Rhestr o siroedd yr Unol Daleithiau a enwir ar ôl menywod
Dyma restr o siroedd yr UD sydd wedi'u henwi ar ôl menywod. Gellir rhestru eitemau mewn mwy nag un categori.
Pobl leol ac ymsefydlwyr
golygu- Ada County, Idaho, a enwir ar gyfer Ada Riggs, y plentyn arloesol cyntaf a anwyd yn yr ardal ac yn ferch i gyd sylfaenydd Boise, Idaho HC Riggs . [1]
- Dare County, Gogledd Carolina, a enwir ar gyfer Virginia Dare, y plentyn Seisnig cyntaf a anwyd yn y Byd Newydd a ddiflannodd gyda'r Wladfa Goll . [2]
- East Feliciana Parish a West Feliciana Parish, Louisiana, a enwir ar gyfer Felicite de Gálvez, gwraig Bernardo de Gálvez, llywodraethwr Sbaenaidd yn Nhiriogaeth Louisiana . [3]
- Florence County, De Carolina, a enwir ar gyfer Florence Harllee, merch i WW Harllee, llywydd Rheilffordd Wilmington a Manceinion . [4]
- Grainger County, Tennessee, a enwir ar gyfer Mary Grainger Blount, gwraig William Blount, unig lywodraethwr Tiriogaeth y De-orllewin ( Tennessee modern). [5]
- Hart County, Georgia, a enwir ar gyfer Nancy Hart, saethwr sicr a gwladgarwr yn Rhyfel Chwyldroadol America . [6]
- Jessamine County, Kentucky, a enwir ar gyfer Jessamine Douglas, merch y syrfëwr James Douglas. [7] Lladdwyd hi gan Americanwyr Brodorol.
- Josephine County, Oregon, a enwir ar gyfer Virginia "Josephine" Rollins, y fenyw Ewropeaidd-Americanaidd gyntaf i ymgartrefu yn ne Oregon .
- Marshall County, Oklahoma, a enwir ar gyfer mam George A. Henshaw, dirprwy i gonfensiwn cyfansoddiadol y wladwriaeth, Marshall oedd ei henw cyn priodi. [8]
- Merrick County, Nebraska, a enwyd ar gyfer Elvira Merrick, gwraig Henry W. DePuy, deddfwr tiriogaethol. [9]
- Wake County, Gogledd Carolina, a enwir ar gyfer Margaret Wake, aeres o Lundain a gwraig William Tryon, llywodraethwr trefedigaethol Gogledd Carolina . [10]
Americanwyr Brodorol
golygu- Angelina County, Texas, a enwyd ar gyfer menyw Americanaidd Brodorol Hasinai a gynorthwyodd genhadon Sbaenaidd cynnar ac a enwyd yn Angelina ganddynt. [11]
- Marinette County, Wisconsin, a enwyd ar gyfer Marinette, masnachwr o'r 19eg ganrif a oedd yn ferch i faglwr Ffrengig-Canada ac yn fenyw Menominee . [12]
- Pocahontas County, Gorllewin Virginia (Pocahontas County Virginia cynt) a Pocahontas County, Iowa : a enwyd ar gyfer Pocahontas, yr Americanwr Brodorol enwog a chwaraeodd ran flaenllaw yn hanes yr aneddiadau parhaol cyntaf Lloegr yng Ngogledd America .
- Tama County, Iowa, a enwir ar gyfer un o nifer o benaethiaid neu wragedd pennaeth Brodorol America, y mae anghydfod yn eu cylch.
- Tippah County, Mississippi, a enwir ar gyfer Tippah, gwraig Pontotoc, arweinydd Chickasaw pwysig. [13]
- Winona County, Minnesota, a enwir ar gyfer Wenonah (sy'n golygu merch hynaf yn Dakota), menyw o fri yn llwyth y Lakota a oedd yn gyfnither i'r olaf o dri phennaeth o'r enw Wabasha. [14]
Merched enwog
golygu- Barton County, Kansas, a enwir ar gyfer Clara Barton, y nyrs Americanaidd arloesol a drefnodd Groes Goch America . [15]
- Bremer County, Iowa, a enwir ar gyfer Fredrika Bremer, nofelydd o Sweden. [16]
Boneddigesau a breninesau
golygu- Amelia County, Virginia, a enwyd ar gyfer y Dywysoges Amelia o Brydain Fawr, merch Siôr II .
- Anne Arundel County, Maryland, a enwir ar gyfer Anne Arundell, gwraig Cecil Calvert, 2il Barwn Baltimore a merch Thomas Arundell, y Barwn Arundell o Wardour 1af .
