Joseph Bailey
Roedd Syr Joseph Bailey (21 Ionawr 1783 – 20 Tachwedd 1858) yn feistr gwaith haearn ac yn dir-feddiannwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Dinas Caerwrangon a Sir Frycheiniog.[1][2]
Joseph Bailey | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1783 Great Wenham |
Bu farw | 20 Tachwedd 1858 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, metelegwr, person busnes |
Swydd | Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Bailey |
Mam | Susannah Crawshay |
Priod | Maria Latham, Mary Ann Hopper |
Plant | Mary Anne Bertha Bailey, Maria Susan Bailey, Margaret Bailey, Jane Bailey, Joseph Bailey, Richard Bailey, John Crawshay Bailey, William Latham Bailey, Henry Bailey |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Bailey yn Great Whenam, Suffolk yn fab i John Bailey, ffarmwr cefnog o Swydd Efrog, a Susannah (née Crawshay) ei wraig.[3] Mab arall i'r teulu oedd y diwydiannwr ac AS Sir Fynwy Crawshay Bailey. Roedd, Susannah, Mam Bailey yn chwaer i'r meistr haearn Richard Crawshay o Gastell Cyfarthfa Merthyr Tudful. Priododd Charlotte, chwaer Joseph Bailey, a'r gwleidydd Benjamin Hall. Gweler hefyd Crawshay (teulu) qv am gysylltiadau eraill.
Bu Bailey yn briod ddwywaith. Priododd ei wraig gyntaf; Maria, merch Joseph Latham, Llangadog; ym 1810; bu iddynt pum mab a phedair merch [4]. Bu farw Maria ar 26 Mai 1827 [5]. Gwasanaethodd eu mab hynaf Joseph Bailey ieu (1812-1850) fel Aelod seneddol Sudbury o 1837 hyd 1841 a Swydd Henffordd o 1841 hyd 1850 [6].
Ym 1830 priododd Bailey ei ail wraig, Mary Anne, merch John Thomas Hooper, Wilton Castle Swydd Durham; bu iddynt un ferch. Bu farw Mary Anne ym 1874.[7]
Gyrfa
golyguYn fachgen ifanc cerddodd o Swydd Efrog i Ferthyr i ymuno â busnes ei ewythr. Etifeddodd cyfran chwarter busnes Cyfarthfa ar farwolaeth Richard Crawshay gan werthu'r gyfran ym 1813 am £20,000 er mwyn prynu gwaith haearn Nant-y-glo a oedd yn methu ar y pryd, ond llwyddodd rheolaeth y brodyr Bailey i dro'r gwaith yn un o fentrau pwysicaf Sir Fynwy.[8]. Wedi hyn, prynwyd gwaith haearn Cendl, (Beaufort) a gwaith haearn Aberaman gan y brodyr.[9]
Ym 1826 Prynodd stadau yn Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed, Swydd Henffordd a Morgannwg, gan gynnwys stad Glanusk lle comisiynodd plasty newydd ysblennydd gan y pensaer Robert Lugar ac ymddeolodd i fywyd gŵr bonheddig, gan adael ei frawd i reoli'r gwaith haearn.
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd Bailey ei ethol fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Caerwrangon ym 1835 gan gadw'r sedd hyd 1847, pan benderfynodd sefyll yn etholaeth Sir Frycheiniog [10] ar adeg ymddeoliad Thomas Wood o'r sedd. Etholwyd Bailey yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1847 a 1852 a 1857 gan dal y sedd hyd ei farwolaeth.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Fynwy ym 1823; bu'n ynad heddwch dros siroedd Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg, a Henffordd ac yn Ddirprwy Raglaw Sir Frycheiniog a Sir Fynwy.
Dyrchafwyd ef yn farwnig ym 1852.[11]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Parc Glanusk, yn 75 oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Penymarth, Crucywel.[12]. Gan fod ei fab hynaf wedi marw o'i flaen etifeddwyd y farwnigaeth gan ei ŵyr Joseph Russell Bailey
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur arlein, BAILEY, CRAWSHAY (1789 - 1872), [1] adalwyd 1 Rhag 2015
- ↑ Powys Local History Encyclopedia [2] adalwyd 1 Rhag 2015
- ↑ "THE LATE SIR JOSEPH BAILEY - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1858-11-27. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "DEATH OF SIR JOSEPH BAILEY BART MP FOR THE COUNTY OF BRECKNOCK - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-11-26. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "Family Notices - The Cambrian". T. Jenkins. 1827-06-02. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "No title - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1850-09-28. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "DEATH OF LADY BAILEY OF GLANUSK - The Western Mail". Abel Nadin. 1874-07-04. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "DEATH OF MR CRAWSHAY BAILEY - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1872-01-13. Cyrchwyd 2015-08-15.
- ↑ "MR CRAWSHAY BAILEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-02-16. Cyrchwyd 2015-08-15.
- ↑ "BRECONSHIRE ELECTION - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1847-08-06. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "SIR JOSEPH BAILEY BART MP - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1852-07-09. Cyrchwyd 2015-11-30.
- ↑ "BRECONSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-12-03. Cyrchwyd 2015-11-30.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas wood |
Aelod Seneddol Sir Frycheiniog 1847 – 1858 |
Olynydd: Godfrey Charles Morgan |