberts11 Tachwedd 2018 (2018-11-11)llai na 18,000
Wrth iddynt ddisgwyl ymweliad gan Weinidog Amaeth Prydain i'r Senedd ym Mae Caerdydd, mae tensiynau'n codi ac agwedd nawddoglyd Gaynor Samuel, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn fawr o help i neb. Mae Angharad yn chwilio am stori a Rhiannon yn gwbwl benderfynol mai yng Nghymru y bydd y pwerau Amaeth yn aros ar ol gadael yr Undeb Ewropeaidd, waeth beth fo'r gost iddi hi'n wleidyddol, ac i ffermwyr y wlad.
7"Pennod 7"Gareth RowlandsGeraint Jones & Branwen Cennard18 Tachwedd 2018 (2018-11-18)llai na 18,000
Mae bwriad Nuclear UK i gladdu gwastraff ymbelydrol yng Ngogledd Cymru yn ergyd drom i berthynas Rhiannon Roberts gydag Ysgrifennydd Cymru, Gaynor Samuel. Mae ei phenderfyniad i anwybyddu cyngor Harri ac ymddiried yn Angharad Wynne yn ei chostio'n wleidyddol ac yn bersonol. Mae gan Ed newyddion anodd i'w rannu gydag Angharad ac o dan yr amgylchiadau nid oes gan Owain ddewis ond i gyfaddef nad yw ei amheuon hi ynghylch ei berthynas a'r Prif Weinidog yn hollol anghywir.
8"Pennod 8"Gareth RowlandsLleucu Roberts25 Tachwedd 2018 (2018-11-25)llai na 20,000
Er bod ansicrwydd am ddyfodol y cwmni dwr cenedlaethol, Dwr Cambria, yn profi'n gur pen i Megan Ashford, mae Rhiannon yn gweld yr argyfwng sy'n datblygu fel cam i'r cyfeiriad cywir iddi hi a'r genedl. Er gwaethaf protestiadau Harri a phryderon Catrin a Megan, mae'n benderfynol ar gyflawni ei breuddwyd wleidyddol, beth bynnag fo'r pris. Yn y cyfamser, mae Meirion yn gweld cyfle i adfywio ei freuddwyd wleidyddol ei hun - ond ble bydd teyrngarwch Aled yn gorwedd?

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Cyfrif Twitter Byw Celwydd. Byw Celwydd (21 Chwefror 2016).
  2. Lansio cyfres ddrama wleidyddol S4C yn y Senedd. S4C; Adalwyd 20 Ionawr 2016
  3. S4C i ffilmio drama wleidyddol yn y Senedd, S4C; Adalwyd 20 Ionawr 2015
  4. 4.0 4.1 4.2 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu