Richard Tucker
Roedd Richard Tucker (26 Awst 1913 – 8 Ionawr 1975) yn ganwr opera Americanaidd. Roedd ganddo lais tenor.[1]
Richard Tucker | |
---|---|
Richard Tucker fel y Dug yn "Rigoletto" | |
Ganwyd | 28 Awst 1913 Brooklyn |
Bu farw | 8 Ionawr 1975 Kalamazoo |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | canwr opera, cerddor, actor |
Math o lais | tenor |
Gwobr/au | Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami |
Cefndir
golyguGanwyd Tucker yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd. Ei enw gwreiddiol oedd Rivn Ticker. Roedd ei rieni Sruel (Sam) Ticker a Fanya-Tispa yn Iddewon o ddwyrain Ewrop a ymfudodd i'r Unol Daleithiau.[2]
Dechrau canu
golyguDechreuodd Tucker canu fel cantor yn ei synagog leol, Teml Emanuel, yn Passaic, New Jersey. Cafodd ei gyflogi fel cantor yn Nheml Adath Israel yn y Bronx ac yna yng Nghanolfan Iddewig Brooklyn. Bu hefyd yn gweithio fel gwerthwr sidan.[3]
Teulu
golyguPriododd Sara Perelmuth ym 1936. Roedd hi yn ferch i Levi ac Anna Perelmuth, perchnogion y Grand Mansion, neuadd wledd kosher ym Manhattan. Bu iddynt tri mab. Roedd Anna yn chwaer i'r canwr jas, a drodd yn ganwr opera, Jan Peerce.[1]
Gyrfa operatig
golyguTrwy ei frawd yng nghyfraith, cyflwynwyd Tucker i'r arweinydd a'r trefnydd Zavel Zilberts, a ddechreuodd hyfforddi Tucker. Yna daeth yn ddisgybl i'r tenor nodedig Paul Althouse. Aeth Tucker i mewn i'r Auditions of the Air y Metropolitan Opera ym 1941, ond ni enillodd. Daeth rheolwr cyffredinol y Met, Edward Johnson, yn ddirybudd i Ganolfan Iddewig Brooklyn i glywed Tucker yn canu. Cynigiodd Johnson glyweliad arall iddo ac yn fuan rhoddodd gontract iddo. Ar 25 Ionawr, 1945, dan arweiniad Emil Cooper, gwnaeth Tucker ei ymddangosiad cyntaf fel Enzo Grimaldo yn La Gioconda. Bu'r début hwn yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes y Met a fu'n cychwyn gyrfa 30 mlynedd Tucker fel y tenor Americanaidd mwyaf blaenllaw'r cyfnod ôl rhyfel y Met.[4]
Ddwy flynedd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan, gwahoddwyd Tucker i ailadrodd ei lwyddiant yn La Gioconda yn Verona, yr Eidal.[5] Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1949, gwahoddodd Arturo Toscanini, Tucker i ganu rôl Radames ar gyfer darllediad NBC o berfformiad cyngerdd cyflawn o Aida gyferbyn â Herva Nelli yn rôl y teitl, digwyddiad a glywyd ac a welwyd ar y radio a'r teledu, ac a ryddhawyd yn y pen draw ar LP, CD, VHS, a DVD
Cyn ac ar ôl pob tymor yr Opera Metropolitan, ymddangosodd Tucker ar lwyfannau cyngerdd drwy'r Unol Daleithiau Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au. Ymddangosodd mewn cyfres o gyngherddau awyr agored "Puccini Night" yn Stadiwm Lewisohn yn Ninas Efrog Newydd, dan gyfarwyddyd Alfredo Antonin. Roedd y cyngherddau yn aml yn denu cynulleidfaoedd o dros 13,000 o westeion brwdfrydig.
Trwy gydol ei yrfa opera, bu Tucker yn driw i'w hunaniaeth Iddewig. Gweinyddodd yn rheolaidd fel cantor ar Rosh Hashana, Yom Kippur [6] a digwyddiadau cysegredig eraill yn y calendr litwrgaidd Iddewig, yn enwedig yn Chicago.[7]
Roedd gan Tucker gontract hir sefydlog gyda Columbia Records. Bu'n recordio ar gyfer cwmni RCA Victor hefyd. Gwnaeth recordiad enwog o Aida gyda chydweithiwr o'i ymddangosiad yn Verona, Maria Callas. Recordiodd yr Offeren Dros y Meirw, Verdi gyda'i gyd-seren opera Iddewig George London. Mae llawer o recordiadau masnachol eraill, yn ogystal â recordiadau preifat o'i gyngherddau a'i berfformiadau darlledu, wedi cael eu hadfer yn ddigidol ac maent ar gael ar ffurf CD a fformatau y gellir eu lawr lwytho. Cadwyd nifer o'i ymddangosiadau teledu cenedlaethol ar The Voice of Firestone a The Bell Phone Hour mewn ffurf kinescope a thâp fideo, ac maent wedi'u hailgyhoeddi ar fformat VHS a DVD.[8]
Marwolaeth
golyguRoedd Tucker yn teithio gyda Robert Merrill mewn cyfres genedlaethol o gyngherddau ar y cyd pan fu farw ar 8 Ionawr 1975 o drawiad ar y galon wrth orffwys yn ei ystafell wisgo cyn perfformiad gyda'r nos yn Kalamazoo, Michigan. Ef yw'r unig berson y cynhaliwyd ei wasanaeth angladd ar lwyfan Opera Metropolitan. Mewn teyrnged i'w etifeddiaeth yn y Met, enwodd dinas Efrog Newydd y parc ger Canolfan Lincoln yn Sgwâr Richard Tucker.[9]
Gwaddol
golyguYn fuan ar ôl ei farwolaeth, sefydlwyd Sefydliad Cerddoriaeth Richard Tucker gan ei weddw, ei feibion, ei gydweithwyr a'i ffrindiau, "er mwyn parhau i gofio'r tenor mwyaf yn America drwy brosiectau er budd cantorion ifanc dawnus".[10] Ers ei sefydlu, mae Sefydliad Richard Tucker wedi cyflwyno grantiau ac ysgoloriaethau cerddoriaeth leisiol yn gyson. Mae'r derbynwyr, yn cynnwys Rockwell Blake, Renée Fleming, Deborah Voigt, y tenoriaid Richard Leech, Stephen Costello, James Valenti a chantorion opera eraill o fri rhyngwladol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 James A. Drake, Richard Tucker: A Biography (E. P. Dutton, 1984)
- ↑ The Museum of Family History: Richard Tucker adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Great Tenor Richard Tucker To Sing Here Tuesday (The Telegraph, 22 Ebrill,1972) adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Irving Kolodin, The Story of the Metropolitan Opera (Alfred A. Knopf, Inc., 1953, tud. 532
- ↑ Encyclopædia Britannica Richard Tucker adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Richard Tucker ar IMBd[dolen farw] adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Richard Tucker Music Foundation – about Richard Tucker Archifwyd 2019-05-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Richard Tucker ar discogs adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ "Richard Tucker the Met Tenor, Is Dead", New York Times, 1 Ionawr 1975; adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Richard Tucker Music Foundation - About us adalwyd 1 Mai 2019