- Augusta County, Virginia, a enwyd ar gyfer Augusta o Saxe-Gotha, gwraig Frederick, Tywysog Cymru a mam y brenin Siôr III brenin y DU.
- Caroline County, Maryland, a enwir ar gyfer yr Arglwyddes Caroline Eden, merch Charles Calvert, 5ed Barwn Baltimore, chwaer Frederick Calvert, 6ed Barwn Baltimore, a gwraig Robert Eden, llywodraethwr trefedigaethol olaf Maryland .
- Caroline County, Virginia, a enwir ar gyfer Caroline o Ansbach, gwraig Siôr II o Brydain Fawr .
- Charlotte County, Virginia, a enwir ar gyfer Charlotte o Mecklenburg-Strelitz, gwraig Sior III o Brydain Fawr .
- Dutchess County, Efrog Newydd, a enwyd ar gyfer Maria o Modena, Duges Efrog a gwraig y Brenin Iago II a VI brenin Lloegr ar Alban wedyn.
- Isabella County, Michigan, a enwyd ar gyfer y Frenhines Isabella I o Castile, un o noddwyr Christopher Columbus .
- King and Queen County, Virginia, a enwyd ar gyfer Brenin William III a II o Loegr a'r Alban a Brenhines Mary II o Loegr .
- Louisa County, Virginia, a enwir ar gyfer y Dywysoges Louise, merch Siôr II o Brydain Fawr .
- Mecklenburg County, Gogledd Carolina, a Mecklenburg County, Virginia, a enwir ar gyfer Charlotte o Mecklenburg-Strelitz, gwraig Siôr III o Brydain Fawr .
- Queen Anne's County, Maryland, a enwir ar gyfer Anne, Brenhines Prydain Fawr .
- Queens, Efrog Newydd, a enwyd ar gyfer Catherine of Braganza, Brenhines Lloegr a gwraig Siarl II o Loegr a'r Alban .
Saint
golygu- St Helena Parish, Louisiana, a enwir ar gyfer y Santes Helena o Gaergystennin, mam Cystennin Fawr .
- St Lucie County, Florida, a enwir ar gyfer dref Santa Lucea o gyfnod y Sbaenwyr, tybir ei fod wedi ei enwi ganddynt ar gyfer y Santes Lucie o Syracuse .
- Ste. Genevieve County, Missouri, a enwyd ar ôl Sainte Genevieve, nawddsant Paris .
- Santa Barbara County, California, a enwir ar gyfer Santes Barbara, nawddsant tân.
- Santa Clara County, California, a enwyd ar gyfer Cenhadaeth Santa Clara, a enwyd yn ei dro ar gyfer Santes Clara de Asís .
Agweddau ar y Forwyn Fair
golygu- Assumption County, Louisiana, a enwir ar gyfer Dyrchafiad Mair i'r nefoedd.
- Dolores County, Colorado, a enwyd ar gyfer Afon Dolores, yn wreiddiol Rio de Nuestra Señora de los Dolores (Afon ein Harglwyddes y Gofidiau).
- Guadalupe County, New Mexico, a enwir ar gyfer Ein Morwyn o Guadalupe, nawddsant tiroedd yr America.
- Los Angeles County, Califfornia, a enwyd am y ffaith bod y fforwyr Gaspar de Portolà wedi cyrraedd Yangna pentref Americanaidd Brodorol ar Awst 2, 1769, gŵyl mabsant Nuestra Señora la Reina de Los Angeles de Porciúncula (Ein Morwyn Brenhines Angylion Porciúncula).
- St Mary's County, Maryland, a Saint Mary's Parish, Louisiana, a enwir ar gyfer y Forwyn Fair, mam Iesu .
Ffuglennol
golygu- Attala County, Mississippi, a enwir ar gyfer Attala neu Atala, arwres Americanaidd Frodorol ffuglennol o stori gan François-René de Chateaubriand .
- Evangeline Parish, Louisiana, a enwyd ar ôl arwres y gerdd Evangeline gan Henry Wadsworth Longfellow .
- Leelanau County, Michigan, a enwyd ar ôl "Leelinau", enw a roddir i ferched Brodorol America yn straeon Schoolcraft Henry Rowe .
Siroedd a enwir yn anuniongyrchol ar gyfer menywod
golygu- Doña Ana County, Mecsico Newydd, ar ôl ei brifddinas sirol gyntaf Doña Ana, Mecsico Newydd, a enwyd yn ei dro ar gyfer Doña Ana Robledo, menyw o'r 17eg ganrif sy'n adnabyddus am ei rhoddion elusennol.
- Fluvanna County, Virginia, a enwir am derm hynafol am Afon James, fluv. Anna neu Afon Ann.
