Opera gan George Frideric Handel, gyda libreto gan Giacomo Rossi, yw Rinaldo (HWV 7). Cafodd ei pherfformiad cyntaf ar 24 Chwefror 1711, yn Theatr y Frenhines, Llundain.[1]

Rinaldo
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi18 g Edit this on Wikidata
GenreOpera seria, opera Edit this on Wikidata
LibretyddGiacomo Rossi Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afHis Majesty's Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af24 Chwefror 1711 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGeorg Friedrich Händel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir

golygu

Ronaldo oedd yr opera Eidaleg gyntaf a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer llwyfan Llundain.[1] Paratowyd y libreto gan Giacomo Rossi o senario a ddarparwyd gan Aaron Hill, a pherfformiwyd y gwaith gyntaf yn Theatr y Frenhines yn yr Haymarket Llundain ar 24 Chwefror 1711. Hanes cariad, rhyfel a gwaredigaeth, a osodwyd ar adeg y Groesgad Gyntaf. Mae wedi'i seilio'n llac ar gerdd epig Torquato Tasso Gerusalemme liberata ("Gwaredigaeth Jerwsalem"). Roedd ei llwyfannu yn cynnwys llawer o effeithiau gwreiddiol a bywiog.[2] Roedd yn llwyddiant mawr gyda'r cyhoedd, er gwaethaf ymateb negyddol gan feirniaid llenyddol a oedd yn elyniaethus i'r duedd gyfredol tuag at adloniant Eidalaidd mewn theatrau yn Lloegr.

Cyfansoddodd Handel Rinaldo yn gyflym, gan fenthyg ac addasu cerddoriaeth o operâu a gweithiau eraill a gyfansoddodd yn ystod arhosiad hir yn yr Eidal yn y blynyddoedd 1706–10, pan sefydlodd enw da a sylweddol. Yn y blynyddoedd yn dilyn y premier, gwnaeth nifer o welliannau i'r sgôr. Mae beirniaid yn ystyried Rinaldo yn un o operâu mwyaf Handel. O'i eitemau unigol, mae'r aria soprano "Lascia ch'io pianga" wedi dod yn ffefryn arbennig, ac mae'n ddarn cyngerdd poblogaidd.

Aeth Handel ymlaen i ddominyddu opera yn Lloegr am sawl degawd. Adfywiwyd Rinaldo yn Llundain yn rheolaidd hyd at 1717, ac mewn fersiwn ddiwygiedig ym 1731. O holl operâu Handel, Rinaldo oedd yr un a berfformiwyd amlaf yn ystod ei oes. Ar ôl 1731, fodd bynnag, ni chafodd yr opera ei llwyfannu am fwy na 200 mlynedd. Arweiniodd diddordeb o'r newydd mewn opera faróc yn ystod yr 20g at y cynhyrchiad proffesiynol modern cyntaf ym man geni Handel, Halle, yr Almaen, ym 1954. Cafodd yr opera ei gosod yn achlysurol dros y deng mlynedd ar hugain canlynol. Ar ôl rhediad llwyddiannus yn Opera Metropolitan Efrog Newydd ym 1984, mae perfformiadau a recordiadau o'r gwaith wedi dod yn fwy cyffredin ledled y byd. Rinaldo oedd Opera cyntaf Handel i'w pherfformio yn y Met.[3] I ddathlu canmlwyddiant yr opera yn 2011 cafyd chynhyrchiad wedi'i foderneiddio yng Ngŵyl Glyndebourne.[4]

 
Rinaldo ac Armida yn syrthio mewn cariad
Rôl [5] Llais Nodiadau Cast y premier, 24 Chwefror 1711
Goffredo: arweinydd y Groesgad Gyntaf. 1096-99 contralto (ên travesti) Tenor ar ôl adolygiad 1731 Francesca Vanini-Boschi
Rinaldo: Pendefig o gyff Este alto castrato Ysgrifennwyd ar gyfer soprano, yn awr yn cael ei chanu gan gontralto, mezzo-soprano neu uwchdenor Nicolò Grimaldi ("Nicolini")
Almirena: merch Goffredo soprano Isabella Girardeau
Eustazio: brawd Goffredo alto castrato Cafodd y rhan hon ei dileu cyn adfywiad 1717, ac yn aml fe'i hepgorir o gynyrchiadau modern Valentino Urbani ("Valentini")
Herald tenor Bas yn adfywiad 1731 "Lawrence"
Argante: Brenin Sarasenaidd Jerwsalem bas Contralto yn adfiwiad 1731, baswr gan amlaf bellach Giuseppe Boschi
Armida: Brenhines Damascus, gordderch Argante soprano Contralto yn adfywiad 1731, soprano gan amlaf bellach Elisabetta Pilotti-Schiavonetti
Dwy forforwyn sopranos anhysbys
Dynes soprano anhysbys
Consuriwr Cristionogol alto castrato Bas ers adfywiad 1731 Giuseppe Cassani
Môr-forynion, ysbrydion, tylwyth teg, swyddogion, gwarchodwyr, cynorthwywyr mud

