Rhuddlad
santes Gymreig o'r 5ed ganrif
Santes Geltaidd o'r 5g. oedd Rhuddlad. Fe'i cysylltir â phwlyf Llanrhuddlad (rhwng Cemaes a Llanfaethlu ar Ynys Môn). Ei gŵyl mabsant yw 4 Medi.[1]
Rhuddlad | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Llanrhuddlad |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 4 Medi |
Hanes a thraddodiad
golyguYchydig iawn a wyddom am Ruddlad. Enwir eglwys Llanrhuddlad a'r plwyf hefyd ar ôl y santes. Y cwbl a wyddys amdani yw'r traddodiad ei bod yn ferch i frenin Laighin (Leinster), dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723).[1]
Ceir Moel Ryddlad ger yr eglwys.