- Haines Borough, Alaska, a enwir ar ôl Haines, Alaska, a enwir yn ei dro am Mrs. F E Haines, yr arweinydd cymunedol a gododd arian ar gyfer cenhadaeth grefyddol i'r llwyth Americanaidd Brodorol lleol y Chilkat.
- Judith Basin County, Montana, a enwir ar gyfer Afon Judith, sydd yn ei dro wedi'i henwi ar gyfer Julia Hancock, cariad a darpar wraig William Clark o Alldaith Lewis a Clark, a archwiliodd yr afon; mae'r camsillafu oherwydd bod Clark wedi credu ar gam mae Judith oedd ei henw.
- Santa Rosa County, Florida, a enwir ar gyfer Ynys Santa Rosa, sydd yn ei dro wedi'i henwi ar gyfer y Santes Rosa o Viterbo, sant Catholig a oedd yn byw yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Siroedd a enwir o bosibl ar gyfer menywod
golygu- Culpeper County, Virginia, a enwyd ar gyfer un o dri aelod o deulu Colepeper, yr oedd dwy ohonynt yn fenywod: Thomas Colepeper, 2il Farwn Colepeper o Thoresway, llywodraethwr trefedigaethol yn Virginia; ei wraig gyntaf Margaretta van Hesse, sef Margaret, Arglwyddes Colepeper; neu eu merch ac etifedd Thomas, Catherine Colepeper .
- Elmore County, Idaho, a enwir ar gyfer mwyngloddiau Ida Elmore, a allai fod wedi cael ei henwi ar gyfer menyw o'r enw Ida Elmore.
- Ida County, Iowa, a enwyd o bosibl ar gyfer Ida Smith, y plentyn Ewropeaidd-Americanaidd cyntaf a anwyd yn y sir.
- Louisa County, Iowa, a enwyd naill ai ar gyfer Louisa Massey o Dubuque, Iowa, a laddodd lofrudd ei brawd, yn ôl y chwedl; neu ar gyfer Louisa County, Virginia .
- Maries County, Missouri, a enwir ar gyfer Afon Maries, sydd o bosib wedi ei henwi ar ôl un neu fwy o ferched o'r enw Mary.
- St Clair County, Michigan, a enwyd naill ai ar gyfer Arthur St. Clair, llywodraethwr cyntaf Tiriogaeth y Gogledd-orllewin, neu ar gyfer Llyn St. Clair a enwyd ar ôl y Santes Chiara o Assisi ("Clare" yn Saesneg, fel arfer).
- Tama County, Iowa, a enwir ar gyfer unrhyw un o nifer o benaethiaid neu wragedd pennaeth Brodorol America. Mae anghydfod parthed pa un.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ada County". Idaho.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mawrth 2015. Cyrchwyd 7 Ionawr 2015.
- ↑ "About Dare County". Dare County. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2012. Cyrchwyd 7 Ionawr 2015.
- ↑ "History of East Feliciana Parish". Feliciana Tourism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-12.
- ↑ Gannett, Henry (1905). The Origin of Certain Place Names in the United States. Govt. Print. Off. tt. 127.
- ↑ Gannett, Henry (1905). The Origin of Certain Place Names in the United States. Govt. Print. Off. tt. 141.
- ↑ "Hart Country". Georgia.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-02. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
- ↑ Gannett, Henry (1905). The Origin of Certain Place Names in the United States. Govt. Print. Off. tt. 169.
- ↑ "Marshall County". Oklahoma Historical Society Encyclopedia of Oklahoma History & Culture. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
- ↑ "Nebraska Place Names (1925)". NEGenWeb Project. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
- ↑ "Joel Lane House". United States National Park Service.
- ↑ "About". Angelina County website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-02. Cyrchwyd 2015-01-08.
- ↑ L, David (2011-11-03). "Letters for George: Queen Marinette". Letters for George. Cyrchwyd 2016-04-20.
- ↑ Davis, Jefferson (1975-02-01). The Papers of Jefferson Davis: June 1841--July 1846 (yn Saesneg). LSU Press. ISBN 9780807100820.
- ↑ Thompson, Michael Allen. "Homecoming To Explore Roles of American Indian Women". diversityfoundation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-21. Cyrchwyd 2016-04-20.
- ↑ Blackmar, Frank Wilson (1912). Kansas: A Cyclopedia of State History, Embracing Events, Institutions, Industries, Counties, Cities, Towns, Prominent Persons, Etc. Standard Publishing Company. tt. 153.
- ↑ "Bremer County History". Bremer County, Iowa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 25, 2011. Cyrchwyd Mai 6, 2011.