Crynodeb

golygu
Lle: yn ninas Jerwsalem a'r cyffiniau yn ystod y Groesgad Gyntaf [4]
Amser: 1099

Mae byddin y Groesgad o dan Goffredo yn gosod gwarchae ar Jerwsalem, lle mae'r brenin Saraseniaid, Argante, wedi'i gyfyngu gyda'i filwyr. Gyda Goffredo mae ei frawd Eustazio, ei ferch Almirena, a'r marchog Rinaldo. Wrth i Goffredo ganu am y fuddugoliaeth sydd i ddod, mae Rinaldo yn datgan ei gariad at Almirena, ac mae Goffredo yn cadarnhau mai hi fydd priodferch Rinaldo pan fydd Jerwsalem yn cwympo. Mae Almirena yn annog Rinaldo i ymladd yn eofn a sicrhau buddugoliaeth. Wrth iddi ymadael, mae herodr yn cyhoeddi dynesiad Argante i'r ddinas. Mae Eustazio yn amau bod y brenin yn ofni cael ei drechu. Ymddengys bod hyn yn cael ei gadarnhau pan fydd Argante, ar ôl mynedfa fawreddog, yn gofyn am gadoediad tridiau. Mae Goffredo yn cydsynio’n raslon iddo. Ar ôl i Goffredo ymadael, mae Argante yn pendroni am ei gariad tuag at Armida, Brenhines Damascus sydd hefyd yn ddewines bwerus, ac yn ystyried yr help y gallai ei phwerau rhoi iddo. Wrth iddo fyfyrio, mae Armida yn cyrraedd o'r awyr mewn cerbyd tanllyd. Mae hi wedi proffwydo mai unig siawns y Saraseniaid i ennill yw trechu Rinaldo, ac mae hi’n honni bod ganddi’r gallu i gyflawni hyn.[6]

Mae'r olygfa'n newid i ardd, gyda ffynhonnau ac adar, lle mae Rinaldo ac Almirena yn dathlu eu cariad. Mae ymyrraeth yn digwydd wrth i Armida ymddangos, ac yn tynnu Almirena o gofleidiad gyda Rinaldo. Mae Rinaldo yn tynnu ei gleddyf i amddiffyn ei gariad, ond mae cwmwl du yn disgyn i orchuddio Armida ac Almirena, ac maen nhw'n cael eu cludo i ffwrdd. Mae Rinaldo yn galaru am golli ei anwylyd. Pan fydd Goffredo ac Eustazio yn cyrraedd maen nhw'n cysuro Rinaldo, ac yn cynnig eu bod nhw'n ymweld â chonsuriwr Cristnogol a allai fod â'r pŵer i achub Almirena. Mae Rinaldo, ar ei ben ei hun, yn gweddïo am nerth.[7]

Ar lan y môr.

Wrthi i Goffredo, Eustazio a Rinaldo ymylu at annedd y consuriwr, mae dynes hardd yn galw o’i chwch, gan addo i Rinaldo y gall fynd ag ef i Almirena. Mae dwy forforwyn yn canu am hyfrydwch cariad, ac yn annog Rinaldo i fynd i'r cwch. Mae'n petruso, yn ansicr beth i'w wneud, ac mae ei gymdeithion yn ceisio ei rwystro. Yn ddig gan fod ei anwylyd wedi ei chipio, mae Rinaldo yn mynd i'r cwch, sy'n hwylio i ffwrdd ar unwaith. Mae Goffredo ac Eustazio mewn sioc am fyrbwylltra Rinaldo ac yn credu ei fod wedi eu gadael i lawr.[8]

Yng ngardd plas Armida, mae Almirena yn galaru am ei chaethiwed. Mae Argante yn ymuno â hi ac, wedi ei syfrdanu gan ei harddwch, mae'n cyfaddef ei fod bellach yn ei charu. Mae'n addo y bydd, fel prawf o'i deimladau, yn herio dicter Armida ac yn sicrhau rhyddid Almirena. Yn y cyfamser, deuir â Rinaldo gerbron Armida buddugoliaethus. Wrth iddo fynnu bod Almirena yn cael ei rhyddhau, mae Armida yn cael ei dynnu at ei ysbryd bonheddig, ac yn datgan ei chariad. Pan fydd yn ei gwrthod yn ddig, mae'n defnyddio'i phwerau i gymryd ffurf Almirena, ond mae Rinaldo yn amau twyll, ac yn gadael. Mae Armida, gan ailafael yn ei gwedd ei hun, yn gandryll o gael ei ymwrthod ond eto mae'n cadw teimladau o gariad tyner. Mae hi'n penderfynu ar ymgais arall i gaethiwo Rinaldo, ac yn trawsnewid ei hun yn ôl i siâp Almirena, ond yna'n dod ar draws Argante. Gan gredu mai Almirena yw hi, mae Argante yn ailadrodd ei addewidion cynharach o gariad a rhyddid. Gan ailafael yn gyflym yn ei ffurf ei hun, mae Armida yn condemnio ei anffyddlondeb ac yn addo dial. Mae Argante yn cadarnhau tuag at Almirena ac yn datgan nad oes angen cymorth Armida arno fwyach. Mae hi'n gadael mewn cynddaredd.

