Rhyfel Chwe Diwrnod
Ymladdwyd y Rhyfel Chwe Diwrnod (Hebraeg: מלחמת ששת הימים, Milhemet Sheshet Ha‑Yamim; Arabeg: حرب الأيام الستة, ħarb al‑ayyam as‑sitta), a elwir hefyd yn "Rhyfel Israel-Arabaidd 1967", y Trydydd Rhyfel Arab-Israelaidd, Rhyfel Mehefin, neu an‑Naksah yn Arabeg ("Yr Atalfa"), rhwng Israel a'r gwladwriaethau Arabaidd yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Irac, a Syria. Mae'r rhyfel hwn yn rhan o'r Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd.
Delwedd:Guèrra dei Sièis Jorns.png, צנחנים בכותל המערבי.jpg | |
Math o gyfrwng | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 10 Mehefin 1967 |
Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd |
Dechreuwyd | 5 Mehefin 1967 |
Daeth i ben | 10 Mehefin 1967 |
Rhagflaenwyd gan | Argyfwng Suez |
Olynwyd gan | y Rhyfel Athreuliol |
Lleoliad | Y Dwyrain Canol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynyddai'r tensiynau rhwng Israel a'i chymdogion Arabaidd ar ddechrau 1967. Pan orfodwyd Llu Argyfwng y Cenhedloedd Unedig gan yr Aifft i adael gorynys Sinai, gan gynyddu ei gweithgareddau milwrol ger y ffin ag Israel a gwrthod mynediad i longau Israelaidd a geisiai fynd i Gulfor Tiran (ger Aqaba). Lansiodd Israel gyrch milwrol rhagflaenol ar lu awyr yr Aifft am ei bod yn ofni ymosodiad buan o du'r Aifft. Yn ei thro ymosododd Gwlad Iorddonen ar ddinasoedd Israelaidd Jerwsalem a Netanya. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Israel wedi cipio Llain Gaza, gorynys Sinai, y Lan Orllewinol, ac Ucheldiroedd Golan. Mae canlyniadau'r rhyfel tyngedfennol hwnnw yn effeithio ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol hyd heddiw.