Dafydd ap Siencyn
Herwr a bardd oedd Dafydd ap Siencyn neu Dafydd ap Siencyn ap Dafydd ap y Crach (blodeuai tua 1450). Ei dad oedd Siancyn ap Dafydd ab Y Crach, a'i fam oedd Margred ferch Rhys, mab Rhys Gethin, cadfridog Owain Glyn Dŵr.[1]
Dafydd ap Siencyn | |
---|---|
Man preswyl | Nant Conwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, person milwrol |
Blodeuodd | 1450 |
Llinach | Tuduriaid Penmynydd |
Bywgraffiad
golyguYng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau, roedd Dafydd, oedd yn berthynas i Owain Tudur, yn gefnogwr plaid y Lancastriaid. Pan droes y rhyfel yn erbyn y Lancastriaid, aeth Dafydd yn herwr. Bu'n byw yng Nghoed Carreg y Gwalch, ger Llanrwst, am flynyddoedd. Dywedir iddo ddal Castell Harlech gyda Robert ap Meredudd. Gyda Ieuan ap Rhobert ap Maredudd, cadwodd Nantconwy yn erbyn y brenin hyd 1468, ac anrheithiodd rannau o Sir Ddinbych. Yn 1468 daeth byddin Iorcaidd dan William Herbert, Iarll Penfro i feddiannu'r ardal.
Derbyniodd bardwn yn 1468, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Gwnstabl Castell Conwy, wedi iddo ladd ei ragflaenydd. Dywedir i Dafydd farw o glwyfau a gafodd mewn ffrwgwd, ac iddo gyfansoddi dau englyn ar ei wely angau. Cadwyd cerddi iddo gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf a Tudur Penllyn, ac mae rhywfaint o farddoniaeth gan Dafydd ei hun wedi ei gadw: cywydd ateb i Dudur Penllyn a chywyddau moliant i Forus Wyn o Foelyrch a Roger Kynaston.
Mewn llenyddiaeth ddiweddar, mae'n ymddangos yn Dafydd ab Siencyn yr herwr, a Rhys yr arian daear: dwy ramant Gymreig gan Elis o'r Nant (Ellis Pierce), a gyhoeddwyd yn 1905. Yn ddiweddarach, ef yw arwr cyfres o nofelau hanesyddol gan Emrys Evans. Cyhoeddwyd y rhain gan Gwasg Carreg Gwalch, a enwyd ar ôl y coed lle bu'n llochesu.
Gellir gweld sbardun y dywedir ei bod yn eiddo i Dafydd yn eglwys y plwyf, Llanrwst.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 5 Rhagfyr 2014
Llyfryddiaeth
golygu- Evans, Emrys, Dafydd ap Siencyn: y gwr a'i gyfnod (Gwasg Carreg Gwalch, 1983) ISBN 0863810217
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd