Rhys Thomas (meddyg)

Dyfeisydd y Gwntedydd Argyfwng COVID' (Covid Emergency Ventilator)

Uwch anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin, dyfeisiwr a gwleidydd yw Dr Rhys Thomas (enw llawn Glanville Owen Rhys Thomas[1]) a ddaeth i'r amlwg ym Mawrth 2020, yn ystod wythnosau cyntaf y Gofid Mawr yng Nghymru.[2]

Rhys Thomas
GanwydSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethanesthetydd, dyfeisiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata

Mae Dr Rhys Thomas wedi gwasanaethu mewn rhyfel fel uwch swyddog meddygol yn y Gatrawd Parasiwt. Gwasanaethodd saith taith ar ddyletswydd yn Afghanistan, cyn ymddeol i redeg ei fferm deuluol yn Sir Gaerfyrddin.

Drwy ddefnyddio ei brofiad yn Afghanistan fe arweiniwyd gyda Dr Dindi Gill sefydliad Gwasanaeth Ambiwlans Awyr newydd Cymru. Sicrheuodd Rhys Thomas bod pob hofrenydd wedi'i gyfarparu gyda'r dechnoleg fwyaf diweddar sy'n gallu achub bywydau.[3] Mae'r gwasanaeth wedi ei gymeradwyo yn fyd eang. Meddai "fe wnaethon ni benderfynu cyfarparu pob hofrennydd gyda'i uned gofal dwys ei hun. Trwy hynny fe wnaethon ni, ar gyfartaledd, achub bywyd ychwanegol y dydd."[4]

Daeth Dr Rhys Thomas yn aelod o Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 am ei gyfraniad i'r byd iechyd a'r gymdeithas.[5]

Mae Rhys Thomas yn seiclwr ac athletwr brwd a bu'n cystadlu yn Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod, ac Ironman y Byd yn Hawaii.

Yn ogystal fe wnaeth Dr Rhys Thomas sefyll ar gyfer Plaid Cymru fel aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn etholiad cyffredinol 2019. Fe wnaeth derbyn 3633 o bleidleisiau a dod yn drydydd, gyda Simon Hart (Ceidwadwyr) yn cadw ei sedd.

Dyfeisio 'Wyntiedydd Argyfwng COVID' golygu

Ar gais Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, dyfeisiodd Rhys Thomas 'Wyntiedydd Argyfwng COVID' (Covid Emergency Ventilator) dros gyfnod o dridiau. Defnyddiwyd y gwyntiedydd cyntaf ar glaf yn Llanelli ar 21 Mawrth, a gwellodd y claf, gan adael yr ysbyty ychydig yn ddiweddarach. Yn wahanol i'r gwyntiedyddion arferol, nid yw'n angenrheidiol i nyrs fod o fewn cyrraedd, neu olwg y claf, ac mae'r peiriant yn glanhau'r aer yn yr ystafell ar ei liwt ei hun, gan ffiltro gronynnau mân fel firysau ohono ac yn helpu'r claf i anadlu.

Trodd Adam Price at gwmni bychan, teuluol o Rydaman, sef Maurice Clarke of CR Clarke & Co, gan ofyn iddynt gynhyrchu'r dyfais newydd, a chytunodd y cwmni; o fewn dim roedd Adam Price wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i fynd ati i'w creu.[6]

Cyn hynny, roedd gan Gymru gyfanswm o 100 o wyntedyddion; ar 25 Mawrth, credwyd y gellid cynhyrchu 100 y dydd o'r gwyntiedyddion newydd, a hynny yng Nghymru. Roedd 80 o’r peiriannau ar 23 Mawrth ar eu ffordd i’r pedwar ysbyty oedd gyda'r nifer fwyaf o ddioddefwyr Covid-19. Yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli.[7]

Yn ôl Dr Thomas, "Wneith y gwyntiedydd argyfwng fyth ddisodli'r gwyntiedyddion presennol yn yr unedau gofal dwys; mae fy nyfais i'n arbenigol, ac yn targedu COVID-19, ac yn cael ei gyflwyno i'r claf cyn iddo gyrraedd yr uned gofal dwys. Mae hefyd yn rhyddhau'r nysrus i wneud gwaith arall, yn hytrach na threulio eu hamser yn cadw golwg ar y peiriant."[8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Parliamentary General Election 2019". www.carmarthenshire.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-02.
  2. itv.com; adalwyd 25 Mawrth 2020
  3. "Y cyn filwr sydd bellach yn heddychwr". BBC Cymru Fyw. 2018-03-03. Cyrchwyd 2020-04-02.
  4. "Hear Plaid candidate's 'incredible story' at Tenby coffee morning". Tenby Observer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-02.[dolen marw]
  5. "Anrhydeddau'r Orsedd: Y gorllewin". BBC Cymru Fyw. 2018-05-03. Cyrchwyd 2020-04-02.
  6. bmmagazine.co.uk; adalwyd 25 Mawrth 2020.
  7. "Creu peiriant anadlu mewn wythnos– 'prawf fod Cymru yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun'". Golwg360. 2020-03-27. Cyrchwyd 2020-04-02.
  8. www.walesonline.co.uk; adalwyd 25 Mawrth 2020.