Mae Goffredo ac Eustazio yn dod o hyd i’r consuriwr, sy’n dweud wrthyn nhw fod Rinaldo ac Almirena ym mhalas Armida. Wrth geisio dringo’r mynydd i ymosod ar y palas, mae’r Cristnogion yn cael eu gwrthyrru gan ‘angenfilod erchyll yn cario ffaglau wedi’u tenio’. Mae'r consuriwr yn arfogi Goffredo ac Eustazio gyda hudlathau, ac mae'r bwystfilod yn cael eu trechu. Wrth i Goffredo ac Eustazio gyffwrdd â giât y palas â'u hudlathau, mae'n diflannu.

Mae Armida yn addo lladd Almirena er mwyn dial am wrthodiad Rinaldo. Wrth ei bod ar fin ei tharo, mae Rinaldo yn rhuthro ymlaen i ladd y ddewines. Mae ysbrydion yn codi i'w hamddiffyn. Mae Goffredo ac Eustazio yn cael eu haduno â Rinaldo ac Almirena. Mae Rinaldo yn addo i waredu ei hun â gweithredoedd gogoneddus.

Wrth i'r frwydr agosáu, mae Argante ac Armida, sydd bellach wedi eu haduno, yn adolygu eu milwyr. Mae Rinaldo yn edrych ymlaen at fuddugoliaeth a chariad Almirena. Er bod canlyniad y frwydr yn hongian yn y fantol, trechir y Saraseniaid. Mae Rinaldo yn cipio Argante, ond yn ei arbed ef ac Armida pan maen nhw'n cael tröedigaeth i Gristnogaeth. Mae pawb yn uno i ganmol rhinwedd.[9]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Boyden, Matthew, Kimberley, Nick and Staines, Joseph (2007). The Rough Guide to Opera. Llundain: Rough Guides. ISBN 1-84353-538-6.
  • Dean, Winton (1980). "George Frideric Handel". In Sadie, Stanley (gol.). The New Grove Dictionary of Music and Musicians. 8. Llundain: Macmillan. tt. 85–138. ISBN 0-333-23111-2.
  • Dean, Winton; Knapp, J Merrill (1995). Handel's operas: 1704–1726. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 9780198164418. Cyhoeddiwyd yn wreiddiol ym 1987
  • Grout, Donald Jay; Weigel, Hermione (1947). A Short History of Opera, Cyf. 1. Efrog Newydd: Columbia University Press.
  • Grout, Donald Jay (1965). A Short History of Opera. Efrog Newydd: Columbia University Press.
  • Hogarth, George (1835). Memoirs of the Musical Drama, Cyf. 1. Llundain: Richard Bentley.
  • Lang, Paul Henry (1994). George Frideric Handel. Efrog Newydd: Dover Publications. ISBN 0-486-29227-4.
  • Price, Curtis (1987). "English Traditions in Handel's Rinaldo". In Sadie, Stanley; Hicks, Anthony (gol.). Handel: Tercentenary collection. Llundain: Macmillan. ISBN 0-8357-1833-6.
  • Steen, Michael (2009). The Lives and Times of the Great Composers. Llundain: Icon books. t. 47. ISBN 978-1-84046-679-9.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Handel House - Handel's Operas: Rinaldo". Handel and Hendrix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-17. Cyrchwyd 2020-10-02.
  2. Operadmin. "RINALDO by G. F. Handel - the opera guide and synopsis | ♪ Opera guide". Cyrchwyd 2020-10-02.
  3. Henahan, Donal (1984-01-21). "Opera: Premiere of 'Rinaldo' at Met". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-10-02.
  4. 4.0 4.1 "Rinaldo - synopsis". Glyndebourne. Cyrchwyd 2020-10-02.
  5. "Rinaldo (Opera) Characters". StageAgent. Cyrchwyd 2020-10-02.
  6. "23 April 2019 (Tue), 19:00 - Handel. Opera "Rinaldo" (Opera) - Tchaikovsky Concert Hall - OperaAndBallet.com". operaandballet.com. Cyrchwyd 2020-10-02.[dolen farw]
  7. "Synopsis from Rinaldo". Opera-Arias.com. Cyrchwyd 2020-10-02.
  8. B. A., Classical Music and Opera. "Rinaldo Synopsis - The Story of George Frideric Handel's 1711 Opera". LiveAbout. Cyrchwyd 2020-10-02.
  9. Barbican Presents 2017–18 Handel's Rinaldo adalwyd 2 Hydref 2010