Cytundeb rhwng cadfridogion Alecsander Fawr, brenin Macedonia, wedi ei farwolaeth ef oedd Rhaniad Babilon. Roedd yn rhannu ymerodraeth Alecsander rhyngddynt.

Ar 10 Mehefin 323 CC, bu farw Alecsander Fawr yn ninas Babilon, ddeg diwrnod ar ôl ei daro'n wael mewn gwledd. Nid oedd ganddo fab ar y pryd, felly ei hanner brawd, Philip II, fyddai'n etifeddu teyrnas Macedon. Fodd bynnag, roedd gweddw Alecsander, Roxana, yn feichiog.

Dan y cytundeb yma, daeth Philip II yn frenin, er bod rhai yn dymuno aros nes i Roxana esgor ar ei phlentyn. Rhannwyd yr ymerodraeth rhwng cadfridogion Alecsander:

Cytunwyd i Perdiccas fod yn brif reolwr Asia.